2004 Rhif 3054 (Cy.263)
Jurisdiction | UK Non-devolved |
Citation | SI 2004/3054 |
Year | 2004 |
2004 Rhif 3054 (Cy.263)
TRAFNIDIAETH A GWEITHFEYDD, CYMRU
GOSODIADAU AR Y MôR, CYMRU
TRYDAN, CYMRU
Gorchymyn Fferm Wynt ar y Môr Cefnenni Tywod Scarweather 2004
16 Tachwedd 2004
19 Tachwedd 2004
TREFN YR ERTHYGLAU
RHAN I
RHAGARWEINIAD
1. |
Enwi a chychwyn |
2. |
Dehongli |
RHAN II
GWEITHFEYDD
Prif bwerau
3. |
Y pwer i adeiladu a chynnal a chadw gweithfeydd |
4. |
Y pwer i wyro |
Strydoedd
5. |
Y pwer i wneud gwaith stryd |
6. |
Cau strydoedd dros dro |
Pwerau atodol
7. |
Y pwer i arolygu ac archwilio tir |
Diogelu mordwyo a thraffig awyr, a rheoli swn
8. |
Gweithfeydd llanw'r môr na ddylid eu gweithredu heb gymeradwyaeth yr Ysgrifennydd Gwladol |
9. |
Darparu yn erbyn peryglon i fordwyo |
10. |
Diddymu gweithfeydd sydd wedi'u gadael neu sydd wedi dadfeilio |
11. |
Arolygu gweithfeydd llanw'r môr |
12. |
Goleuadau parhaol, cymhorthion diogelwch wrth fordwyo a lliwiau |
13. |
Goleuadau ar weithfeydd llanw'r môr yn ystod gwaith adeiladu |
14. |
System rheoli diogelwch weithredol |
15. |
Swn wrth adeiladu a gweithredu |
16. |
Yr Ysgrifennydd Gwladol yn gweithredu gweithfeydd mewn diffyg |
17. |
Tramgwyddau |
RHAN III
CAFFAEL A MEDDU AR DIR
Pwerau caffael
18. |
Y pwer i gaffael tir |
19. |
Cymhwyso Rhan I o Ddeddf Prynu Gorfodol 1965 |
20. |
Y pwer i gaffael hawliau newydd |
Meddu ar dir dros dro
21. |
Defnyddio tir dros dro ar gyfer adeiladu gweithfeydd |
Iawndal
22. |
Diystyru buddiannau a gwelliannau penodol |
23. |
Dileu neu atal dros dro hawliau tramwy preifat |
24. |
Terfyn amser ar gyfer arfer pwerau caffael |
RHAN IV
AMRYWIOL A CHYFFREDINOL
25. |
Y pwer i weithredu a defnyddio gweithfeydd |
26. |
Datgymhwyso adrannau 36 a 37 o Ddeddf Trydan 1989 |
27. |
Rhwystro a chamddefnyddio gweithfeydd awdurdodedig |
28. |
Parthau diogelwch ar gyfer mordwyo, treillio ac angori |
29. |
Tir penodol sydd i'w drin fel tir gweithredol |
30. |
Ymgymerwyr statudol, etc. |
31. |
Er mwyn diogelu Asiantaeth yr Amgylchedd |
32. |
Er mwyn diogelu Network Rail |
33. |
Iawndal i bysgotwyr |
34. |
Ardystio planiau, etc. |
35. |
Cyflwyno hysbysiadau |
36. |
Dim adennill dwbl |
37. |
Trosglwyddo pwerau |
38. |
Hawliau'r Goron |
39. |
Cymrodeddu |
YR ATODLENNI
Atodlen 1 |
Y gweithfeydd a restrwyd |
Atodlen 2 |
Y strydoedd sydd i'w cau dros dro |
Atodlen 3 |
Addasu deddfiadau o ran iawndal a phrynu gorfodol i greu hawliau newydd |
Atodlen 4 |
Y darpariaethau o ran ymgymerwyr statudol, etc. |
Atodlen 5 |
Er mwyn diogelu Asiantaeth yr Amgylchedd |
Atodlen 6 |
Er mwyn diogelu Network Rail |
GAN FOD cais wedi'i wneud i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol"), yn unol â Rheolau Trafnidiaeth a Gweithfeydd (Gweithdrefn Cyflwyno Ceisiadau a Gwrthwynebiadau) (Cymru a Lloegr) 2000( 1) a wnaed o dan adrannau 6, 6A, 7 a 10 o Ddeddf Trafnidiaeth a Gweithfeydd 1992( 2)("Deddf 1992"), am Orchymyn o dan adran 3 o Ddeddf 1992;
A chan fod y Cynulliad Cenedlaethol wedi peri bod ymchwiliad yn cael ei gynnal at ddibenion y cais yn unol ag adran 11 o Ddeddf 1992;
A chan fod y Cynulliad Cenedlaethol, ac yntau wedi ystyried adroddiad y person a gynhaliodd yr ymchwiliad, wedi penderfynu gwneud Gorchymyn i roi effaith i'r cynigion a geir yn y cais gydag addasiadau nad ydynt yn gwneud unrhyw newid sylweddol i'r cynigion yn ei farn ef;
A chan fod hysbysiad o benderfyniad y Cynulliad Cenedlaethol wedi'i gyhoeddi yn y London Gazette ar 2 Tachwedd 2004;
YN AWR FELLY, mae'r Cynulliad Cenedlaethol, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 3 a 5 o Ddeddf 1992, a pharagraffau 1 i 5, 7, 8, 10, 11 a 15 i 17 o Atodlen 1 iddi, ac sydd bellach yn arferadwy gan y Cynulliad Cenedlaethol( 3), a phob pwer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
RHAN I
RHAGARWEINIOL
Enwi a chychwyn
1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Fferm Wynt ar y Môr Cefnenni Tywod Scarweather 2004 a daw i rym ar 19 Tachwedd 2004.
Dehongli
2. - (1) Yn y Gorchymyn hwn -
mae i "awdurdod stryd", mewn perthynas â stryd, yr un ystyr ag sydd i "street authority" yn Rhan III o'r Ddeddf Gwaith Stryd;
ystyr "y ceblau cludo i'r môr" ("the marine feeder cables") yw'r ceblau a geir yng Ngwaith Rhif 2;
ystyr "y ceblau rhyngdyrbinau" ("the inter-turbine cables") yw'r ceblau a ddisgrifir ym mharagraff 1(b) o Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn;
mae i "cerbytffordd", "llwybr troed", "priffordd" ac "awdurdod priffyrdd" yr un ystyr ag sydd i "carriageway", "footpath", "highway" a "highway authority" yn Neddf Priffyrdd 1980( 4);
ystyr "cwch" ("vessel") yw llong, cwch, rafft, neu fad o ba ddisgrifiad bynnag, ac mae'n cynnwys unrhyw fad nad yw'n dadleoli, awyrennau môr ac unrhyw beth arall a adeiladir neu a addasir er mwyn arnofio ar ddwr neu i'w roi dan ddwr (boed hynny'n barhaol neu dros dro), a hofranfad neu gerbyd amffibiaidd arall;
ystyr "cyfeirbwynt" ("reference point") yw cyfeirbwynt Grid Cenedlaethol yr Arolwg Ordnans;
ystyr "y cyfeirlyfr" ("the book of reference") yw'r cyfeirlyfr a ardystiwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol fel y cyfeirlyfr at ddibenion y Gorchymyn hwn;
mae "cynnal a chadw" ("maintain", "maintenance") yn cynnwys archwilio, cynnal a chadw, trwsio, addasu, newid, symud, ailadeiladu ac amnewid;
ystyr "Deddf 1961" ("the 1961 Act") yw Deddf Iawndal Tir 1961( 5);
ystyr "Deddf 1965" ("the 1965 Act") yw Deddf Prynu Gorfodol 1965( 6);
ystyr "y Ddeddf Gwaith Stryd" ("the Street Works Act") yw Deddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991( 7));
mae "deddfiad" ("enactment") yn cynnwys unrhyw orchymyn, is-ddeddf, rheol, rheoliad, cynllun neu offeryn arall sydd ag effaith yn rhinwedd deddfiad;
ystyr "gwaith llanw'r môr" ("tidal work") yw rhywfaint o unrhyw waith awdurdodedig sydd ar, o dan neu dros ddyfroedd y llanw;
ystyr "y gweithfeydd a restrwyd" ("the scheduled works") yw'r gweithfeydd a bennir yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn neu unrhyw ran ohonynt;
ystyr "gweithfeydd awdurdodedig" ("authorised works") yw'r gweithfeydd a restrwyd, y gweithfeydd a'r cyfleusterau a ddisgrifir yn erthygl 3(4), a'r mast presennol ac eithrio yn erthyglau 8 i 17;
ystyr "lefel y dwr uchel" ("the level of high water") yw lefel y llanwau mawr uchel cymedrig;
mae i "llinell drydan" yr un ystyr ag sydd i "electric line"yn adran 64(1) o Ddeddf Trydan 1989( 8);
ystyr "y mast presennol" ("the existing mast") yw'r mast anemometreg presennol sydd ar wely Bae Abertawe ac sy'n cydffinio â'r arfordir wrth Bort Talbot ym Mwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, ac a leolir wrth gyfeirbwynt 271709Dn, 176723G;
ystyr "y peilon trydan presennol" ("the existing electricity pylon") yw'r peilon trydan wrth gyfeirbwynt 278906Dn, 185778G ac mae'n cynnwys unrhyw gyfarpar sy'n atodol i'r peilon hwnnw;
ystyr "perchennog" ("owner"), mewn perthynas â thir, yw person, ac eithrio morgeisai nad yw'n meddu ar dir, sydd am y tro â'r hawl i waredu ffi syml y tir (boed hynny mewn meddiant neu rifersiwn) ac y mae'n cynnwys person sy'n dal y tir, neu sydd â'r hawl i gael y rhenti a'r elw o'r tir, pan fo'r tir hwnnw o dan les neu denantiaeth sydd â mwy na 3 blynedd ar ôl i redeg;
ystyr "planiau'r gweithfeydd" ("the works plans") yw'r planiau a ardystiwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol fel planiau'r gweithfeydd at ddibenion y Gorchymyn hwn;
ystyr "planiau'r tir" ("the land plans") yw'r planiau a ardystiwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol fel y planiau tir at ddibenion y Gorchymyn hwn; ac mae cyfeiriadau at dir a ddangosir yn y planiau hynny yn gyfeiriadau at dir a ddangosir felly yn unol â rheol 12(5);
ystyr "y Rheolau Ceisiadau" ("the Applications Rules") yw Rheolau Trafnidiaeth a Gweithfeydd (Gweithdrefn Cyflwyno Ceisiadau a Gwrthwynebiadau) (Cymru a Lloegr) 2000( 9); ac mae cyfeiriadau yn y Gorchymyn hwn at reolau â Rhif yn gyfeiriadau at y rheolau sy'n dwyn y Rhif au hynny yn y Rheolau Ceisiadau;
ystyr "safle'r fferm wynt" ("the wind farm site") yw'r ardal a ddangosir ar blaniau'r gweithfeydd o fewn terfynau'r gwyro ar gyfer y ceblau rhyngdyrbinau;
mae "stryd" ("street") yn cynnwys rhan o stryd;
ystyr "terfynau'r gwyro" ("the limits of deviation"), mewn perthynas â gweithfeydd, yw'r terfynau gwyro ar gyfer y gweithfeydd hynny a ddangosir ar blaniau'r gweithfeydd;
ystyr "y trawsluniau ("the sections") yw'r trawsluniau a ardystiwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol fel y trawsluniau at ddibenion y Gorchymyn hwn;
ystyr "y Tribiwnlys" ("the Tribunal") yw'r Tribiwnlys Tiroedd;
ystyr "Trinity House" yw "the Corporation of the Trinity House of Deptford Strond";
ystyr "tyrbin gwynt" ("wind turbine") yw cynhyrchydd tyrbin gwynt fel a ddisgrifir ym mharagraff 1(a) o Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn; ac
ystyr "yr ymgymerwr" ("the undertaker") yw Scarweather Sands Limited neu unrhyw berson y trosglwyddwyd y pwerau a roddir gan y Gorchymyn hwn iddo drwy gytundeb yn unol ag erthygl 37;
(2) Mae cyfeiriadau yn y Gorchymyn hwn at hawliau dros dir yn cynnwys cyfeiriadau at hawliau i wneud, neu i osod a chynnal a chadw, unrhyw beth yn y tir neu arno, neu yn y gofod awyr sydd uwchben ei arwynebedd.
(3) Dehonglir pob cyfeiriad, pellter, hyd a phwyntiau a geir yn unrhyw ddisgrifiad o weithfeydd, pwerau neu diroedd fel pe bai'r geiriau "fwy neu lai" wedi'u mewnosod ar ôl pob cyfeiriad, pellter, hyd a phwynt o'r fath.
(4) Dehonglir unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at waith a nodir gan rif y gwaith fel cyfeiriad at y gwaith sy'n dwyn y Rhif hwnnw ac a awdurdodwyd gan y Gorchymyn hwn.
(5) Dehonglir cyfeiriadau yn y Gorchymyn hwn at bwyntiau a nodir gan lythrennau fel cyfeiriadau at y pwyntiau sy'n dwyn y llythrennau hynny ar blaniau'r gweithfeydd.
RHAN II
GWEITHFEYDD
Prif bwerau
Y pwer i adeiladu a chynnal a chadw gweithfeydd
3. - (1) Caiff yr ymgymerwr adeiladu a chynnal a chadw y gweithfeydd a restrwyd.
(2) Caiff yr ymgymerwr gadw a chynnal y mast presennol.
(3) Yn ddarostyngedig i erthygl 4, rhaid i'r gweithfeydd a restrwyd gael eu hadeiladu a'u cynnal a'u cadw yn y llinellau neu'r safleoedd a ddangosir ar blaniau'r gweithfeydd ac yn unol â'r lefelau a ddangosir ar y trawsluniau.
(4) Caiff yr ymgymerwr, o fewn terfynau gwyro'r gweithfeydd a restrwyd, wneud, darparu a chynnal a chadw y cyfryw rai o'r gweithfeydd...
To continue reading
Request your trial