Gorchymyn Cefnffordd yr A44 (Llanbadarn Fawr, Ceredigion) (Gwahardd Cerbydau Dros Dro) 2017

Year2017

2017Rhif 286 (Cy. 78)

TRAFFIG FFYRDD, CYMRU

Gorchymyn Cefnffordd yr A44 (Llanbadarn Fawr, Ceredigion) (Gwahardd Cerbydau Dros Dro) 2017

Gwnaed28Chwefror2017

Yn dod i rym6Mawrth2017

Mae Gweinidogion Cymru, sef yr awdurdod traffig ar gyfer y darn perthnasol o Gefnffordd Llangurig – Aberystwyth (yr A44) (‘y gefnffordd’), wedi eu bodloni y dylid gwahardd traffig ar ddarn penodedig o'r gefnffordd oherwydd gwaith y bwriedir ei wneud ar y ffordd neu gerllaw iddi.

Mae Gweinidogion Cymru, felly, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 14(1) a (4) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984( 1) a phob pwer galluogi arall, yn gwneud y Gorchymyn hwn.

Enwi, Dehongli a Chychwyn

1. Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 6 Mawrth 2017 a'i enw yw Gorchymyn Cefnffordd yr A44 (Llanbadarn Fawr, Ceredigion) (Gwahardd Cerbydau Dros Dro) 2017.

2. —(1) Yn y Gorchymyn hwn:

ystyr ‘cerbyd esempt’ (‘exempted vehicle’) yw unrhyw gerbyd sy'n cael ei ddefnyddio gan y gwasanaethau brys ac mewn cysylltiad â'r gwaith sy'n arwain at y Gorchymyn hwn;

ystyr ‘cyfnod y gwaith’ (‘works period’) yw'r cyfnod hwnnw sy'n dechrau am 18:30 o'r gloch ar 6 Mawrth 2017 ac sy'n dod i ben pan gaiff yr arwyddion traffig dros dro eu symud ymaith yn barhaol.

ystyr ‘y darn o'r gefnffordd’ (‘the length of the trunk road’) yw'r darn o gefnffordd yr A44 yn Llanbadarn Fawr sy'n ymestyn o bwynt 550 o fetrau i'r dwyrain o ganolbwynt ei chyffordd â'r A4120 hyd at bwynt 50 o fetrau i'r gorllewin o ganolbwynt ei chyffordd â'r A4120.

(2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at erthygl â rhif yn gyfeiriad at yr erthygl sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y Gorchymyn hwn.

Gwaharddiad

3. Ni chaiff neb, yn ystod cyfnod y gwaith, yrru unrhyw gerbyd, na pheri na chaniatáu i unrhyw gerbyd, ac eithrio cerbyd esempt, fynd ar y darn o'r gefnffordd.

Cymhwyso

4. Ni fydd gwaharddiad erthygl 3 yn gymwys ond ar yr adegau hynny ac i'r graddau hynny y bydd arwyddion traffig yn dangos bod y gwaharddiad y maent yn cyfeirio ato yn weithredol.

Cyfnod Para'r Gorchymyn hwn

5. Bydd y Gorchymyn hwn yn para am 18 mis ar y mwyaf.

Llofnodwyd o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith, un o Weinidogion Cymru.

Dyddiedig y 28 Chwefror...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT