Rheoliadau Gwasanaethau Cymorth Mabwysiadu (Cymru) 2019
2019 Rhif 286 (Cy. 66)
Gofal Cymdeithasol, Cymru
Rheoliadau Gwasanaethau Cymorth Mabwysiadu (Cymru) 2019
Gwnaed 17th February 2019
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 19th February 2019
Yn dod i rym 29th April 2019
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 2(6)(b) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 20021.
Enwi a chychwyn
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwasanaethau Cymorth Mabwysiadu (Cymru) 2019.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 29 Ebrill 2019.
Dehongli
2. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002;
ystyr “person perthynol” (“related person”) yw—
(a) perthynas o fewn ystyr “relative” yn adran 144(1) o Ddeddf 2002, neu
(b) unrhyw berson y mae gan y plentyn mabwysiadol berthynas ag ef yr ymddengys i’r awdurdod lleol ei bod yn fuddiol i les y plentyn gan roi sylw i’r materion y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (i) i (iii) o adran 1(4)(f) o Ddeddf 2002;
ystyr “plentyn mabwysiadol” (“adoptive child”) yw plentyn sy’n blentyn mabwysiadol drwy asiantaeth neu’n blentyn mabwysiadol heb fod drwy asiantaeth;
ystyr “plentyn mabwysiadol drwy asiantaeth” (“agency adoptive child”) yw plentyn—
(a) mewn cysylltiad ag ef y mae asiantaeth fabwysiadu wedi penderfynu yn unol â rheoliad 19 o Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 20052y dylid ei leoli ar gyfer ei fabwysiadu,
(b) y mae asiantaeth fabwysiadu wedi ei leoli ar gyfer ei fabwysiadu, neu
(c) sydd wedi cael ei fabwysiadu ar ôl cael ei leoli ar gyfer ei fabwysiadu gan asiantaeth fabwysiadu;
ystyr “plentyn mabwysiadol heb fod drwy asiantaeth” (“non-agency adoptive child”) yw plentyn—
(a) mewn cysylltiad ag ef y mae person—
(i) wedi rhoi hysbysiad o dan adran 44 o Ddeddf 2002 o’i fwriad i wneud cais am orchymyn mabwysiadu, a
(ii) nad yw’n rhiant geni nac yn llys-riant i’r plentyn, neu
(b) sydd wedi cael ei fabwysiadu gan berson—
(i) nad yw’n rhiant geni i’r plentyn, a
(ii) nad oedd yn llys-riant i’r plentyn cyn iddo fabwysiadu’r plentyn,
ond nid yw’n cynnwys plentyn mabwysiadol drwy asiantaeth;
ystyr “rhiant mabwysiadol” (“adoptive parent”) yw person—
(a) y mae asiantaeth fabwysiadu wedi penderfynu yn unol â rheoliad 34(1) o Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005 ei fod yn rhiant mabwysiadol addas i blentyn penodol,
(b) y mae asiantaeth fabwysiadu wedi lleoli plentyn gydag ef ar gyfer ei fabwysiadu,
(c) sydd wedi rhoi hysbysiad o dan adran 44 o Ddeddf 2002 o’i...
To continue reading
Request your trial