Rheoliadau Cynlluniau Datblygu Addysg (Cymru) 2002

Year2002

2002 Rhif 1187 (Cy.135)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Cynlluniau Datblygu Addysg (Cymru) 2002

25 Ebrill 2002

26 Ebrill 2002

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddir iddo gan adrannau 6(4) a (5), 7(1) a (9) a 138(7) ac (8) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(1) ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(2) : -

RHAN I

CYFFREDINOL

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynlluniau Datblygu Addysg (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 26 Ebrill 2002.

(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag awdurdodau addysg lleol yng Nghymru yn unig.

(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â chynlluniau llawn 2002 - 05 a chynlluniau dilynol (p'un ai llawn neu atodol) yn unig.

Diddymu ac arbed

2. - (1) Mae'r Rheoliadau hyn yn diddymu Rheoliadau Cynlluniau Datblygu Addysg (Cymru) 1999(3).

(2) Ni fydd diddymu'r rheoliadau yn (1) uchod yn rhagfarnu dilysrwydd parhaus y cynlluniau sydd eisoes wedi'u gwneud o dan y rheoliadau hynny.

Dehongli

3. - (1) Yn y Rheoliadau hyn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall -

mae i "anghenion addysgol arbennig" yr ystyr a roddir i "special educational needs" gan adran 312(1) o Ddeddf Addysg 1996;

ystyr "atodiadau" ("annexes") yw atodiadau i ddatganiad o gynigion sy'n ffurfio rhan o gynllun strategol addysg;

ystyr "awdurdod" ("authority") yw awdurdod addysg lleol;

ystyr "blwyddyn ysgol" ("school year") yw cyfnod o flwyddyn sy'n dechrau ar 1 Medi;

ystyr "cwrs byr TGAU" ("GCSE short course") yw cwrs TGAU a gynlluniwyd i gwmpasu cyfran yn unig (nid llai na hanner) o'r cwrs astudio TGAU llawn cyfatebol, ac y mae'r un safonau graddio yn berthnasol iddo, ac ystyr "arholiad cwrs byr TGAU" ("GCSE short course examination") yw arholiad y mae'r cwrs sy'n arwain ato yn gwrs byr TGAU;

ystyr "cyflawni'r Dangosydd Pynciau Craidd" ("to achieve the Core Subject Indicator") yw -

(i) mewn perthynas â disgyblion cyfnod allweddol dau, fod y disgyblion hynny i gael eu hasesu fel pe baent wedi cyrraedd lefel 4 neu'n uwch ym mhrofion y CC ar gyfer y cyfnod allweddol hwnnw mewn Cymraeg (heblaw am Gymraeg fel ail iaith) neu Saesneg ac mewn mathemateg a gwyddoniaeth,(ii) mewn perthynas â disgyblion cyfnod allweddol tri, fod y disgyblion hynny i gael eu hasesu fel pe baent wedi cyrraedd lefel 5 neu'n uwch ym mhrofion y CC ar gyfer y cyfnod allweddol hwnnw mewn Cymraeg (heblaw am Gymraeg fel ail iaith) neu Saesneg ac mewn mathemateg a gwyddoniaeth, a(iii) mewn perthynas â disgyblion a fydd yn cyrraedd 16 oed yn ystod y flwyddyn ysgol o dan sylw, fod y disgyblion hynny wedi ennill unrhyw radd o A* i C mewn arholiad TGAU mewn Cymraeg (heblaw am Gymraeg fel ail iaith) neu Saesneg ac mewn arholiad TGAU mathemateg ac arholiad TGAU gwyddoniaeth;

ystyr "cyfnod allweddol dau" ("second key stage") a "cyfnod allweddol tri" ("third key stage") yw'r cyfnodau a bennir ym mharagraffau (b) ac (c) yn y drefn honno o adran 355(1) o Ddeddf 1996;

ystyr "cyfnod y cynllun" ("period of the plan") yw'r cyfnod a bennir yn rheoliad 4;

ystyr "cymhwyster galwedigaethol" ("vocational qualification") yw -

(a) GNVQ Rhan Un,(b) GNVQ Canolradd,(c) GNVQ Sylfaen,(ch) Uned Iaith GNVQ, neu(d) NVQ,

a gymeradwywyd o dan adran 99 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000;

ystyr "cynllun atodol" ("supplementary plan") yw cynllun strategol addysg sy'n ymdrin â'r materion ac sy'n cynnwys y deunydd a bennir yn Rhan IV o'r Rheoliadau hyn, ac ystyr "cynllun atodol cyntaf" ("first supplementary plan") ac "ail gynllun atodol" ("second supplementary plan") mewn perthynas â chynllun llawn yw'r cynlluniau atodol a baratoir mewn perthynas â'r cyfnodau a bennir yn rheoliadau 4(3) a 4(4) yn ôl eu trefn;

ystyr "cynllun llawn" ("full plan") yw cynllun strategol addysg a baratoir gan awdurdod sy'n ymdrin â'r materion ac sy'n cynnwys y deunydd a bennir yn Rhannau II a III o'r rheoliadau hyn, ac ystyr "cynllun llawn 2002 - 05" ("2002 - 05 full plan") yw'r cynllun llawn y cyfeirir ato yn Rheoliad 4(1);

ystyr "cynllun strategol addysg" ("education strategic plan") yw cynllun datblygu addysg a baratowyd gan awdurdod yn unol ag adran 6(1) o Ddeddf 1998;

ystyr "y Cynulliad Cenedlaethol" ("the National Assembly") yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

ystyr "Deddf 1996" ("the 1996 Act") yw Deddf Addysg 1996(4);

ystyr "Deddf 1998" ("the 1998 Act") yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;

mae i "derbyn gofal gan awdurdod lleol" mewn perthynas â phlentyn yr ystyr a roddir i "looked after by a local authority" yn adran 22 o Ddeddf Plant 1989(5), a dehonglir "plant sy'n derbyn gofal" ("looked after children") yn unol â hynny;

mae i "disgybl" yr ystyr a roddir i "pupil" yn adran 3 o Ddeddf 1996;

ystyr "disgyblion cyfnod allweddol dau" ("second key stage pupils") a "disgyblion cyfnod allweddol tri" ("third key stage pupils") yw disgyblion sydd yng nghyfnodau allweddol dau a thri yn y drefn honno;

ystyr "disgyblion sy'n destun datganiad" ("statemented pupils") yw disgyblion ag anghenion addysgol arbennig y gwnaed datganiad ar eu cyfer o dan adran 324 o Ddeddf Addysg 1996 ac ystyr "disgyblion nad ydynt yn destun datganiad" ("non-statemented pupils") yw disgyblion ag anghenion addysgol arbennig na wnaed datganiad o'r fath ar eu cyfer;

ystyr "diwrnod cyntaf y cynllun" ("the first day of the plan") mewn perthynas â chynllun strategol addysg yw diwrnod cyntaf y cyfnod y mae'r cynllun hwnnw yn ymwneud ag ef;

"dosbarth prif-ffrwd" ("mainstream class") yw dosbarth mewn ysgol brif-ffrwd, nas dynodwyd gan yr awdurdod yn ddosbarth arbennig;

ystyr "dyddiad rhifo'r Cyfrifiad Ysgolion" ("Schools' Census enumeration date") yw'r dyddiad y cyfeirir ato yn flynyddol gan y Cynulliad Cenedlaethol fel y dyddiad y mae'n gofyn i wybodaeth gael ei darparu ar ei gyfer mewn perthynas ag ysgolion a gynhelir yng Nghymru yn unol ag adran 29(1) o Ddeddf 1996;

ystyr "ELQ" ("ELQ") yw cymhwyster a ddisgrifir ac sydd wedi'i gymeradwyo fel Cymhwyster Lefel Mynediad gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 99 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000(6);

ystyr "ffurflen Gyfrifiad Ysgolion" ("Schools' Census return") yw'r ffurflen y mae'n ofynnol i awdurdod ei llenwi bob blwyddyn gan y Cynulliad Cenedlaethol yn unol ag adran 29(1) o Ddeddf 1996;

ystyr "GNVQ" ("GNVQ") yw Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol Cyffredinol;

ystyr "lefel 4" ("level 4") a "lefel 5" ("level 5") yw lefelau 4 a 5 yn y drefn honno o raddfa lefelau'r Cwricwlwm Cenedlaethol fel y'u pennir drwy ganlyniadau profion y CC;

ystyr "NVQ" ("NVQ") yw Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol;

ystyr "plant i deithwyr" ("travellers' children"), mewn perthynas â chynllun, yw plant -

