WELSH STATUTORY INSTRUMENT
2007 Rhif 1029 (Cy.96)
ANIFEILIAID, CYMRU
LLES ANIFEILIAID
Rheoliadau Anffurfio (Triniaethau a Ganiateir) (Cymru) 2007
Wedi'u gwneud 27th March 2007
Yn dod i rym 28th March 2007
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, sef o ran Cymru, yr awdurdod cenedlaethol priodol at ddibenion arfer y pwerau a roddwyd gan 5(4) o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau hynny.
Yn unol ag adran 5(5) o'r Ddeddf honno, mae'r Cynulliad wedi ymgynghori â'r personau hynny sydd yn ei farn ef yn briodol am eu bod yn cynrychioli buddiannnau y mae a wnelo'r Rheoliadau hyn â hwy.
S-1
Enwi, cychwyn a chymhwysoEnwi, cychwyn a chymhwyso
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Anffurfio (Triniaethau a Ganiateir) (Cymru) 2007. Maent yn gymwys i Gymru a deuant i rym ar 28 Mawrth 2007.
Dehongli
2. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “a ffermir” (“farmed”) yw, o ran anifail, a fegir neu a gedwir at gynhyrchu bwyd, gwlân neu groen neu at ddibenion ffermio eraill;
mae “ceffylau” (“horses”) yn cynnwys merlod, asynnod, a mulod;
ystyr “dadimpio” (“disbudding”) yw tynnu impiadau cyrn gwartheg, geifr neu ddefaid;
ystyr “dofednod” (“poultry”) yw ffowls domestig, tyrcwn, gwyddau, hwyaid, ieir gini, soflieir, ffesantod a phetrisod;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Lles Anifeiliaid 2006;
ystyr “ffowlyn domestig” (“domestic fowl”) yw aelod dof o'r rhywogaeth Gallus gallus;
ystyr “gwartheg” (“cattle”) yw pob anifail o'r rhywogaeth fuchol gan gynnwys bison a byfflo;
ystyr “triniaeth waharddedig” (“prohibited procedure”) yw triniaeth sy'n cynnwys ymyrryd â meinweoedd sensitif neu strwythur esgyrn yr anifail heblaw at ddibenion ei drin yn feddygol;
ystyr “iâr ddodwy” (“laying hen”) yw iâr o'r rhywogaeth Gallus gallus sydd wedi cyrraedd aeddfedrwydd dodwy ac sy'n cael ei chadw i gynhyrchu wyau na fwriedir iddynt ddeor;
ystyr “offeryn addas” (“suitable instrument”) yw, o ran unrhyw driniaeth, offeryn sydd mewn cyflwr da ac sydd wedi'i ddylunio at roi'r driniaeth honno neu a ddefnyddir yn gyffredin at roi'r driniaeth honno;
ystyr “torri crib” (“dubbing”) yw tynnu crib ffowlyn domestig;
ystyr “torri crogrib” (“desnooding”) yw tynnu crogrib twrci;
ystyr “yn bwrw eu melfed” (“in velvet”) yw o ran cyrn carw, y broses sy'n cynnwys y melfed yn raflio hyd nes i'r rhan fwyaf ohono gael ei fwrw.
S-3
Eithriadau i'r gwaharddiad ar anffurfioEithriadau i'r gwaharddiad ar anffurfio
3. Nid yw adran 5(1) a (2) o'r Ddeddf yn gymwys i driniaeth a restrir yn Atodlen 1, ar yr amod y rhoddir y driniaeth—
(a) yn unol ag unrhyw ofyniad perthnasol yn Atodlenni 2 i 9;
(b) mewn dull sy'n cadw lefel y boen a'r dioddefaint i'r anifail i leiafswm;
(c) mewn amgylchiadau hylan; ac
(ch) yn unol ag arferion da.
S-4
Cyfalwni triniaethau gwaharddedig mewn argyfwngCyfalwni triniaethau gwaharddedig mewn argyfwng
4.—(1) Nid yw adran 5(1) a (2) o'r Ddeddf yn gymwys pan fo triniaeth waharddedig yn cael ei rhoi mewn argyfwng er mwyn arbed bywyd yr anifail a warchodirneu er mwyn lledfu ei boen.
(2) Rhaid i unrhyw driniaeth a roddir o dan baragraff (1) gael ei rhoi yn unol â rheoliad 3, i'r graddau y mae'n ymarferol o dan yr holl amgylchiadau.
S-5
Personau sy'n cael rhoi triniaethau a ganiateirPersonau sy'n cael rhoi triniaethau a ganiateir
5.—(1) Nid oes caniatâd i unrhyw driniaeth a ganiateir o dan reoliad 3 gael ei rhoi ond gan filfeddyg neu gan unrhyw berson arall y mae caniatâd iddo roi'r driniaeth honno o dan Ddeddf Milfeddygon 1996neu Orchymyn Milfeddygon (Esemptiadau) 1962.
(2) Nid yw'r cyfyngiad ym mharagraff (1) yn gymwys i—
(a)
(a) tocio cynffonnau, neu
(b)
(b) ysbaddu
moch nad ydynt yn hyn na 7 niwrnod oed.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
27 Mawrth 2007
ATODLEN 1
Rheoliad 3
TRINIAETHAU A GANIATEIR
Gwartheg
Triniaethau Adnabod:
Clipio clustiau.
Bylchu clustiau.
Tagio clustiau.
Rhewfrandio.
Microsglodynnu.
Tatwio.
Dulliau eraill o adnabod anifeiliaid sy'n cynnwys anffurfiad sy'n ofynnol gan y gyfraith.
Triniaethau ar gyfer Rheoli Atgenhedlu.
Ysbaddu.
Caglu embryonau neu'u trosglwyddo drwy ddull llawfeddygol.
Gosod dyfais atal cenhedlu o dan y croen.
Trosglwyddo ofa, gan gynnwys casglu ofa drwy ddull llawfeddygol.
Fasdoriad.
Triniaethau Rheoli Eraill:
Digornio.
Dadimpio.
Modrwyo trwynau .
Tynnu tethi ychwanegol.
Moch
Triniaethau Adnabod:
Clipio clustiau.
Bylchu clustiau.
Tagio clustiau.
Microsglodynnu.
Tatwio.
Dulliau eraill o adnabod anifeiliaid sy'n cynnwys anffurfiad sy'n ofynnol gan y gyfraith.
Triniaethau ar gyfer Rheoli Atgenhedlu.
Ysbaddu.
Gosod dyfais atal cenhedlu o dan y croen.
Fasdoriad.
Triniaethau Rheoli Eraill:
Modrwyo trwynau (cwirso).
Tocio cynffonnau.
Lleihau dannedd.
Tocio ysgithrau.
Adar
Triniaethau Adnabod:
Microsglodynnu.
Dulliau eraill o adnabod anifeiliaid sy'n cynnwys anffurfiad sy'n ofynnol gan y gyfraith.
Triniaethau ar gyfer Rheoli Atgenhedlu.
Ysbaddu.
Gosod dyfais atal cenhedlu o dan y croen.
Ofidectomi.
Fasdoriad.
Triniaethau Rheoli Eraill:
Tocio pig dofednod.
Torri crogrib.
Tynnu bysedd traed ffowls domestig a thyrcwn.
Torri crib.
Laparosgopi.
Tocio blaenau adennydd.
Defaid
Triniaethau Adnabod:
Clipio clustiau.
Bylchu clustiau.
Tagio clustiau.
Microsglodynnu.
Tatwio.
Dulliau eraill o adnabod anifeiliaid sy'n cynnwys anffurfiad sy'n ofynnol gan y gyfraith.
Triniaethau ar gyfer Rheoli Atgenhedlu.
Ysbaddu.
Gosod dyfais atal cenhedlu o dan y croen.
Fasdoriad.
Triniaethau Rheoli Eraill:
Digornio.
Dadimpio.
Tynnu blaen ansensitif y corn.
Tocio cynffonnau.
Geifr
Triniaethau Adnabod:
Clipio clustiau.
Bylchu clustiau.
Tagio clustiau.
Microsglodynnu.
Tatwio.
Dulliau eraill o adnabod anifeiliaid sy'n cynnwys anffurfiad sy'n ofynnol gan y gyfraith.
Triniaethau ar gyfer Rheoli Atgenhedlu.
Ysbaddu.
Gosod dyfais atal cenhedlu o dan y croen.
Fasdoriad.
Triniaethau Rheoli Eraill:
Digornio.
Dadimpio.
Tynnu blaen ansensitif y corn.
Ceffylau
Triniaethau Adnabod:
Rhewfrandio.
Poethfrandio.
Microsglodynnu.
Tatwio.
Dulliau eraill o adnabod anifeiliaid sy'n cynnwys anffurfiad sy'n ofynnol gan y gyfraith.
Triniaethau ar gyfer Rheoli Atgenhedlu.
Ysbaddu.
Fasdoriad.
Ceirw
Triniaethau Adnabod:
Clipio clustiau.
Bylchu clustiau.
Tagio clustiau.
Microsglodynnu.
Tatwio.
Dulliau eraill o adnabod anifeiliaid sy'n cynnwys anffurfiad sy'n ofynnol gan y gyfraith.
Triniaethau ar gyfer Rheoli Atgenhedlu.
Ysbaddu.
Gosod dyfais atal cenhedlu o dan y croen.
Fasdoriad.
Triniaethau Rheoli Eraill:
Tynnu cyrn pan na fydd ceirw yn bwrw eu melfed.
Rhywogaethau eraill
Triniaethau Adnabod:
Clipio clustiau.
Bylchu clustiau.
Torri blaen clust chwith cathod lledwyllt.
Gosod dyfeisiau olrhain o dan y croen.
Tagio.
Brandio pysgod yn gemegol.
Rhewfrandio pysgod.
Microsglodynnu.
Tynnu neu dyllu rhannau o adennydd psygod, adennydd brasterog pysgod neu belydrau adennydd pysgod.
Tatwio.
Dulliau eraill o adnabod anifeiliaid sy'n cynnwys anffurfiad sy'n ofynnol gan y gyfraith.
Triniaethau ar gyfer Rheoli Atgenhedlu.
Ysbaddu.
Caglu embryonau neu'u trosglwyddo drwy ddull llawfeddygol.
Gosod dyfais atal cenhedlu o dan y croen.
Trosglwyddo ofa, gan gynnwys casglu ofa drwy ddull llawfeddygol.
Disbaddu.
Fasdoriad.
Triniaethau Rheoli Eraill:
Laparosgopi.
Tynnu corewinedd cŵn.
Tynnu cen pysgod.
ATODLEN 2
Rheoliad 3
GWARTHEG: GOFYNION WRTH ROI TRINIAETHAU PENODOL A GANIATEIR
Pan roddir triniaeth i wartheg, a honno'n driniaeth sydd yn y rhestr isod, rhaid iddi gael ei rhoi yn unol â'r amod neu'r amodau a bennir ar gyfer y driniaeth honno.
1. Ysbaddu
Os y dull a ddefnyddir yw defnyddio modrwy rwber i gyfyngu ar rediad y gwaed i'r ceillgwd, ni ellir rhoi'r driniaeth ond i anifail nad yw'n hŷn na 7 niwrnod oed.
Pan ddefnyddir dull arall, rhaid rhoi anesthetig pan fo'r anifail yn 2 fis oed neu'n hyn na hynny.
2. Caglu embryonau neu'u trosglwyddo drwy ddull llawfeddygol
Rhaid rhoi anesthetig.
3. Gosod dyfais atal cenhedlu o dan y croen
Ni chaniateir rhoi'r driniaeth i anifail a ffermir.
Ni chaniateir rhoi'r driniaeth ond fel rhan o raglen fridio at ddibenion cadwraeth.
4. Trosglwyddo ofa, gan gynnwys casglu ofa drwy ddull llawfeddygol
Rhaid rhoi anesthetig.
5. Fasdoriad
Rhaid rhoi anesthetig.
6. Digornio
Rhaid rhoi anesthetig.
7. Dadimpio
Ni chaniateir rhoi'r driniaeth ond i anifail nad yw'n hŷn na 6 mis oed.
Os serio cemegol yw'r dull a ddefnyddir, ni chaniateir rhoi'r driniaeth ond i anifail nad yw'n hŷn na 7 niwrnod oed.
Pan ddefnyddir dull arall rhaid rhoi anesthetig.
8. Tynnu tethi ychwanegol.
Rhaid rhoi anesthetig pan fo'r anifail yn 3 fis oed neu'n hyn na hynny.
ATODLEN 3
Rheoliad 3
MOCH: GOFYNION WRTH ROI TRINIAETHAU PENODOL A GANIATEIR
Pan roddir triniaeth i fochyn, a honno'n driniaeth sydd yn y rhestr isod, rhaid iddi gael ei rhoi yn unol â'r amod neu'r amodau a bennir ar gyfer y driniaeth honno.
1. Ysbaddu
Rhaid i'r dull a ddefnyddir beidio â chynnwys rhwygo meinweoedd.
Rhaid rhoi anesthetig ac analgesia estynedig ychwanegol pan fo'r anifail yn 7 niwrnod oed neu'n hŷn na hynny.
2. Gosod dyfais atal cenhedlu o dan y croen
Ni chaniateir rhoi'r driniaeth i anifail a ffermir.
Ni chaniateir rhoi'r driniaeth ond fel rhan o raglen fridio at ddibenion cadwraeth.
3. Fasdoriad
Rhaid rhoi anesthetig.
4. Modrwyo trwynau (cwirso)
Ni chaniateir rhoi'r driniaeth ond i anifal nas cedwir yn barhaus mewn system hwsmona dan do.
5. Tocio cynffonnau
Ni chaniateir rhoi'r driniaeth ond os cymerwyd camau yn gyntaf i wella amgylchiadau amgylcheddol neu systemau rheoli er mwyn atal brathu cynffonnau, ond y mae tystiolaeth o hyd i ddangos bod y moch wedi'u hanafu gan frathu cynffonnau.
Rhaid i'r dull a ddefnyddir gynnwys torri'r gynffon yn gyflym ac yn llwyr.
Rhaid rhoi anesthetig ac analgesia estynedig ychwanegol pan fo'r anifail yn 7 niwrnod oed neu'n hŷn na hynny.
6. Lleihau dannedd
Ni chaniateir rhoi'r...