Gorchymyn Cefnffordd yr A487 (Ysgol Tal-y-bont, Ceredigion) (Terfyn Cyflymder 20 mya Rhanamser Dros Dro) 2017

2017Rhif 253 (Cy. 66)

TRAFFIG FFYRDD, CYMRU

Gorchymyn Cefnffordd yr A487 (Ysgol Tal-y-bont, Ceredigion) (Terfyn Cyflymder 20 mya Rhanamser Dros Dro) 2017

Gwnaed8Chwefror2017

Yn dod i rym15Chwefror2017

Mae Gweinidogion Cymru, sef yr awdurdod traffig ar gyfer y darn perthnasol o Gefnffordd Abergwaun – Bangor (yr A487) (‘y gefnffordd’), wedi eu bodloni y dylid cyfyngu ar draffig ar ddarn penodedig o'r gefnffordd oherwydd y tebygolrwydd o berygl i'r cyhoedd.

Mae Gweinidogion Cymru, felly, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 14(1), (4) a (7) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984( 1), yn gwneud y Gorchymyn hwn.

Enwi, Dehongli a Chychwyn

1. Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 15 Chwefror 2017. Ei enw yw Gorchymyn Cefnffordd yr A487 (Ysgol Tal-y-bont, Ceredigion) (Terfyn Cyflymder 20 mya Rhan-amser Dros Dro) 2017.

2. —(1) Yn y Gorchymyn hwn:

ystyr ‘cerbyd esempt’(‘exempted vehicle’) yw:

(a) unrhyw gerbyd sy'n cael ei ddefnyddio gan y gwasanaethau brys; a

(b) unrhyw gerbyd sy'n cael ei ddefnyddio at ddibenion y llynges, y fyddin neu'r llu awyr ac sy'n cael ei yrru gan berson sydd am y tro yn ddarostyngedig i orchmynion yr aelod o luoedd arfog y Goron, sy'n aelod o'r lluoedd arbennig—

(i) ac sydd wedi ei hyfforddi i yrru ar gyflymderau uchel ac sy'n gweithredu wrth ymateb, neu wrth ymarfer ymateb, i argyfwng diogelwch gwladol; neu

(ii) at ddiben hyfforddi person i yrru cerbydau ar gyflymderau uchel;

ystyr ‘y darn o'r gefnffordd’ (‘the length of the trunk road’) yw'r darn o'r gefnffordd yn Nhal-y-bont yn Sir Ceredigion sy'n ymestyn o bwynt 465 o fetrau i'r gogledd o'i chyffordd â Chapel Street hyd at bwynt 246 o fetrau i'r de o'r gyffordd honno.

ystyr ‘lluoedd arbennig’(‘special forces’) yw'r unedau hynny o'r lluoedd cartref y mae Cyfarwyddwr y Lluoedd Arbennig yn gyfrifol am gynnal eu galluoedd neu sydd am y tro yn ddarostyngedig i reolaeth weithredol y Cyfarwyddwr hwnnw.

(2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at erthygl â rhif yn gyfeiriad at yr erthygl sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y Gorchymyn hwn.

Cyfybgiad

3. Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau erthygl 4, ni chaiff neb yrru unrhyw gerbyd na pheri na chaniatáu i unrhyw gerbyd fynd yn gyflymach nag 20 milltir yr awr ar y darn o'r gefnffordd.

Atal Dros Dro

4. Mae unrhyw ddarpariaethau statudol sy'n cyfyngu ar gyflymder cerbydau ar y darn o'r gefnffordd a bennir yn erthygl 2 wedi eu hatal dros dro ar yr adegau hynny pan fo'r cyfyngiad a bennir yn erthygl 3 yn weithredol.

Cymhwyso

5...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT