Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Terfynau Rhagnodedig ar gyfer Taliadau Diffygdaliad) (Cymru) 2020

Year2020

2020 Rhif 202 (Cy. 45)

Tai, Cymru

Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Terfynau Rhagnodedig ar gyfer Taliadau Diffygdaliad) (Cymru) 2020

Gwnaed 28th February 2020

Yn dod i rym 28th April 2020

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 27(2)(a) o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 20191, a pharagraff 6 o Atodlen 1 iddi.

Yn unol ag adran 27(3) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.

S-1 Enwi, cychwyn a dehongli

Enwi, cychwyn a dehongli

1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Terfynau Rhagnodedig ar gyfer Taliadau Diffygdaliad) (Cymru) 2020 a deuant i rym ar 28 Ebrill 2020.

(2) Yn y Rheoliadau hyn, mae i “deiliad contract” yr un ystyr ag a roddir yn Neddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 20162.

S-2 Y terfynau rhagnodedig ar gyfer methu â thalu rhent

Y terfynau rhagnodedig ar gyfer methu â thalu rhent

2.—(1) Mae’r terfyn rhagnodedig yn achos methiant gan ddeiliad contract3i dalu rhent i landlord erbyn y dyddiad dyledus i’w bennu fel a ganlyn.

(2) Yn achos methiant i dalu rhent cyn diwedd y cyfnod o saith niwrnod sy’n dechrau ar y dyddiad dyledus, y terfyn rhagnodedig yw sero.

(3) Yn achos methiant i dalu rhent ar ôl diwedd y cyfnod o saith niwrnod sy’n dechrau ar y dyddiad dyledus, y terfyn rhagnodedig yw cyfanswm y symiau a geir drwy gymhwyso cyfradd ganrannol flynyddol sydd dri y cant yn uwch na chyfradd sylfaenol Banc Lloegr, mewn perthynas â phob diwrnod ar ôl y dyddiad dyledus y mae’r rhent yn dal heb ei dalu ar ei gyfer, i swm y rhent sy’n dal heb ei dalu ar ddiwedd y diwrnod hwnnw.

(4) Yn y rheoliad hwn, ystyr “cyfradd sylfaenol Banc Lloegr” yw’r gyfradd ganrannol a gyhoeddir o bryd i’w gilydd gan Bwyllgor Polisi Ariannol Banc Lloegr fel y gyfradd fasnachu swyddogol, sef y gyfradd y mae’r Banc yn fodlon ei defnyddio mewn trafodiadau i ddarparu hylifedd byrdymor yn y marchnadoedd arian.

(5) Ond pan fo gorchymyn o dan adran 19 o Ddeddf Banc Lloegr 19984mewn grym, mae unrhyw gyfradd ganrannol gyfatebol a bennir gan y Trysorlys o dan yr adran honno yn gymwys.

S-3 Disgrifiadau ychwanegol o daliadau diffygdaliad

Disgrifiadau ychwanegol o daliadau diffygdaliad

3. Mae’r disgrifiadau ychwanegol o ddiffygdaliadau y pennir terfyn rhagnodedig mewn cysylltiad â hwy fel a ganlyn—

(a) toriad gan ddeiliad y contract o un o delerau’r contract sy’n golygu bod rhaid newid, ychwanegu neu dynnu ymaith glo sy’n rhoi mynediad i’r annedd y mae contract deiliad y contract yn ymwneud â hi, a

(b)...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT