The Renting Homes (Fees etc.) (Specified Information) (Wales) Regulations 2019
Year | 2019 |
2019 Rhif 1466 (Cy. 258)
Tai, Cymru
Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Gwybodaeth Benodedig) (Cymru) 2019
Gwnaed 12th November 2019
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 15th November 2019
Yn dod i rym 13th December 2019
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pŵer a roddir iddynt gan baragraff 11(3) a (4) o Atodlen 2 i Ddeddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 20191, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi a chychwyn
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Gwybodaeth Benodedig) (Cymru) 2019.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 13 Rhagfyr 2019.
Gwybodaeth Benodedig
2.—(1) Mae’r Rheoliadau hyn yn pennu gwybodaeth sydd i’w darparu i ddarpar ddeiliad contract2o dan baragraff 11 o Atodlen 2 i Ddeddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019 (“y Ddeddf”) cyn y telir blaendal cadw3i landlord neu asiant gosod eiddo a’r ffordd y mae rhaid darparu’r wybodaeth honno.
(2) Rhaid darparu’r wybodaeth a ganlyn i ddarpar ddeiliad contract—
(a)
(a) swm y blaendal cadw4;
(b)
(b) enwi’r annedd y telir y blaendal mewn cysylltiad â hi;
(c)
(c) enw, cyfeiriad a rhif ffôn y landlord (ac os cyfarwyddir felly, yr asiant gosod eiddo) ac unrhyw gyfeiriad e-bost sydd ganddo neu ganddynt;
(d)
(d) natur a hyd y contract;
(e)
(e) dyddiad meddiannaeth arfaethedig;
(f)
(f) swm y rhent neu gydnabyddiaeth arall;
(g)
(g) cyfnod rhentu;
(h)
(h) unrhyw delerau contract ychwanegol arfaethedig neu addasiadau neu eithriadau arfaethedig i delerau sylfaenol neu atodol;
(i)
(i) swm unrhyw flaendal sicrwydd;
(j)
(j) a oes angen gwarantwr ac, os felly, unrhyw amodau perthnasol;
(k)
(k) gwiriadau geirda y bydd y landlord (neu’r asiant gosod eiddo) yn eu cynnal; ac
(l)
(l) gwybodaeth y mae ar y landlord neu’r asiant gosod eiddo ei hangen gan y darpar ddeiliad contract.
(3) Rhaid darparu’r wybodaeth i ddarpar ddeiliad contract yn ysgrifenedig a gellir ei rhoi yn bersonol neu ei hanfon naill ai drwy’r post neu ei darparu drwy ddulliau electronig os yw’r darpar ddeiliad contract yn cydsynio i’w chael yn electronig.
Julie James
Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
12 Tachwedd 2019
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn nodi gwybodaeth y mae rhaid i naill ai’r landlord neu’r asiant gosod eiddo ei darparu i ddarpar ddeiliad contract, cyn y telir blaendal cadw. Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn pennu’r ffordd y mae rhaid darparu’r...
To continue reading
Request your trial