Rheoliadau Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Cambria (Llywodraethu) 2013

Year2013

2013Rhif 375 (Cy.47)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Cambria (Llywodraethu) 2013

20 Chwefror 20132013

22 Chwefror 20132013

26 Mawrth 2013

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i Weinidogion Cymru gan adran 20(2A) ac i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 21(1) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992( 1) a pharagraffau 1 a 13 i 25 o Atodlen 4 i'r Ddeddf honno, ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy( 2).

Enwi a chychwyn

1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Cambria (Llywodraethu) 2013, a deuant i rym ar 26 Mawrth 2013.

Offeryn Llywodraethu

2. Rhagnodir Offeryn Llywodraethu Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Cambria yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn.

Erthyglau Llywodraethu

3. Rhagnodir Erthyglau Llywodraethu Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Cambria yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn.

Leighton Andrews

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

20 Chwefror 2013

YR ATODLENNI

ATODLEN 1

Rheoliad 2

OFFERYN LLYWODRAETHU

CYNNWYS

1. Dehongli

2. Aelodaeth y Gorfforaeth

3. Penderfynu niferoedd yr aelodau

4. Penodiadau

5. Penodi Cadeirydd ac Is-gadeirydd

6. Penodi'r Clerc

7. Cymhwystra

8. Tymor swydd

9. Terfynu aelodaeth

10. Aelodau i beidio a bod a buddiannau mewn materion sy'n ymwneud a'r sefydliad

11. Cyfarfodydd y Gorfforaeth

12. Cworwm

13. Trafodion cyfarfodydd

14. Cofnodion

15. Mynediad y cyhoedd i gyfarfodydd y Gorfforaeth

16. Cyhoeddi'r cofnodion a phapurau

17. Lwfansau i aelodau

18. Copïau o'r Offeryn Llywodraethu

19. Newid enw

20. Gosod y sêl

Dehongli

1.-(1) Yn yr Offeryn Llywodraethu hwn-

ystyr "aelod" ("member") yw aelod o'r Gorfforaeth;

ystyr "Cadeirydd" ("Chair") yw cadeirydd y Gorfforaeth;

ystyr "Clerc" ("Clerk") yw Clerc y Gorfforaeth;

ystyr "diwrnod gwaith" ("working day") yw unrhyw ddydd Llun, Mawrth, Mercher, Iau neu Gwener, ac eithrio gwyl banc neu wyl gyhoeddus arall;

ystyr "y Gorfforaeth" ("the Corporation") yw Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Cambria;

ystyr "Is-gadeirydd" ("Vice-Chair") yw is-gadeirydd y Gorfforaeth;

ystyr "materion staff" ("staff matters") yw penodiad, tal, amodau gwasanaeth, dyrchafiad, israddiad, ymddygiad, atal dros dro, diswyddiad neu ymddeoliad unrhyw aelod o'r staff;

ystyr "myfyriwr" ("student") yw myfyriwr sydd wedi ymrestru yn y sefydliad ac mae hefyd yn cynnwys person nad yw am y tro wedi ymrestru fel myfyriwr yn y sefydliad ond sydd ar gyfnod o absenoldeb awdurdodedig o fod wedi ymrestru fel myfyriwr yn y sefydliad at ddibenion astudio neu deithio neu i wneud dyletswyddau unrhyw swydd a ddeil y person hwnnw yn undeb myfyrwyr y sefydliad;

ystyr "Pennaeth" ("Principal") yw prif weithredwr y sefydliad; ac

ystyr "y sefydliad" ("the institution") yw Coleg Cambria ac unrhyw sefydliad sy'n cael ei redeg am y tro gan y Gorfforaeth wrth arfer ei phwerau o dan Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992( 3).

(2) Yn yr Offeryn Llywodraethu hwn, mewn perthynas ag aelodau-

(a) mae cyfeiriadau at "categori amrywiol" ("variable category") yn gyfeiriadau at unrhyw gategori o aelodau y caniateir i'w niferoedd amrywio yn unol a pharagraffau 2 a 4; a(b) mae i'r termau canlynol yr ystyron a roddir iddynt ym mharagraff 2-

"Aelodau a Benodwyd gan Weinidogion Cymru" ("Welsh Ministers Appointed Members");

"aelodau awdurdod lleol" ("local authority members");

"aelodau busnes" ("business members");

"aelodau cyfetholedig" ("co-opted members");

"aelodau cymunedol" ("community members");

"aelodau myfyrwyr" ("student members");

"aelodau rhieni" ("parent members"); ac

"aelodau staff" ("staff members").

Aelodaeth y Gorfforaeth

2.-(1) Rhaid i'r Gorfforaeth gynnwys-

(a) hyd at saith aelod sydd, neu a fu, yn ymwneud a neu'n gyflogedig mewn busnes, diwydiant neu unrhyw broffesiwn neu unrhyw faes arall o waith sy'n berthnasol i weithgareddau'r sefydliad (a gelwir hwy'n "aelodau busnes");(b) hyd at dri aelod a gyfetholwyd gan aelodau'r Gorfforaeth (a gelwir hwy'n "aelodau cyfetholedig");(c) o leiaf un a hyd at dri aelod sy'n staff wedi'u cyflogi gan y sefydliad ac a enwebwyd gan staff y sefydliad (a gelwir hwy'n "aelodau staff"). Os oes mwy nag un aelod staff, rhaid i o leiaf un aelod staff fod wedi'i gyflogi fel aelod o'r staff addysgu ac wedi'i ethol a'i enwebu ganddynt, a rhaid i o leiaf un aelod staff fod wedi'i gyflogi fel un o aelodau eraill staff y sefydliad ac wedi'i ethol a'i enwebu ganddynt;(d) o leiaf un a hyd at dri aelod sy'n fyfyrwyr yn y sefydliad ac sydd wedi'u hethol a'u henwebu gan fyfyrwyr y sefydliad neu (fel y caiff y Gorfforaeth benderfynu) wedi'u hethol a'u henwebu gan gymdeithas gydnabyddedig sy'n cynrychioli myfyrwyr y sefydliad (a gelwir hwy'n "aelodau myfyrwyr");(e) hyd at ddau aelod sy'n rhieni i fyfyrwyr o dan 19 mlwydd oed sy'n mynychu'r sefydliad, sydd wedi'u hethol a'u henwebu gan rieni eraill o'r fath neu (fel y caiff y Gorfforaeth benderfynu) wedi'u hethol a'u henwebu gan gymdeithas gydnabyddedig sy'n cynrychioli rhieni o'r fath (a gelwir hwy'n "aelodau rhieni");(f) o leiaf un a hyd at dri aelod a enwebwyd gan awdurdodau lleol a bennir gan y Gorfforaeth (a gelwir hwy'n "aelodau awdurdod lleol");(g) o leiaf un a hyd at dri aelod a enwebwyd gan gorff neu gyrff cymunedol yr ymddengys i'r aelodau eraill eu bod yn cynrychioli buddiannau adran o'r gymuned leol a enwebwyd gan yr aelodau eraill (a gelwir hwy'n "aelodau cymunedol") (at ddibenion y paragraff hwn mae "corff cymunedol" yn cynnwys unrhyw gymdeithas nad yw'n cael ei rhedeg er elw);(h) Pennaeth y sefydliad (onid yw'r Pennaeth yn dewis peidio a bod yn aelod); ac(i) hyd at ddau aelod a benodwyd gan Weinidogion Cymru wrth arfer eu pwerau o dan adran 39 o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000( 4) (a gelwir hwy'n "Aelodau a Benodwyd gan Weinidogion Cymru").

(2) Rhaid i unrhyw gwestiwn parthed a yw person yn gymwys yn unol ag is-baragraff (1) i'w benodi'n aelod i unrhyw gategori gael ei benderfynu gan yr awdurdod penodi perthnasol fel a bennir ym mharagraff 4.

Penderfynu niferoedd yr aelodau

3.-(1) Yn ei gyfarfod cyntaf, rhaid i'r Gorfforaeth benderfynu ar-

(a) cyfanswm yr aelodau (ac eithrio unrhyw Aelodau a Benodwyd gan Weinidogion Cymru); a(b) nifer yr aelodau ym mhob categori amrywiol.

(2) Caiff y Gorfforaeth ar unrhyw adeg amrywio'r penderfyniadau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1) ac unrhyw benderfyniadau olynol o dan y paragraff hwn.

(3) Rhaid i unrhyw benderfyniad o dan y paragraff hwn sicrhau-

(a) bod nifer yr aelodau, heb gynnwys yr Aelodau a Benodwyd gan Weinidogion Cymru, yn 12 o leiaf ac nid yn fwy nag 20;(b) bod nifer yr aelodau ym mhob categori amrywiol o fewn y terfynau a osodir ym mharagraff 2; ac(c) bod nifer yr aelodau busnes yn hafal i draean o gyfanswm yr aelodau, heb gynnwys unrhyw Aelodau a Benodwyd gan Weinidogion Cymru, wedi ei dalgrynnu i fyny i'r rhif cyflawn agosaf.

(4) Ni chaiff unrhyw benderfyniad o dan y paragraff hwn effaith a fyddai'n terfynu penodiad unrhyw berson sydd eisoes yn aelod ar yr adeg y daw'n effeithiol.

Penodiadau

4.-(1) Y Gorfforaeth yw'r awdurdod penodi mewn perthynas a phenodi unrhyw aelod ac eithrio-

(a) Aelod a Benodwyd gan Weinidogion Cymru;(b) yr aelodau cyntaf, a benodir gan Weinidogion Cymru; ac(c) os yw nifer yr aelodau yn disgyn islaw'r nifer sy'n ofynnol ar gyfer cworwm, y cyfryw nifer o aelodau sy'n ofynnol ar gyfer cworwm.

(2) Os yw nifer yr aelodau yn disgyn islaw'r nifer sy'n ofynnol ar gyfer cworwm, Gweinidogion Cymru yw'r awdurdod penodi mewn perthynas a phenodiad y nifer hwnnw o aelodau sy'n ofynnol ar gyfer cworwm.

(3) Caiff yr awdurdod penodi wrthod penodi person os bodlonir yr awdurdod-

(a) nad oes gan y person y sgiliau a'r profiad penodedig fel y'u diffinnir yn is-baragraff (4);(b) bod y person, o fewn y deng mlynedd blaenorol, wedi cael ei symud ymaith o swydd fel aelod o gorfforaeth addysg bellach neu sefydliad a ddynodwyd o dan adran 28 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992( 5);(c) y byddai penodi'r person yn groes i unrhyw ddarpariaeth mewn unrhyw reolau neu is-ddeddfau a wnaed o dan erthygl 20 o'r Erthyglau Llywodraethu;(d) nad yw'r person yn gymwys i fod yn aelod yn rhinwedd paragraff 7; neu(e) yn achos person sydd i'w benodi yn aelod busnes, aelod cyfetholedig, aelod awdurdod lleol neu'n aelod cymunedol, bod y Pwyllgor Chwilio (a sefydlwyd o dan erthygl 8 o'r Erthyglau Llywodraethu) wedi cynghori na ddylid penodi'r person.

(4) Yn y paragraff hwn ystyr "y sgiliau a'r profiad penodedig" ("specified skills and experience") yw'r sgiliau a'r profiad (ac eithrio cymwysterau proffesiynol) a bennir gan y Gorfforaeth eu bod yn briodol i aelodau.

(5) Pan fo swydd unrhyw aelod ac eithrio'r Pennaeth neu Aelod a Benodwyd gan Weinidogion Cymru yn dod yn wag, rhaid i'r Gorfforaeth, cyn gynted ag y bo'n ymarferol, gymryd pob cam angenrheidiol i benodi aelod newydd i lenwi'r swydd wag.

(6) Caiff aelod awdurdod lleol fod yn gynghorydd etholedig o'r awdurdod lleol, yn un o gyflogeion yr awdurdod lleol neu'n unrhyw berson arall a enwebir gan yr awdurdod lleol.

(7) Nid oes dim yn y paragraff hwn yn rhoi'r hawl i'r Gorfforaeth ofyn am fwy nag un enwebiad gan unrhyw un neu ragor o'r cyrff y cyfeirir atynt ym mharagraff 2(1)(c) i (g) i lenwi unrhyw swydd wag unigol.

Penodi Cadeirydd ac Is-gadeirydd

5.-(1) Rhaid i'r aelodau sy'n bresennol mewn unrhyw gyfarfod o'r Gorfforaeth a gynhelir cyn penodi Cadeirydd neu Is-gadeirydd am y tro cyntaf o dan is-baragraff (2) ddewis un o'u nifer i weithredu fel cadeirydd ar gyfer y cyfarfod hwnnw.

(2) Rhaid i'r Gorfforaeth benodi Cadeirydd ac Is-gadeirydd o blith ei haelodau.

(3) Ni chaniateir penodi'r Pennaeth nac unrhyw aelod staff nac unrhyw aelod myfyrwyr yn Gadeirydd nac yn Is-gadeirydd.

(4) Bydd y Cadeirydd a'r Is-gadeirydd yn dal eu swyddi am ba bynnag gyfnod a benderfynir gan y Gorfforaeth.

(5) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), os yw'r Cadeirydd a'r Is-gadeirydd yn absennol o unrhyw gyfarfod o'r Gorfforaeth, rhaid i'r aelodau sy'n bresennol ddewis un o'u plith i weithredu fel cadeirydd ar gyfer...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT