Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Cymru) 2001

Year2001

2001Rhif 2284 (Cy.173)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Cymru) 2001

21 Mehefin 2001

28 Gorffennaf 2001

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 31(1) a 32(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000( 1).

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 28 Gorffennaf 2001.

(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Dehongli

2. Yn y Rheoliadau hyn -

ystyr "awdurdod lleol" ("local authority") (ac eithrio lle mae'r cyd-destun yn mynnu fel arall) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol sy'n gweithredu trefniadau amgen;

ystyr "Bwrdd" ("Board") yw pwyllgor awdurdod lleol a sefydlir o dan reoliad 4(1)(a) sydd wedi'i sefydlu i arfer y swyddogaethau a grybwyllir yn rheoliad 7 ac a adnabyddir fel Bwrdd y Cyngor neu unrhyw deitl arall y darperir ar ei gyfer yn rheolau sefydlog yr awdurdod lleol;

ystyr "corff perthnasol" ("relevant body") at ddibenion rheoliadau 13 a 19 yw awdurdod lleol neu Fwrdd;

ystyr "Deddf 1972" ("the 1972 Act") yw Deddf Llywodraeth Leol 1972( 2);

ystyr "Deddf 2000" ("the 2000 Act") yw Deddf Llywodraeth Leol 2000;

ystyr "grwp gwleidyddol" ("political group") yw grwp gwleidyddol yn unol â rheoliad 8 o Reoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau a Grwpiau Gwleidyddol) 1990( 3);

ystyr "prif bwyllgor craffu" ("principal scrutiny committee") yw pwyllgor neu is-bwyllgor i'r awdurdod a sefydlir o dan reoliad 4(1);

ystyr "pwyllgor archwilio" ("audit committee") yw pwyllgor i awdurdod lleol a sefydlir o dan reoliad 4(2)(ch) sy'n cael ei sefydlu i arfer swyddogaethau yn unol â rheoliad 5(7) ac a adnabyddir fel y Pwyllgor archwilio neu unrhyw deitl arall y darperir ar ei gyfer yn rheolau sefydlog yr awdurdod lleol;

ystyr "pwyllgor ardal" ("area committee") yw pwyllgor neu is-bwyllgor i awdurdod lleol -

(i) a sefydlir o dan reoliad 4(2)(c) gyda phwerau dirprwyedig i arfer rhai neu'r cyfan o'r swyddogaethau yn rhan A o Atodlen 1; a(ii) sy'n bodloni'r amodau canlynol:(a) bod y pwyllgor neu'r is-bwyllgor wedi'i sefydlu i gyflawni'r swyddogaethau hynny a gyfeirir atynt ym mharagraff (i) mewn perthynas â rhan o ardal yr awdurdod;(b) bod aelodau'r pwyllgor neu'r is-bwyllgor sy'n aelodau'r o'r awdurdod wedi'u hethol dros adrannau neu wardiau etholiadol sydd yn gyfan gwbl neu'n rhannol o fewn y rhan honno; a(c) nad yw poblogaeth y rhan honno, yn ôl amcangyfrif yr awdurdod, yn llai na phymtheg y cant o gyfanswm poblogaeth ardal yr awdurdod fel y mae wedi'i amcangyfrif felly.

ystyr "pwyllgor craffu" ("scrutiny committee") yw pwyllgor neu is-bwyllgor i'r awdurdod a sefydlir o dan reoliad 4(1)(c).

ystyr "pwyllgor cynllunio" ("planning committee") yw pwyllgor i'r awdurdod â chanddo bŵer dirprwyedig i arfer rhai neu'r cyfan o'r swyddogaethau hynny yn Atodlen 1, a adnabyddir fel y Pwyllgor Cynllunio neu unrhyw deitl arall y darperir ar ei gyfer yn rheolau sefydlog yr awdurdod lleol;

ystyr "pwyllgor trwyddedu" ("licensing committee") yw pwyllgor i awdurdod lleol a chanddo bwerau dirprwyedig i arfer rhai neu'r cyfan o'r swyddogaethau hynny a restrir yn Atodlen 1, a adnabyddir fel y Pwyllgor Trwyddedu neu unrhyw deitl arall y darperir ar ei gyfer yn rheolau sefydlog yr awdurdod lleol;

ystyr "trefniadau amgen" ("alternative arrangements") yw trefniadau gan awdurdod lleol mewn perthynas â chyflawni eu swyddogaethau sy'n drefniadau yn unol â rheoliad 4.

Yr awdurdodau lleol a gaiff weithredu trefniadau amgen

3. Caiff pob awdurdod lleol weithredu trefniadau amgen.

Ffurf trefniadau amgen

4. - (1) Rhaid i awdurdod lleol sy'n gweithredu trefniadau amgen sefydlu -

(a) Bwrdd; a(b) yn ddarostyngedig i reoliad 6, prif bwyllgor craffu; ac(c) yn ddarostyngedig i reoliad 6 unrhyw bwyllgorau craffu ychwanegol (heb fod yn llai na thri nac yn fwy nag wyth o ran nifer) y gall rheolau sefydlog yr awdurdod lleol ddarparu ar eu cyfer.

(2) Fe gaiff awdurdod lleol sy'n gweithredu trefniadau amgen sefydlu -

(a) pwyllgor cynllunio;(b) pwyllgor trwyddedu(c) unrhyw bwyllgorau ardal y gall rheolau sefydlog yr awdurdod lleol ddarparu ar eu cyfer; ac(ch) pwyllgor archwilio.

(3) Mae'r trefniadau a nodir yn y Rheoliadau hyn yn cael eu pennu fel y trefniadau amgen at ddibenion Rhan II o Ddeddf 2000.

Gofynion pwyllgorau ac is-bwyllgorau

5. - (1) Mae pob pwyllgor i awdurdod lleol a sefydlir o dan reoliad 4 a phob is-bwyllgor i bwyllgor o'r fath i gael ei drin -

(a) fel pwyllgor neu is-bwyllgor i brif gyngor at ddibenion Rhan VA o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (cyfle i fynd i gyfarfodydd ac i weld dogfennau awdurdodau, pwyllgorau ac is-bwyllgorau penodol) a(b) fel corff y mae adran 15 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1980( 4) (dyletswydd i ddyrannu seddau i grwpiau gwleidyddol) yn gymwys iddo.

(2) Rhaid i bwyllgor i awdurdod lleol a sefydlir o dan reoliad 4, ac eithrio pwyllgor ardal a sefydlir o dan reoliad 4(2)(c), gynnwys uchafswm o ddeg aelod neu ugain y cant o aelodau'r awdurdod, (wedi'i gyfrifo drwy dalgrynnu nifer yr aelodau i fyny i'r rhif cyfan agosaf pan nad yw nifer yr aelodau yn rhif cyfan wrth gyfrifo'r ganran) p'un bynnag yw'r mwyaf.

(3) Rhaid i awdurdod lleol sy'n gweithredu trefniadau amgen ddyrannu cadeiryddiaethau pwyllgorau a sefydlir o dan reoliad 4 er mwyn sicrhau, cyn belled ag y bo'n ymarferol, fod cydbwysedd y grwpiau gwleidyddol yn yr awdurdod lleol yn cael ei adlewyrchu gan y cadeiryddiaethau hynny.

(4) Rhaid i bwyllgor cynllunio, pwyllgor trwyddedu neu bwyllgor ardal a sefydlir o dan reoliad 4 neu is-bwyllgor i bwyllgor o'r fath sy'n gyfrifol am unrhyw un o'r swyddogaethau a restrir yn Rhan A o Atodlen 1 (swyddogaethau sy'n ymwneud â chynllunio gwlad a thref a rheoli datblygu) gael wyth aelod o leiaf.

(5) Pan fydd awdurdod lleol yn sefydlu pwyllgorau ardal -

(a) rhaid cael o leiaf dri phwyllgor o'r fath a rhaid iddynt ymdrin â'r cyfan o ardal yr awdurdod lleol; a(b) bydd gan bob aelod o'r awdurdod lleol hawl i fod yn aelod o un pwyllgor ardal.

(6) Caiff y Bwrdd gynnwys cadeirydd pwyllgor cynllunio'r awdurdod lleol a chadeiryddion pwyllgorau ardal os oes pwyllgorau o'r fath wedi'u sefydlu yn unol â rheoliad (4)(2).

(7) I'r graddau y gellir dirprwyo pwerau awdurdod lleol ynghylch ei swyddogaethau archwilio o dan unrhyw ddeddfiad i bwyllgor neu is-bwyllgor, caiff awdurdod lleol ddirprwyo i bwyllgor archwilio.

(8) O ran pwyllgor archwilio a sefydlir o dan 4(2)(ch):

(a) rhaid iddo beidio â chynnwys unrhyw un o aelodau'r Bwrdd; a(b) rhaid iddo beidio â chael cadeirydd sy'n aelod o'r un grwp gwleidyddol â Chadeirydd y Bwrdd (ac eithrio lle nad oes ond un grwp gwleidyddol); ac(c) caiff benodi un neu fwy o is-bwyllgorau; ac(ch) caiff drefnu i unrhyw is-bwyllgor o'r fath gyflawni unrhyw un o'i swyddogaethau.

