Rheoliadau'r Cyfrifiad (Cymru) 2020
Year | 2020 |
2020 Rhif 555 (Cy. 128)
Y Cyfrifiad, Cymru
Rheoliadau’r Cyfrifiad (Cymru) 2020
Gwnaed 28th May 2020
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 1st June 2020
Yn dod i rym 26th June 2020
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 3(1) o Ddeddf y Cyfrifiad 19201, ac ar ôl ymgynghori â’r Bwrdd Ystadegau yn unol ag adran 3(1A)2o’r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Cyfrifiad (Cymru) 2020.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 26 Mehefin 2020.
(3) Maeʼr Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dirymu
2. Mae Rheoliadau’r Cyfrifiad (Cymru) 20103wedi eu dirymu.
Dehongli
3.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
mae i “aelwyd” yr ystyr a roddir i “household” gan erthygl 2(1) o Orchymyn y Cyfrifiad;
mae i “amlen radbost” (“prepaid envelope”) fel y mae’n ymddangos yn holiadur I2(paper) ac I2W(papur) yr un ystyr ag “amlen wedi ei thalu ymlaen llaw”;
ystyr “amlen wedi ei thalu ymlaen llaw” (“reply-paid envelope”) yw amlen sydd wedi ei chyfeirio ymlaen llaw ac nad oes angen i’r anfonwr dalu i’w hanfon;
mae i “annedd” yr ystyr a roddir i “dwelling” gan erthygl 2(1) o Orchymyn y Cyfrifiad;
ystyr “ardal cydgysylltydd cyfrifiad” (“census co-ordinator area”) yw ardal a grëir o dan reoliad 4(1)(b)(i);
ystyr “ardal cydgysylltydd sefydliadau cymunedol” (“communal establishment co-ordinator area”) yw ardal a grëir o dan reoliad 4(1)(b)(ii);
ystyr “yr Awdurdod” (“the Authority”) yw’r Bwrdd Ystadegau a sefydlwyd gan adran 1 o Ddeddf 2007;
ystyr “cod mynediad unigryw” (“unique access code”) yw cod sy’n rhoi mynediad unigryw drwy’r rhyngrwyd i holiadur H2(online) ac H2W(ar-lein), holiadur I2(online) ac I2W(ar-lein), a holiadur CE2(online) ac CE2W(ar-lein). Mae’r cod mynediad unigryw yn rhoi mynediad i’r fersiwn Gymraeg a’r fersiwn Saesneg o’r holiadur y mae’r person rhagnodedig yn ei lenwi;
ystyr “cod mynediad unigryw newydd” (“replacement unique access code”) yw cod mynediad unigryw sy’n wahanol i god mynediad unigryw a ddarparwyd eisoes ac sy’n disodli’r cod hwnnw;
ystyr “cydgysylltydd cyfrifiad” (“census co-ordinator”) yw person a benodir o dan reoliad 4(1)(b)(i);
ystyr “cydgysylltydd sefydliadau cymunedol” (“communal establishment co-ordinator”) yw person a benodir o dan reoliad 4(1)(b)(ii);
ystyr “cyfrifiad” (“census”) yw’r cyfrifiad y mae Gorchymyn y Cyfrifiad yn cyfarwyddo ei gynnal;
ystyr “Deddf 1920” (“the 1920 Act”) yw Deddf y Cyfrifiad 1920;
ystyr “Deddf 2007” (“the 2007 Act”) yw Deddf Ystadegau a’r Gwasanaeth Cofrestru 20074;
mae i “deiliad aelwyd” yr ystyr a roddir i “householder” gan erthygl 2(1) o Orchymyn y Cyfrifiad;
ystyr “diwrnod y cyfrifiad” (“census day”) yw 21 Mawrth 2021;
ystyr “dosbarth cyfrifo” (“enumeration district”) yw dosbarth a grëir o dan reoliad 4(1)(c);
ystyr “dyfais gyfrifiad electronig” (“census electronic device”) yw unrhyw ddyfais electronig y mae rhaid i’r Awdurdod ei darparu o dan reoliad 7(3);
ystyr “etholwr” (“elector”) yw person rhagnodedig sy’n ethol llenwi ffurflen unigolyn o dan erthygl 5(5) o Orchymyn y Cyfrifiad;
mae i “ffurflen unigolyn” yr ystyr a roddir i “individual return” gan erthygl 2(1) o Orchymyn y Cyfrifiad;
ystyr “y gofrestr cyfeiriadau” (“the address register”) yw’r gofrestr ac unrhyw is-set o’r gofrestr a ddefnyddir gan yr Awdurdod, sy’n cynnwys cyfeiriad pob aelwyd a phob sefydliad cymunedol yng Nghymru y mae’r Awdurdod yn ymwybodol ohonynt;
ystyr “Gorchymyn y Cyfrifiad” (“the Census Order”) yw Gorchymyn y Cyfrifiad (Cymru a Lloegr) 20205;
mae i “gwybodaeth bersonol” yr ystyr a roddir i “personal information” gan adran 39(2) o Ddeddf 2007;
ystyr “holiadur” (“questionnaire”) yw unrhyw holiadur ar-lein neu holiadur papur;
ystyr “holiadur ar-lein” (“online questionnaire”) yw unrhyw un neu ragor o’r holiaduron a ganlyn: H2(online), H2W(ar-lein), I2(online), I2W(ar-lein), CE2(online) neu CE2W(ar-lein);
ystyr “holiadur papur” (“paper questionnaire”) yw unrhyw un neu ragor o’r holiaduron a ganlyn: H2(paper), H2W(papur), HC2(paper), HC2W(papur), I2(paper), I2W(papur), CE2(paper) neu CE2W(papur);
ystyr “holiadur wedi ei lenwi” (“completed questionnaire”) yw holiadur sydd wedi ei lenwi gyda’r manylion y mae Gorchymyn y Cyfrifiad yn ei gwneud yn ofynnol i berson rhagnodedig eu darparu ac a oedd yn gywir am hanner nos ar ddiwrnod y cyfrifiad;
ystyr “offeryn rheoli gwaith maes” (“fieldwork management tool”) yw’r system electronig honno y mae rhaid i’r Awdurdod ei darparu o dan reoliad 7(2);
ystyr “pecyn aelwyd” (“household pack”) yw pecyn ar-lein i aelwydydd neu becyn papur i aelwydydd;
ystyr “pecyn aelwyd (parhad)” (“household continuation pack”) yw pecyn fel y’i disgrifir yn rheoliad 8(5);
ystyr “pecyn ar-lein i aelwydydd” (“online household pack”) yw pecyn fel y’i disgrifir yn rheoliad 8(3);
ystyr “pecyn ar-lein i sefydliadau cymunedol” (“online communal establishment pack”) yw pecyn fel y’i disgrifir yn rheoliad 8(3);
ystyr “pecyn ar-lein i unigolion” (“online individual pack”) yw pecyn fel y’i disgrifir yn rheoliad 8(3);
ystyr “pecyn i sefydliadau cymunedol” (“communal establishment pack”) yw pecyn ar-lein i sefydliadau cymunedol neu becyn papur i sefydliadau cymunedol;
ystyr “pecyn papur i aelwydydd” (“paper household pack”) yw pecyn fel y’i disgrifir yn rheoliad 8(4);
ystyr “pecyn papur i sefydliadau cymunedol” (“paper communal establishment pack”) yw pecyn fel y’i disgrifir yn rheoliad 8(4);
ystyr “pecyn papur i unigolion” (“paper individual pack”) yw pecyn fel y’i disgrifir yn rheoliad 8(4);
ystyr “pecyn unigolyn” (“individual pack”) yw pecyn ar-lein i unigolion neu becyn papur i unigolion;
ystyr “pecynnau cyfrifiad” (“census packs”) yw unrhyw un neu ragor o’r pecynnau a ddisgrifir yn rheoliad 8(3) i (5);
ystyr “penodai” (“appointee”) yw unrhyw berson a benodir o dan reoliad 4 neu a benodir gan yr Awdurdod cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym at ddibenion cynnal y cyfrifiad;
ystyr “person rhagnodedig” (“prescribed person”) yw person y mae Gorchymyn y Cyfrifiad yn ei gwneud yn ofynnol iddo lenwi ffurflen, neu unrhyw berson sy’n llenwi ffurflen ar ran person o’r fath yn unol â Gorchymyn y Cyfrifiad;
mae i “preswylydd arferol” yr ystyr a roddir i “usual resident” gan erthygl 2(3)(a) o Orchymyn y Cyfrifiad;
ystyr “rheolwr gweithrediadau ardal” (“area operations manager”) yw person a benodir o dan reoliad 4(1)(a);
ystyr “rhif adnabod holiadur” (“questionnaire identification number”) yw marc adnabod rhifol y gall peiriant ei ddarllen sy’n unigryw i bob holiadur;
ystyr “sefydliad cymunedol” (“communal establishment”) yw unrhyw sefydliad a bennir yng Ngrwpiau B i F o golofn 1 o Atodlen 1 i Orchymyn y Cyfrifiad;
ystyr “swyddog cyfrifiad” (“census officer”) yw swyddog a benodir o dan reoliad 4(1)(c);
ystyr “swyddog sefydliadau cymunedol” (“communal establishment officer”) yw swyddog a benodir o dan reoliad 4(1)(c);
ystyr “system olrhain holiaduron” (“questionnaire tracking system”) yw unrhyw system neu systemau electronig a ddarperir gan yr Awdurdod o dan reoliad 7(1);
ystyr “yn electronig” (“electronically”) yw drwy ddefnyddio’r rhyngrwyd.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, mae’r byrfoddau a ganlyn yn gymwys—
Byrfodd (pan y’i defnyddir gyda’r term “holiadur”) |
Ystyr |
H2(online) |
“Household Questionnaire (online)” fel y cyfeirir ato yng ngholofn (2) o’r tabl yn Atodlen 1 |
H2W(ar-lein) |
“Holiadur (ar-lein) y Cartref” fel y cyfeirir ato yng ngholofn (3) o’r tabl yn Atodlen 1 |
I2(online) |
“Individual Questionnaire (online)” fel y cyfeirir ato yng ngholofn (2) o’r tabl yn Atodlen 1 |
I2W(ar-lein) |
“Holiadur (ar-lein) i Unigolion” fel y cyfeirir ato yng ngholofn (3) o’r tabl yn Atodlen 1 |
CE2(online) |
“Communal Establishment Questionnaire (online)” fel y cyfeirir ato yng ngholofn (2) o’r tabl yn Atodlen 1 |
CE2W(ar-lein) |
“Holiadur (ar-lein) i Sefydliadau Cymunedol” fel y cyfeirir ato yng ngholofn (3) o’r tabl yn Atodlen 1 |
H2(paper) |
“Household Questionnaire (paper)” fel y cyfeirir ato yng ngholofn (2) o’r tabl yn Atodlen 1 |
H2W(papur) |
“Holiadur (papur) y Cartref” fel y cyfeirir ato yng ngholofn (3) o’r tabl yn Atodlen 1 |
HC2(paper) |
“Household Continuation Questionnaire (paper)” fel y cyfeirir ato yng ngholofn (2) o’r tabl yn Atodlen 1 |
HC2W(papur) |
“Holiadur (papur) y Cartref (Parhad)” fel y cyfeirir ato yng ngholofn (3) o’r tabl yn Atodlen 1 |
I2(paper) |
“Individual Questionnaire (paper)” fel y cyfeirir ato yng ngholofn (2) o’r tabl yn Atodlen 1 |
I2W(papur) |
“Holiadur (papur) i Unigolion” fel y cyfeirir ato yng ngholofn (3) o’r tabl yn Atodlen 1 |
CE2(paper) |
“Communal Establishment Questionnaire (paper)” fel y cyfeirir ato yng ngholofn (2) o’r tabl yn Atodlen 1 |
CE2W(papur) |
“Holiadur (papur) i Sefydliadau Cymunedol” fel y cyfeirir ato yng ngholofn (3) o’r tabl yn Atodlen 1 |
(3) Yn fersiwn Gymraeg y Rheoliadau hyn—
(a)
(a) y gair Cymraeg sy’n cyfateb i “household” yw “aelwyd”, a
(b)
(b) y geiriau Cymraeg sy’n cyfateb i “householder” yw “deiliad aelwyd”.
(4) Yn fersiynau Cymraeg yr holiaduron—
(a)
(a) y geiriau Cymraeg sy’n cyfateb i “household” yw “cartref” ac “aelodau o’r cartref” (yn ôl y digwydd), a
(b)
(b) y gair Cymraeg sy’n cyfateb i “householder” yw “deiliad y cartref”.
(5) Nid yw person rhagnodedig yn torri’r Rheoliadau hyn drwy ddychwelyd fersiwn Gymraeg a fersiwn Saesneg o holiadur gyda’r ddwy fersiwn wedi eu llenwi’n rhannol, ar yr amod bod yr wybodaeth a ddarperir yn yr holiaduron yn gyfystyr â ffurflen gyfan.
Rhaniadau gweinyddol a phenodiadau
4.—(1) At ddibenion y cyfrifiad, rhaid i’r Awdurdod—
(a)
(a) rhannu Cymru yn ardaloedd cyfrifiad a phenodi rheolwr gweithrediadau ardal i bob ardal gyfrifiad;
(b)
(b) rhannu pob ardal gyfrifiad yn—
(i) ardaloedd cydgysylltwyr cyfrifiad a phenodi cydgysylltydd cyfrifiad i bob ardal cydgysylltydd cyfrifiad;
(ii) ardaloedd cydgysylltwyr sefydliadau cymunedol a phenodi cydgysylltydd sefydliadau cymunedol i bob ardal cydgysylltydd sefydliadau cymunedol;
(c)
(c) rhannu pob ardal cydgysylltydd...
To continue reading
Request your trial