Gorchymyn Addysg (Ciniawau Ysgol Rhad ac am Ddim) (Credydau Treth Rhagnodedig) (Cymru) 2003

2003Rhif 879 (Cy.110)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Addysg (Ciniawau Ysgol Rhad ac am Ddim) (Credydau Treth Rhagnodedig) (Cymru) 2003

25 Mawrth 2003

6 Ebrill 2003

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol trwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 512ZB(4)(a)(iv) a 568 o Ddeddf Addysg 1996( 1) , ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru( 2).

Enw, Cychwyn a Chymhwyso

1. - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Addysg (Ciniawau Ysgol Rhad ac am Ddim) (Credydau Treth Rhagnodedig) (Cymru) 2003 a daw i rym ar 6 Ebrill 2003.

(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys mewn perthynas â Chymru.

Dehongli

2. Yn y Gorchymyn hwn -

ystyr "Deddf 1996" ("the 1996 Act") yw Deddf Addysg 1996.

mae i "Credyd Treth i Blant" a "Credyd Treth i Bobl sy'n Gweithio" yr ystyr a roddir i "Child Tax Credit" a "Working Tax Credit" yn Neddf Credydau Treth 2002( 3).

ystyr "incwm blynyddol" ("annual income") yw'r incwm am y flwyddyn dreth sydd yn cael ei gyfrifo yn unol â Rheoliadau Credydau Treth (Diffinio a Chyfrifo Incwm) 2002( 4).

Credydau Treth Rhagnodedig

3. Rhagnodir Credyd Treth i Blant at ddibenion adran 512ZB(4)(a)(iv) o Ddeddf 1996 o dan yr amgylchiadau canlynol -

(a) pan fydd gan y rhiant â hawl i Gredyd Treth i Blant ond nid i Gredyd Treth i Bobl sy'n Gweithio, a(b) pan fod y rhiant yn derbyn Credyd Treth i Blant drwy rinwedd dyfarniad sydd wedi ei selio ar incwm blynyddol heb fod yn fwy na'r swm a bennwyd at ddibenion adran 7(1)(a) o Ddeddf Credydau Treth 2002 fel trothwy incwm ar gyfer Credyd Treth i Blant( 5).

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998( 6).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

25 Mawrth 2003

EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn rhagnodi, at ddibenion adran 512ZB o Ddeddf Addysg 1996, bod plentyn â hawl i gael cinio ysgol yn rhad ac am ddim pan fydd ei riant yn derbyn Credyd Treth i Blant yn yr amgylchiadau diffiniedig.

Yr amgylchiadau diffiniedig yw nad yw'r rhiant yn derbyn Credyd Treth i Bobl sy'n Gweithio, a rhaid bod y dyfarniad o Credyd Treth i Blant wedi ei selio ar incwm blynyddol heb fod yn fwy na'r swm sydd wedi ei bennu at ddibenion adran 7(1)(a) o Ddeddf Credydau Treth 2002, (sef £13,230 ar hyn o bryd).

(1) 1996 p.56. Amnewidir adran 512 yn rhagolygol gan adran 201 o Ddeddf Addysg 2002 (p.32) a mewnosodir adrannau 512ZA a 512ZB. Mae rhannau perthnasol...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT