Rheoliadau yr Amgylchedd, Cynllunio a Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018

JurisdictionWales
CitationWSI 2018/1216 (W249) (Cymru)
Year2018

2018 Rhif 1216 (Cy. 249)

Adnoddau Dŵr, Cymru

Amaethyddiaeth, CymruY Diwydiannau Da Byw

Anifeiliaid, CymruIechyd AnifeiliaidLles Anifeiliaid

Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru

Diogelu’r Amgylchedd, Cymru

Y Diwydiant Dŵr, Cymru

Dŵr, Cymru

Garddwriaeth, Cymru

Gwastraff, Cymru

Hadau, Cymru

Iechyd Planhigion, Cymru

Pysgodfeydd Môr, CymruCadwraeth Pysgod Môr

Rhyddid Gwybodaeth, Cymru

Rheoliadau yr Amgylchedd, Cynllunio a Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018

Gwnaed 20th November 2018

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 23th November 2018

Yn dod i rym 17th December 2018

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan—

(a) adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (“Deddf 1972”)1a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi, ac eithrio i’r graddau y maent yn ymwneud â rheoliadau 2, 5, 15, 16, 36 and 37;

(b) adran 58B o Ddeddf Llywodraeth Cymru 20062, i’r graddau y mae’n ymwneud â rheoliadau 2 a 5;

(c) adrannau 103(1) i (3), (7), 104(4) a (6) o Ddeddf Dŵr 20033, i’r graddau y maent yn ymwneud â rheoliad 15;

(d) adrannau 33A a 219(2)(f) o Ddeddf Adnoddau Dŵr 19914, i’r graddau y maent yn ymwneud â rheoliad 16;

(e) adrannau 1 ac 8 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 19815, i’r graddau y maent yn ymwneud â rheoliadau 36 a 37.

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi6at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf 1972 mewn perthynas ag—

(a) ansawdd dŵr a fwriedir at ddibenion domestig neu i’w ddefnyddio mewn menter cynhyrchu bwyd7;

(b) mesurau sy’n ymwneud ag atal, lleihau a dileu llygredd a achosir gan wastraff a rheoli pecynnu a gwastraff pecynnu8;

(c) atal, lleihau a rheoli gwastraff9;

(d) atal halogi tir ac adfer tir halogedig10;

(e) rheoli perygl llifogydd11;

(f) mesurau sy’n ymwneud ag adnoddau dŵr12;

(g) diogelu dyfroedd rhag llygredd a achosir gan nitradau o ffynonellau amaethyddol13;

(h) y polisi amaethyddol cyffredin14;

(i) y meysydd milfeddygol a ffytoiechydol ar gyfer diogelu iechyd y cyhoedd15;

(j) mesurau sy’n ymwneud â rheoli a rheoleiddio achosion o ryddhau’n fwriadol organeddau a addaswyd yn enetig, gosod yr organeddau hynny ar y farchnad a’u symud ar draws ffiniau16;

(k) polisi amaethyddol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd17;

(l) y meysydd milfeddygol a ffytoiechydol ar gyfer diogelu iechyd y cyhoedd18.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf 1972 ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i ddehongli cyfeiriadau at offerynnau’r UE yn rheoliadau 11, 17(2), 17(3), 18(2)(a), 18(2)(b), 18(3), 23, 37(2)(a) a 37(4) fel cyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd.

1 Cyflwyniad

RHAN 1

Cyflwyniad

S-1 Enwi, cymhwyso a chychwyn

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau yr Amgylchedd, Cynllunio a Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018.

(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 17 Rhagfyr 2018.

2 Diwygiadau i ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â’r amgylchedd

RHAN 2

Diwygiadau i ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â’r amgylchedd

S-2 Rheoliadau Trin Dŵr Gwastraff Trefol (Cymru a Lloegr) 1994

Rheoliadau Trin Dŵr Gwastraff Trefol (Cymru a Lloegr) 1994

2.—(1) Mae Rheoliadau Trin Dŵr Gwastraff Trefol (Cymru a Lloegr) 199419wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn rheoliad 2(1)—

(a)

(a) yn y diffiniad o “the Directive”, ar ôl “treatment,” mewnosoder “as last amended by Regulation (EC) No 1137/2008of the European Parliament and of the Council20,”;

(b)

(b) yn y geiriau ar ôl y diffiniad o “Wales”, ar ôl “used” mewnosoder “in these Regulations and”.

(3) Yn Atodlen 1, yn Rhan 1, ym mharagraff (b), yn lle’r geiriau o “the concentration” hyd at “Member States” rhodder “50 mg/l of nitrates in 95% of the samples”.

S-3 Rheoliadau Dŵr Yfed (Ymgymeriadau) (Cymru a Lloegr) 2000

Rheoliadau Dŵr Yfed (Ymgymeriadau) (Cymru a Lloegr) 2000

3. Yn rheoliad 2 o Reoliadau Dŵr Yfed (Ymgymeriadau) (Cymru a Lloegr) 200021, ar ôl “human consumption)” mewnosoder “, as last amended by Commission Directive (EU) 2015/178722,”.

S-4 Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Cymru) 2002

Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Cymru) 2002

4.—(1) Mae Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Cymru) 200223wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn rheoliad 2(1), yn y diffiniad o “y Gyfarwyddeb Defnydd Amgaeëdig” (“the Contained Use Directive”), yn lle’r geiriau o “Cyfarwyddeb y Cyngor” hyd at y diwedd rhodder “Cyfarwyddeb 2009/41/ECSenedd Ewrop a’r Cyngor ar y defnydd amgaeëdig o ficro-organeddau a addaswyd yn enetig24”.

(3) Yn lle rheoliad 13(4)(c) rhodder—

“(c)

“(c) unrhyw berson, neu unrhyw aelod o bwyllgor diogelwch addasu genetig, y mae’n rhaid cael cyngor ganddo o dan reoliad 8 o Reoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Defnydd Amgaeëdig) 201425,”.

S-5 Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004

Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004

5. Yn rheoliad 18(6) o Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 200426, yn lle’r geiriau o “applies to a decision notice” hyd at y diwedd rhodder “does not apply”.

S-6 Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005

Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005

6.—(1) Mae Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 200527wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn rheoliad 12(3), yn lle “Rheoliad y Cyngor 259/93/EEC28” rhodder “Rheoliad (EC) Rhif 1013/2006Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 14 Mehefin 2006 ar drawslwytho gwastraff29”.

(3) Yn Atodlen 7, ym mharagraff 1(b), yn lle’r geiriau o “yr Atodiad” hyd at “1994” rhodder “Atodiad 1A i Reoliad (EC) Rhif 1013/2006Senedd Ewrop a’r Cyngor ar drawslwytho gwastraff”.

S-7 Rheoliadau Tir Halogedig (Cymru) 2006

Rheoliadau Tir Halogedig (Cymru) 2006

7. Yn rheoliad 3(b)(ii) o Reoliadau Tir Halogedig (Cymru) 200630, ar ôl “polisi dŵr” mewnosoder “fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2014/101/EU31”.

S-8 Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009

Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009

8.—(1) Mae Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 200932wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn rheoliad 20, cyn paragraff (1), mewnosoder—

S-A1

“A1 Pan fo gweithredwr cyfrifol wedi cael hysbysiad oddi wrth yr awdurdod gorfodi o dan reoliad 18, rhaid iddo, yn ddi-oed, canfod mesurau adfer posibl yn unol ag Atodlen 4, a chyflwyno’r mesurau hynny yn ysgrifenedig i’r awdurdod gorfodi i’w cymeradwyo ganddo.”

(3) Yn Atodlen 1, yn lle paragraff 5 rhodder—

S-5

5.—(1) Nid yw difrod i rywogaeth a warchodir neu gynefin naturiol a difrod i safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig yn cynnwys difrod a achosir gan weithred a awdurdodir yn benodol gan yr awdurdodau perthnasol yn unol ag—

(a)

(a) Rheoliadau Cadwraeth (Cynefinoedd Naturiol, &c.) 199433;

(b)

(b) Rheoliadau Gweithgarwch Petrolewm Alltraeth (Cadwraeth Cynefinoedd) 200134;

(c)

(c) Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 201035;

(d)

(d) Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 201736;

(e)

(e) Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau Morol Alltraeth 201737.

(2) Nid yw difrod i safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig yn cynnwys, yn achos safle nad yw’n safle Ewropeaidd, difrod a achosir gan weithred a awdurdodir yn benodol gan yr awdurdodau perthnasol yn unol â Rhan 2 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 198138.

(3) Yn is-baragraff (2), mae i “safle Ewropeaidd” yr un ystyr ag a roddir i “European site” yn rheoliad 8 o Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017.”

S-9 Rheoliadau Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad (Cofrestru, Modrwyo a Marcio Adar Caeth Penodol) (Cymru) 2011

Rheoliadau Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad (Cofrestru, Modrwyo a Marcio Adar Caeth Penodol) (Cymru) 2011

9.—(1) Mae Rheoliadau Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad (Cofrestru, Modrwyo a Marcio Adar Caeth Penodol) (Cymru) 201139wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn rheoliad 5(3), yn y diffiniad o “tystysgrif CITES” (“CITES certificate”), ar ôl “fasnach ynddynt” mewnosoder “, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EU) 2017/16040,”.

(3) Yn rheoliad 6(2), ar y diwedd mewnosoder “, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EU) 2015/87041”.

S-10 Gorchymyn Llifogydd ac Erydu Arfordirol Atodol (Cymru) 2011

Gorchymyn Llifogydd ac Erydu Arfordirol Atodol (Cymru) 2011

10. Yn erthygl 3(4) o Orchymyn Llifogydd ac Erydu Arfordirol Atodol (Cymru) 201142

(a) yn is-baragraff (b), ar y diwedd mewnosoder “, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2013/17(EU)43”;

(b) yn is-baragraff (c), ar ôl “polisi dŵr” mewnosoder “, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2014/101/EU”;

(c) ar ôl is-baragraff (c) hepgorer “a”;

(d) yn is-baragraff (ch), ar y diwedd mewnosoder “, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2013/17/EU”.

S-11 Rheoliadau Gwastraff a Reolir (Cymru a Lloegr) 2012

Rheoliadau Gwastraff a Reolir (Cymru a Lloegr) 2012

11. Yn Atodlen 1 i Reoliadau Gwastraff a Reolir (Cymru a Lloegr) 201244, ym mharagraff 1, yn y diffiniad o “clinical waste”, ym mharagraff (c), yn lle’r geiriau o “Council Directive” hyd at y diwedd rhodder “Regulation (EC) No 1272/2008of the European Parliament and of the Council on classification, labelling and packaging of substances and mixtures45, as amended from time to time,”.

S-12 Rheoliadau Dyfroedd Ymdrochi 2013

Rheoliadau Dyfroedd Ymdrochi 2013

12. Yn rheoliad 2(2) o Reoliadau Dyfroedd Ymdrochi 201346, ar ôl “water policy” mewnosoder “, as last amended by Commission Directive 2014/101/EU”.

S-13 Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) 2013

Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) 2013

13.—(1) Mae Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) 201347wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn rheoliad 6, yn y diffiniad o “rhanddirymiad” (“derogation”), hepgorer “a Phenderfyniad y Comisiwn 2013/781/EU”.

(3) Yn rheoliad 11(2)(b), ar y diwedd mewnosoder “, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn (EU) 2015/178748”.

(4) Yn rheoliad 22(2)(a)(ii), ar y diwedd mewnosoder “, neu Reoliad (EU) 1305/201349”.

S-14 Rheoliadau Trwyddedu...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT