Rheoliadau Cafa-cafa mewn Bwyd (Cymru) 2002
2002Rhif 3157 (Cy.293)
BWYD, CYMRU
Rheoliadau Cafa-cafa mewn Bwyd (Cymru) 2002
17 Rhagfyr 2002
9 Ionawr 2003
Drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 16(1)(a), (e) ac (f), 18(1)(c), 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990( 1) ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru( 2), ac wedi parchu yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac ar ôl ymgynghori fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor( 3) ac yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf honno, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Teitl, cychwyn a chymhwyso
1. Ar gyfer y Rheoliadau hyn -
(a) eu henw fydd Rheoliadau Cafa-cafa mewn Bwyd (Cymru) 2002;(b) deuant i rym ar 9 Ionawr2003;(c) byddant yn gymwys i Gymru yn unig.Dehongli
2. Yn y Rheoliadau hyn -
ystyr "awdurdod iechyd porthladd" ("port health authority") yw -
mewn perthynas ag unrhyw ardal iechyd porthladd a gyfansoddywd drwy orchymyn o dan adran 2(3) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Afiechydon) 1984( 4)), awdurdod iechyd porthladd ar gyfer yr ardal honno a gyfansoddwyd drwy orchymyn o dan adran 2(4) o'r Ddeddf honNo.
ystyr "Cafa-cafa" ("Kava-kava") yw planhigyn, neu unrhyw ran ohono neu ddarn o blanhigyn, sy'n perthyn i'r rhywogaeth Piper methysticum;
ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;
Gwaharddiad ar werthu etc. bwyd sydd wedi'i wneud o Cafa-cafa neu sy'n ei gynnwys
3. Ni chaiff urnhyw berson -
(a) werthu, neu(b) feddu ar gyfer gwerthu neu gynnig, amlygu neu hysbysebu ar gyfer gwerthu, neu(c) fewnforio i Gymru o'r tu allan I'r Deyrnas Unedig neu gludo i Gymru o unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig unrhyw fwyd sy'n cynnwys Cafa-cafa.Cosb a gorfodi
4. - (1) Bydd unrhyw berson sy'n tramgwyddo neu sy'n methu â chydymffurfio â rheoliad 3 yn euog o dramgwydd a bydd yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i bob awdurdod bwyd orfodi darpariaethau'r Rheoliadau hyn o fewn ei ardal.
(3) Rhaid i bob awdurdod iechyd porthladd orfodi darpariaethau'r Rheoliadau hyn o fewn ei ardal.
Cymhwyso darpariaethau amrywiol Deddf Diogelwch Bwyd 1990
5. - (1) Bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad bod unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu Ran ohoni yn cael eu dehnogli at ddibenion...
To continue reading
Request your trial