(9) Ni chaiff is-bwyllgor i bwyllgor archwilio gyflawni unrhyw swyddogaethau heblaw'r rheiny a roddir iddo o dan baragraffau (7) ac (8).

(10) Caiff pwyllgor archwilio neu unrhyw is-bwyllgor i bwyllgor o'r fath, gynnwys personau nad ydynt yn aelodau o'r awdurdod, ond ni fydd gan unrhyw bersonau o'r fath hawl i bleidleisio mewn unrhyw un o gyfarfodydd pwyllgor neu is-bwyllgor o'r fath ar unrhyw gwestiwn sy'n gofyn am benderfyniad yn y cyfarfod hwnnw ac ni fydd ganddynt hawl i fod yn gadeirydd pwyllgor neu is-bwyllgor o'r fath.

Prif bwyllgorau craffu a phwyllgorau craffu

6. - (1) Rhaid i brif bwyllgor craffu a sefydlir o dan reoliad 4(1)(b):

(a) beidio â chynnwys unrhyw un o aelodau'r Bwrdd; a(b) peidio â chael cadeirydd sy'n aelod o'r un grwp gwleidyddol â chadeirydd y Bwrdd (ac eithrio pan nad oes ond un grwp gwleidyddol); a(c) gael cadeirydd sydd yn aelod o'r awdurdod.

(2) Rhaid i bwyllgor craffu a sefydlir o dan reoliad 4(1)(c) -

(a) cynnwys ymhlith ei aelodaeth fwyafrif o aelodau'r awdurdod nad ydynt yn aelodau o'r Bwrdd ac fe gaiff gynnwys ymhlith ei aelodaeth hyd at dri aelod o'r Bwrdd ond ni fydd gan unrhyw aelod o'r Bwrdd hawl i fod yn gadeirydd ar bwyllgor craffu; a(b) cael cadeirydd sydd yn aelod o'r awdurdod.

(3) Bydd gan Bwyllgor Craffu a sefydlir o dan reoliad 4(1)(c) bŵer dirprwyedig -

(a) i adolygu neu graffu ar benderfyniadau a wnaed, neu gamau a gymerwyd, mewn cysylltiad â chyflawni unrhyw un o swyddogaethau'r awdurdod;(b) i gyflwyno adroddiadau neu argymhellion i'r awdurdod mewn cysylltiad â chyflawni unrhyw un o swyddogaethau'r awdurdod;(c) i gyflwyno adroddiadau neu argymhellion i'r awdurdod neu i drigolion yr ardal honno;(ch) i argymell, mewn achos lle mae penderfyniad wedi'i wneud ond heb ei weithredu, fod y penderfyniad yn cael ei ailystyried gan y pwyllgor, yr is-bwyllgor neu'r person a wnaeth y penderfyniad; a(d) i drefnu bod ei swyddogaeth o dan baragraff (i) yn cael ei harfer gan yr awdurdod.

(4) Bydd gan brif bwyllgor craffu a sefydlir o dan reoliad 4(1)(c) y pwer dirprwyedig i ymgymryd â swyddogaethau pwyllgor archwilio yn unol â pharagraff (3) ond bydd y pwerau hynny'n arferadwy i'r graddau y maent yn ymwneud â swyddogaethau'r Bwrdd yn unig.

(5) Yn ddarostyngedig i baragraff (6), ni chaiff pwyllgor craffu gyflawni unrhyw swyddogaeth heblaw yn unol â'r rheoliadau hyn.

(6) Os nad yw, neu i'r graddau nad yw, swyddogaeth awdurdod lleol o gynnal adolygiadau'r gwerth gorau o dan adran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999( 5) yn gyfrifoldeb i Fwrdd yr awdurdod, caiff yr awdurdod drefnu i'r prif bwyllgor craffu neu i unrhyw bwyllgor craffu gynnal adolygiad o'r fath.

(7) Caiff prif bwyllgor craffu a phwyllgor craffu -

(a) penodi un neu ragor o is-bwyllgorau, a(b) trefnu i unrhyw is-bwyllgor o'r fath gyflawni unrhyw un o'i swyddogaethau.

(8) Ni chaiff is-bwyllgor i brif pwyllgor craffu neu bwyllgor craffu gyflawni unrhyw swyddogaethau heblaw'r rhai a roddir iddo o dan baragraff (6).

(9) Rhaid i drefniadau amgen gan awdurdod lleol gynnwys darpariaeth sydd -

(a) yn galluogi unrhyw aelod o brif bwyllgor craffu neu bwyllgor craffu i sicrhau bod unrhyw fater sy'n berthnasol i swyddogaethau'r pwyllgor yn...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT