Rheoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Pennu Gweithwyr Gofal Cymdeithasol) (Cofrestru) (Diwygio) 2020
2020 Rhif 286 (Cy. 65)
Gofal Cymdeithasol, Cymru
Rheoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Pennu Gweithwyr Gofal Cymdeithasol) (Cofrestru) (Diwygio) 2020
Made 11th March 2020
Coming into force 1st April 2020
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 80(1)(b) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 20161, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Yn unol ag adran 187(2)(n) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.
Enwi, cychwyn a dehongli
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Pennu Gweithwyr Gofal Cymdeithasol) (Cofrestru) (Diwygio) 2020.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2020.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Rheoliadau 2016” yw Rheoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Pennu Gweithwyr Gofal Cymdeithasol) (Cofrestru) 20162.
Diwygio Rheoliadau 2016
2.—(1) Mae Rheoliadau 2016 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2 (dehongli), yn y lle priodol mewnosoder—
“mae i “cyflogaeth” yr un ystyr ag a roddir i “employment” yn adran 230(5) o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 19963ac mae’n cynnwys unigolion sydd wedi eu cyflogi pa un ai fel cyflogai neu fel gweithiwr;”;
“mae i “gwasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd” (“residential family centre service”) yr un ystyr ag a roddir yn adran 2(1)(c) o’r Ddeddf a pharagraff 3 o Atodlen 1 iddi, yn ddarostyngedig i reoliad 4 o Reoliadau 2017;”;
“mae i “gwasanaeth cartref gofal” (“care home service”) yr un ystyr ag a roddir yn adran 2(1)(a) o’r Ddeddf a pharagraff 1 o Atodlen 1 iddi, yn ddarostyngedig i reoliad 2 o Reoliadau 2017;”.
(3) Yn rheoliad 3 (pennu gweithwyr gofal cymdeithasol)—
(a)
(a) ym mharagraff (2)—
(i) yn lle is-baragraff (b) rhodder—
“(b)
“(b) sydd, yn ystod eu cyflogaeth gyda darparwr gwasanaeth, yn darparu gofal a chymorth i unrhyw berson yng Nghymru mewn cysylltiad—
â gwasanaeth cartref gofal a ddarperir yn gyfan gwbl neu’n bennaf i oedolion,
â gwasanaeth cartref gofal a ddarperir yn gyfan gwbl neu’n bennaf i blant,
â gwasanaeth llety diogel o fewn ystyr paragraff 2 o Atodlen 1 i’r Ddeddf,
â gwasanaeth cymorth cartref er mwyn darparu gofal a chymorth i berson y cyfeirir ato ym mharagraff 8(1) o Atodlen 1 i’r Ddeddf, neu
â gwasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd,
a ddarperir gan y darparwr hwnnw;”;
(ii) ar ôl is-baragraff (b) fel y’i hamnewidir gan y Rheoliadau...
To continue reading
Request your trial