Gorchymyn Cefnffyrdd yr A470 a'r A5 (Ger Llanrwst, yn Siroedd Conwy, Gwynedd a Dinbych) (Gwaharddiadau a Chyfyngiadau Dros Dro ar Gerbydau) 2019
Year | 2019 |
2019Rhif 1028 (Cy. 181)
TRAFFIG FFYRDD, CYMRU
Gwnaed10Mehefin2019
Yn dod i rym18Mehefin2019
Mae Gweinidogion Cymru, sef yr awdurdod traffig ar gyfer Cefnffyrdd yr A470 a'r A5, wedi eu bodloni y dylid cyfyngu ar draffig a/neu ei wahardd ar ddarnau penodedig o'r cefnffyrdd oherwydd gwaith y bwriedir ei wneud ar y ffyrdd neu gerllaw iddynt.
Mae Gweinidogion Cymru, felly, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 14(1), (4) a (7) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984( 1), yn gwneud y Gorchymyn hwn.
Enwi, Cychwyn a Dehongli
1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cefnffyrdd yr A470 a'r A5 (Ger Llanrwst, yn Siroedd Conwy, Gwynedd a Dinbych) (Gwaharddiadau a Chyfyngiadau Dros Dro ar Gerbydau) 2019 a daw i rym ar 18 Mehefin 2019.
2. Yn y Gorchymyn hwn:
ystyr “y cefnffyrdd” (“the trunk roads”) yw cefnffordd yr A470 Maentwrog i Fan i'r Dwyrain o Gonwy a chefnffordd yr A5 Llundain Gaergybi;
ystyr “cerbyd esempt” (“exempted vehicle”) yw:
(a) unrhyw gerbyd sy'n cael ei ddefnyddio at y dibenion a ddisgrifir yn adran 87 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984( 2) neu mewn cysylltiad â'r gwaith sy'n arwain at y Gorchymyn hwn;
(b) unrhyw gerbyd sy'n cael ei ddefnyddio at ddibenion y llynges, y fyddin neu'r llu awyr ac sy'n cael ei yrru gan berson sydd am y tro yn ddarostyngedig i orchmynion aelod o luoedd arfog y Goron, sy'n aelod o'r lluoedd arbennig—
(i) ac sydd wedi ei hyfforddi i yrru ar gyflymderau uchel ac sy'n gweithredu wrth ymateb, neu wrth ymarfer ymateb, i argyfwng diogelwch gwladol; neu
(ii) at ddiben hyfforddi person i yrru cerbydau ar gyflymderau uchel;
ystyr “cyfnod y gwaith” (“works period”) yw cyfnodau ysbeidiol sy'n dechrau am 08:00 o'r gloch ar 18 Mehefin 2019 ac sy'n dod i ben pan gaiff yr arwyddion traffig dros dro eu symud ymaith yn barhaol;
ystyr “lluoedd arbennig” (“special forces”) yw'r unedau hynny o'r lluoedd arfog y mae Cyfarwyddwr y Lluoedd Arbennig yn gyfrifol am gynnal eu galluoedd neu sydd am y tro yn ddarostyngedig i reolaeth weithredol y Cyfarwyddwr hwnnw.
Gwaharddiadau a Chyfyngiadau
3. Ni chaiff neb, yn ystod cyfnod y gwaith, yrru unrhyw gerbyd, ac eithrio cerbyd esempt, ar y darn o'r gefnffordd a bennir yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn.
4. Ni chaiff neb, yn ystod cyfnod y gwaith, yrru unrhyw gerbyd sy'n cario llwyth sy'n uwch na 5.0 metr neu'n lletach na 3.0 metr...
To continue reading
Request your trial