Rheoliadau Tribiwnlysoedd Prisio Lesddaliadau (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2014

JurisdictionWales
CitationSI 2014/287

2014Rhif 287 (Cy. 36)

LANDLORD A THENANT, CYMRU

Rheoliadau Tribiwnlysoedd Prisio Lesddaliadau (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2014

11 Chwefror 2014

13 Chwefror 2014

10 Mawrth 2014

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan baragraffau 1 a 9 o Atodlen 12 i Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002( 1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.-(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tribiwnlysoedd Prisio Lesddaliadau (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2014, a deuant i rym ar 10 Mawrth 2014.

(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Tribiwnlysoedd Prisio Lesddaliadau (Ffioedd) (Cymru) 2004

2.-(1) Mae testun Saesneg Rheoliadau Tribiwnlysoedd Prisio Lesddaliadau (Ffioedd) (Cymru) 2004( 2) wedi ei ddiwygio yn unol a pharagraff (2).

(2) Yn rheoliad 8(1) (waiver and reduction of fees)-

(a) ar ddiwedd is-baragraff (e) dileer "or";(b) dileer yr atalnod llawn ar ddiwedd is-baragraff (f); ac(c) ar ôl is-baragraff (f) mewnosoder-

"; or

(g) universal credit."

(3) Mae testun Cymraeg Rheoliadau Tribiwnlysoedd Prisio Lesddaliadau (Ffioedd) (Cymru) 2004 wedi ei ddiwygio yn unol a pharagraff (4).

(4) Yn rheoliad 8(1) (hepgor a lleihau ffioedd)-

(a) ar ddiwedd is-baragraff (ch) dileer "neu";(b) ar ddiwedd is-baragraff (d)(ii) rhodder hanner colon yn lle'r atalnod llawn; ac(c) ar ôl is-baragraff (d)(ii) mewnosoder-"(dd) lwfans cyflogaeth a chymorth yn seiliedig ar incwm sy'n daladwy o dan Ran 1 o Ddeddf Diwygio Lles 2007; neu(e) credyd cynhwysol."

Carl Sargeant

Y Gweinidog Tai ac Adfywio, un o Weinidogion Cymru

11 Chwefror 2014

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio testun Cymraeg a Saesneg Rheoliadau Tribiwnlysoedd Prisio Lesddaliadau (Ffioedd) (Cymru) 2004 ( O.S. 2004/683) o ganlyniad i gyflwyno credyd cynhwysol gan Ran 1 o Ddeddf Diwygio Lles 2012.

Caiff rheoliad 8 ei ddiwygio er mwyn caniatáu ystyried y ffaith bod credyd cynhwysol yn cael ei dderbyn wrth benderfynu a ganiateir hepgor ffi tribiwnlys.

Caiff rhai man ddiwygiadau eu...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT