Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Fforymau Mynediad Lleol) (Cymru) (Coronafeirws) 2020
2020 Rhif 723 (Cy. 161)
Cefn Gwlad, Cymru
Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Fforymau Mynediad Lleol) (Cymru) (Coronafeirws) 2020
Gwnaed 9th July 2020
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 13th July 2020
Yn dod i rym 4th August 2020
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 94 a 95(5) o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 20001.
Enwi, cymhwyso, cychwyn, dod i ben a dehongli
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Fforymau Mynediad Lleol) (Cymru) (Coronafeirws) 2020. Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 4 Awst 2020.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn, ac eithrio rheoliad 6 a’r rheoliad hwn, yn peidio â chael effaith ar 30 Ebrill 2021.
(3) Mae rheoliad 6 a’r rheoliad hwn yn peidio â chael effaith ddwy flynedd ar ôl dod i rym.
(4) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Rheoliadau 2001” yw Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Fforymau Mynediad Lleol) (Cymru) 20012.
Cyfarfodydd a gynhelir cyn diwedd 30 Ebrill 2021
2. Mae Rheoliadau 2001 i’w darllen fel pe bai’r canlynol wedi ei fewnosod ar ôl rheoliad 2—
“Mynychu cyfarfodydd o bell
2A. (1) Caniateir i gyfarfod o fforwm neu bwyllgor o fforwm gael ei gynnal drwy gyfrwng unrhyw gyfarpar neu gyfleuster arall sy’n galluogi personau nad ydynt yn yr un lle i siarad â’i gilydd a chlywed ei gilydd (pa un a yw’r cyfarpar neu’r cyfleuster hefyd yn galluogi’r personau hynny i weld ei gilydd ai peidio).
(2) Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriadau at y ffaith bod person yn mynychu cyfarfod neu’n bresennol mewn cyfarfod yn cynnwys, mewn perthynas â chyfarfod a gynhelir drwy’r cyfrwng a ddisgrifir ym mharagraff (1), mynychu drwy ddefnyddio’r cyfrwng hwnnw.”
3. Mae Rheoliadau 2001 i’w darllen fel pe bai’r canlynol wedi ei fewnosod ar ôl rheoliad 7—
“Darpariaethau ar gyfer penodiadau dros dro
7A. (1) Mae’r darpariaethau a ganlyn yn ymwneud â phenodiad a wneir yn ystod y cyfnod sy’n dechrau â’r diwrnod daw’r rheoliadau hyn i rym ac sy’n dod i ben ar ddiwedd 30 Ebrill 2021.
(2) Mae rheoliad 7 wedi ei addasu fel a ganlyn.
(a)
(a) Mae rheoliad 7 i’w ddarllen fel pe bai “, rhaid i awdurdod penodi” wedi ei ddileu.
(b)
(b) Mae rheoliadau 7(a) i’w ddarllen fel pe bai “caiff awdurdod penodi” wedi ei ychwanegu ar y cychwyn.
(c)
(c) Mae rheoliad 7(b) i’w ddarllen fel pe bai “caiff awdurdod penodi roi” wedi ei roi yn lle “rhoi”.
(d)
(d) Mae rheoliad 7(c) i’w ddarllen fel pe bai “caiff awdurdod penodi wahodd” wedi ei roi yn lle “gwahodd”.
(e)
(e) Mae rheoliad 7(ch) i’w ddarllen fel pe bai “rhaid i awdurdod penodi gymryd” wedi ei roi yn lle “cymryd”.
(f)
(f) Mae rheoliad 7(d) i’w ddarllen fel pe bai “rhaid i awdurdod penodi” wedi ei ychwanegu ar y cychwyn.
(g)
(g) Mae rheoliad 7(dd) i’w ddarllen fel pe bai “rhaid i awdurdod penodi roi” wedi ei roi yn lle “rhoi”.
(3) Os nad yw awdurdod penodi yn arfer y naill neu’r llall o’r pwerau yn rheoliadau 7(a) a (b), neu’r ddau ohonynt, mae rheoliad 4(3) i’w ddarllen fel pe bai’r geiriau “naw mis i ben sy’n dechrau gyda diwrnod cyntaf aelodaeth y person” wedi eu rhoi yn lle’r geiriau “dair blynedd i ben o ddyddiad cyfarfod cyntaf y fforwm”. ”
4. Mae rheoliad 10(2)(c) (papurau ar gyfer cyfarfodydd) i’w ddarllen, mewn perthynas â chyfarfod a gynhelir cyn diwedd 30 Ebrill 2021, fel pe bai’r geiriau “yn cael eu hanfon drwy’r post at bob aelod o’r fforwm yn y cyfeiriad hwnnw a bennir gan aelod at y diben, fel y cyflwynir hwy yn ôl y drefn bostio arferol o leiaf saith diwrnod clir cyn dyddiad cyfarfod; neu’n cael eu hanfon ar ffurf...
To continue reading
Request your trial