(a) sydd oherwydd dull o fyw eu rhieni, naill ai heb gartref sefydlog neu sy'n gadael eu prif breswylfan i fyw yn rhywle arall am gyfnodau arwyddocaol ym mhob blwyddyn; neu(b) sy'n dod o fewn paragraff (a) uchod o fewn cyfnod o ddwy flynedd yn union cyn diwrnod cyntaf y cynllun;

ystyr "profion y CC" ("NC tests") yw profion y Cwricwlwm Cenedlaethol a weinyddir i ddisgyblion er mwyn asesu eu lefel cyrhaeddiad mewn Cymraeg, Saesneg, gwyddoniaeth neu fathemateg, sef profion a bennir mewn darpariaethau a wnaed gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan y gorchymyn priodol a wnaed o dan adran 356(2) o Ddeddf 1996 sydd mewn grym pan weinyddir y profion hynny(7);

mae i "y pynciau craidd" yr ystyr a roddir i "the core subjects" yn adran 354(1) o Deddf 1996;

ystyr "Rheoliadau 1999" ("the 1999 Regulations") yw Rheoliadau Addysg (Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb Diawdurdod) (Cymru) 1999(8);

ystyr "y Rheoliadau Cyllido" ("the Financing Regulations") yw Rheoliadau Cyllido Ysgolion a Gynhelir 1999(9);

ystyr "TGAU" ("GCSE") yw Tystysgrif Gyffredinol Addysg Uwchradd, ac ystyr "arholiad TGAU" ("GCSE examination") yw arholiad y mae'r cwrs sy'n arwain ato yn gwrs astudio TGAU llawn;

ystyr "ysgol a gynhelir" ("maintained school") yw ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol neu ysgol arbennig gymunedol neu sefydledig;

"ysgol brif-ffrwd" ("mainstream school") yw ysgol nad yw'n ysgol arbennig;

nid yw "ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod" ("schools maintained by the authority") yn cynnwys ysgolion nad ydynt yn ysgolion a gynhelir fel y diffinnir y rheiny yma.

(2) Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriad -

(a) at reoliad â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad yn y Rheoliadau hyn sy'n dwyn y rhif hwnnw;(b) at baragraff â rhif mewn rheoliad neu Atodlen yn gyfeiriad at y paragraff sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y rheoliad hwnnw neu'r Atodlen honno;

onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall.

(3) Rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at ddisgybl sy'n ennill -

(a) gradd mewn arholiad TGAU,(b) cymhwyster galwedigaethol, neu(c) gradd mewn arholiad cwrs byr TGAU,

erbyn diwedd blwyddyn ysgol, fel cyfeiriad at y disgybl hwnnw yn ennill y radd honno neu'r cymhwyster hwnnw yn ystod y flwyddyn ysgol y mae -

(i) yn sefyll yr arholiad hwnnw, neu(ii) (yn ôl fel y digwydd) yn cwblhau'r cwrs sy'n arwain at ddyfarnu'r cymhwyster hwnnw,

hyd yn oed os yw'r penderfyniad i ddyfarnu'r radd neu'r cymhwyster yn cael ei wneud mewn blwyddyn ysgol ddiweddarach.

Y cyfnod y mae'n rhaid i'r datganiad o gynigion ymwneud ag ef

4. - (1) Rhaid i'r datganiad o gynigion yn y cynllun llawn cyntaf a baratoir o dan y Rheoliadau hyn (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel "cynllun llawn 2002 - 05") ymwneud â chyfnod o dair blwyddyn ysgol sy'n dechrau ar 1 Medi 2002.

(2) Raid i'r datganiad o gynigion mewn cynllun llawn dilynol ymwneud â chyfnod o dair blwyddyn ysgol, sy'n dechrau pan ddaw cyfnod y cynllun llawn blaenorol mwyaf diweddar i ben.

(3) Rhaid i'r datganiad o gynigion mewn cynllun atodol cyntaf ymwneud â chyfnod o ddwy flwyddyn ysgol sy'n dechrau pan ddaw'r flwyddyn ysgol gyntaf yng nghyfnod y cynllun llawn mwyaf diweddar i ben.

(4) Rhaid i'r datganiad o gynigion mewn ail gynllun atodol ymwneud â chyfnod -

(a) mewn perthynas yn unig â gosod targedau a bennir yn rheoliad 30, o ddwy flwyddyn ysgol sy'n dechrau pan ddaw'r...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT