Rheoliadau Adeiladu (Diwygio) (Cymru) 2017
Year | 2017 |
2017 Rhif 1274 (Cy. 296)
ADEILADU AC ADEILADAU, CYMRU
Rheoliadau Adeiladu (Diwygio) (Cymru) 2017
Gwnaed 12Rhagfyr 2017
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 15Rhagfyr 2017
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 1 a 34 o Ddeddf Adeiladu 1984(1), a pharagraffau 2, 4, 4A, 7, 8 a 10 o Atodlen 1 iddi, sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy(2), ar ôl ymgynghori â Phwyllgor Cynghori Cymru ar Reoliadau Adeiladu a'r cyrff eraill hynny yr ymddengys iddynt eu bod yn cynrychioli'r buddiannau o dan sylw yn unol ag adran 14(7) o'r Ddeddf honno(3), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adeiladu (Diwygio) (Cymru) 2017.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar y dyddiadau a ganlyn—
(a) y rheoliad hwn, rheoliad 2(1), 2(3)(a), 2(3)(b)(i) a 2(3)(b)(iii) ar 15 Ionawr 2018;
(b) rheoliad 2(3)(b)(ii) ar 28 Chwefror 2018;
(c) rheoliadau 2(2) a 3 ar 1 Ebrill 2018.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru ond nid ydynt yn gymwys mewn perthynas ag adeiladau ynni a eithrir yng Nghymru.
(4) Yn y rheoliad hwn mae i “adeilad ynni a eithrir” yr ystyr a roddir i “excepted energy building” gan yr Atodlen i Orchymyn Gweinidogion Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) (Rhif 2) 2009(4).
Diwygio Rheoliadau Adeiladu 2010
2.—(1) Mae Rheoliadau Adeiladu 2010(5) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 37A(1) (darparu systemau llethu tân awtomatig)(6) yn lle is-baragraff (b)(i) rhodder—
“(i) a hostel providing temporary accommodation to those who are ordinarily resident elsewhere;”.
(3) Yn Atodlen 3 (cynlluniau hunanardystio ac esemptiadau i'r gofyniad i roi hysbysiad adeiladu neu adneuo planiau llawn)(7)—
(a) ym mharagraffau 4, 8, 9, 12, 13, 14 a 15 o golofn 2, hepgorer “Benchmark Certification Limited,”;
(b) ym mharagraffau 10 ac 11 o golofn 2—
(i) o flaen “BM Trada Certification Limited” mewnosoder “Assure Certification Limited(8),”;
(ii) hepgorer “BM Trada Certification Limited,”; a
(iii) hepgorer “, Network VEKA Limited”.
Darpariaeth drosiannol
3. Nid yw'r diwygiad a wneir gan reoliad 2(2) yn gymwys mewn unrhyw achos pan fo, cyn y dyddiad y daw'r rheoliad hwnnw i rym—
(a) hysbysiad adeiladu, hysbysiad cychwynnol, hysbysiad diwygio neu hysbysiad corff cyhoeddus yn cael ei roi i awdurdod lleol, neu gynlluniau llawn yn cael eu hadneuo gydag awdurdod lleol; neu
(b) gwaith adeiladu yn cael ei wneud neu wedi ei...
To continue reading
Request your trial