Gorchymyn Cefnffordd yr A483 (Ffin Powys/Sir Gaerfyrddin i Lanymynech, Powys) (Cyfyngiadau Cyflymder Dros Dro a Dim Goddiweddyd) 2020
Year | 2020 |
2020Rhif 810 (Cy. 178)
TRAFFIG FFYRDD, CYMRU
Gorchymyn Cefnffordd yr A483 (Ffin Powys/Sir Gaerfyrddin i Lanymynech, Powys) (Cyfyngiadau Cyflymder Dros Dro a Dim Goddiweddyd) 2020
Gwnaed28Gorffennaf2020
Yn dod i rym4Awst2020
Mae Gweinidogion Cymru, sef yr awdurdod traffig ar gyfer cefnffordd yr A483, wedi eu bodloni y dylid gwahardd traffig a/neu gyfyngu arno ar ddarn penodedig o'r gefnffordd oherwydd gwaith y bwriedir ei wneud ar y ffordd neu gerllaw iddi.
Mae Gweinidogion Cymru, felly, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 14(1), (4) a (7) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984( 1), yn gwneud y Gorchymyn hwn.
Enwi, Cychwyn a Dehongli
1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cefnffordd yr A483 (Ffin Powys/Sir Gaerfyrddin i Lanymynech, Powys) (Cyfyngiadau Cyflymder Dros Dro a Dim Goddiweddyd) 2020 a daw i rym ar 4 Awst 2020.
2. Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “cerbyd esempt” (“exempted vehicle”) yw:
(a) unrhyw gerbyd sy'n cael ei ddefnyddio at y dibenion a ddisgrifir yn adran 87 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984( 2); a
(b) unrhyw gerbyd sy'n cael ei ddefnyddio at ddibenion y llynges, y fyddin neu'r llu awyr ac sy'n cael ei yrru gan berson sydd am y tro yn ddarostyngedig i orchmynion aelod o luoedd arfog y Goron, sy'n aelod o'r lluoedd arbennig—
>(i) ac sydd wedi ei hyfforddi i yrru ar gyflymderau uchel ac sy'n gweithredu wrth ymateb, neu wrth ymarfer ymateb, i argyfwng diogelwch gwladol; neu
(ii) at ddiben hyfforddi person i yrru cerbydau ar gyflymderau uchel;
ystyr “cyfnod y gwaith”(“works period”) yw cyfnodau ysbeidiol a fydd yn cychwyn am 08:00 o'r gloch ar 4 Awst 2020 ac a ddaw i ben pan fydd yr arwyddion traffig dros dro ar gyfer pob cyfnod o waith wedi eu symud ymaith;
ystyr “y gefnffordd”(“the trunk road”) yw cefnffordd yr A483 Abertawe i Fanceinion sy'n ymestyn o ffin sirol Powys/Sir Gaerfyrddin, 350 o fetrau i'r de-orllewin o'r fynedfa i'r eiddo a elwir Bylchau, ger Dinas-y-bwlch hyd at ganolbwynt ei chyffordd â'r U2052 i Ben-y-foel yn Llanymynech, Powys;
ystyr “lluoedd arbennig”(“special forces”) yw'r unedau hynny o'r lluoedd arfog y mae Cyfarwyddwr y Lluoedd Arbennig yn gyfrifol am gynnal eu galluoedd neu sydd am y tro yn ddarostyngedig i reolaeth weithredol y Cyfarwyddwr hwnnw.
Cyfyngiadau a Gwaharddiad
3. Ni chaiff neb, yn ystod cyfnod y gwaith, yrru unrhyw gerbyd modur yn gyflymach na 40 milltir yr awr ar y darn o'r gefnffordd.
4. Ni chaiff neb, yn ystod cyfnod y gwaith, yrru unrhyw gerbyd modur yn gyflymach na...
To continue reading
Request your trial