Gorchymyn Traffordd yr M48 (Cyffordd 23 (Rogiet), Cas-gwent i Gyffordd 2 (Cyfnewidfa Newhouse), Sir Fynwy) (Gwahardd Cerbydau Dros Dro a Therfyn Cyflymder 40 mya) 2024
Year | 2024 |
2024 Rhif 6 (Cy. 3)
TRAFFIG FFYRDD, CYMRU
Gorchymyn Traffordd yr M48 (Cyffordd 23 (Rogiet), Cas-gwent i Gyffordd 2 (Cyfnewidfa Newhouse), Sir Fynwy) (Gwahardd Cerbydau Dros Dro a Therfyn Cyflymder 40 mya) 2024
Gwnaed 5 Ionawr 2024
Yn dod i rym 15 Ionawr 2024
Mae Gweinidogion Cymru, sef yr awdurdod traffig ar gyfer y darnau perthnasol o draffordd yr M48, wedi eu bodloni y dylid gwahardd traffig a/neu gyfyngu arno ar ddarnau penodedig o’r draffordd oherwydd gwaith y bwriedir ei wneud ar y ffordd neu gerllaw iddi.
Mae Gweinidogion Cymru, felly, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 14(1), (4) a (7) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984(1), yn gwneud y Gorchymyn hwn.
Enwi a chychwyn
1. Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Traffordd
yr M48 (Cyffordd 23 (Rogiet), Cas-gwent i Gyffordd 2
(Cyfnewidfa Newhouse), Sir Fynwy) (Gwahardd
Cerbydau Dros Dro a Therfyn Cyflymder 40 mya)
2024 a daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 15 Ionawr
2024.
Dehongli
2. Yn y Gorchymyn hwn—
(1) 1984 p. 27; amnewidiwyd adran 14 gan adran 1(1) o Ddeddf
Traffig Ffyrdd (Cyfyngiadau Dros Dro) 1991 (p. 26) ac
Atodlen 1 iddi. Yn rhinwedd O.S. 1999/672, ac adran 162 o
Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o
Atodlen 11 iddi, mae’r pwerau hyn yn arferadwy bellach gan
Weinidogion Cymru o ran Cymru.
ystyr “cerbyd esempt” (“exempted vehicle”) yw—
(a) unrhyw gerbyd sy’n cael ei ddefnyddio gan y
gwasanaethau brys at y dibenion a ddisgrifir
yn adran 87 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig
Ffyrdd 1984(1) neu mewn cysylltiad â’r
gwaith sy’n arwain at y Gorchymyn hwn;
(b) unrhyw gerbyd sy’n cael ei ddefnyddio at
ddibenion y llynges, y fyddin neu’r llu awyr
ac sy’n cael ei yrru gan berson sydd am y tro
yn ddarostyngedig i orchmynion aelod o
luoedd arfog y Goron, sy’n aelod o’r lluoedd
arbennig—
(i) ac sydd wedi ei hyfforddi i yrru ar
gyflymderau uchel ac sy’n gweithredu
wrth ymateb, neu wrth ymarfer ymateb, i
argyfwng diogelwch gwladol; neu
(ii) at ddiben hyfforddi person i yrru
cerbydau ar gyflymderau uchel;
ystyr “cyfnod y gwaith” (“works period”) yw’r
cyfnod sy’n dechrau am 20:00 o’r gloch ar 15
Ionawr 2024 ac sy’n dod i ben pan gaiff yr
arwyddion traffig dros dro eu symud ymaith yn
barhaol;
ystyr “y draffordd” (“the motorway”) yw traffordd
yr M48 Llundain i Abergwaun;
ystyr “lluoedd arbennig” (“special forces”) yw’r
unedau hynny o’r lluoedd arfog y mae
Cyfarwyddwr y Lluoedd Arbennig yn gyfrifol am
gynnal eu galluoedd neu sydd am y tro yn
ddarostyngedig i reolaeth...
To continue reading
Request your trial