Rheoliadau Deddf Plant 2004 (Diwygio Rheoliadau Amrywiol) (Cymru) 2005

2005Rhif 774 (Cy.64)

PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU

Rheoliadau Deddf Plant 2004 (Diwygio Rheoliadau Amrywiol) (Cymru) 2005

16 Mawrth 2005

1 Ebrill 2005

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 9(2) a (3) o Ddeddf Mabwysiadu 1976( 1), adrannau 23(2)(a), (f)(ii), (5), 26(1), (2), 59(2), (3), 104(4), Atodlen 2, paragraffau 12, 13, 14, Atodlen 4, paragraff 4(1), (2)(d), Atodlen 5, paragraff 7(1), (2)(g), ac Atodlen 6, paragraff 10(1) o Ddeddf Plant 1989( 2) a chan adrannau 1(4), 16(2), 22(1), (2)(a) i (d), (f) i (j), (5)(a) a (c), (7)(a) i (h), (j), (8)(c), 25(1), 33, 34(1), 35, 77(2) ac 118(4) i (7) o Ddeddf Safonau Gofal 2000( 3), drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Plant 2004 (Diwygio Rheoliadau Amrywiol) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2005.

(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu 1983

2. - (1) Diwygir Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu 1983( 4) yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.

(2) Yn rheoliad 15(1)(e), ar ôl y geiriau "children's guardian or reporting officer", mewnosoder y geiriau "or Welsh family proceedings officer"( 5).

Diwygio Rheoliadau Trefniadau ar gyfer Lleoli Plant (Cyffredinol) 1991

3. - (1) Diwygir Rheoliadau Trefniadau ar gyfer Lleoli Plant (Cyffredinol) 1991( 6) yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.

(2) Bob tro y mae'r geiriau "officers of the service" yn ymddangos yn rheoliad 11, mewnosoder y geiriau "and Welsh family proceedings officers" ar eu hôl.

Diwygio Rheoliadau Adolygu Achosion Plant 1991

4. - (1) Diwygir Rheoliadau Adolygu Achosion Plant 1991( 7) yn unol â dapriaethau canlynol y rheoliad hwn.

(1) Yn rheoliad 2A(1)(c) ar ôl "Support Service", mewnosoder "or a Welsh family proceedings officer where the child is ordinarily resident in Wales".

Diwygio Rheoliadau Comisiynydd Plant Cymru 2001

5. - (1) Diwygir Rheoliadau Comisiynydd Plant Cymru 2001( 8) yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.

(2) Ar ddiwedd rheoliad 17, ychwaneger "a Chynulliad Cenedlaethol Cymru o ran ei swyddogaethau o dan adran 35 o Ddeddf Plant 2004".

Diwygio Rheoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002

6. - (1) Diwygir Rheoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002( 9) yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.

(1) Yn rheoliad 15(2)(b) ar ôl "a Theuluoedd" mewnosoder "neu Swyddog Achosion Teuluol".

Llofnodwyd ar ran Cynulliad...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT