Gorchymyn Cefnffordd yr A40 (Pontargothi, Sir Gaerfyrddin) (Gwahardd Cerbydau Dros Dro) 2024
Year | 2024 |
2024 Rhif 73 (Cy. 20)
TRAFFIG FFYRDD, CYMRU
Gorchymyn Cefnffordd yr A40 (Pontargothi, Sir Gaerfyrddin) (Gwahardd Cerbydau Dros Dro) 2024
Gwnaed 19 Ionawr 2024
Yn dod i rym 26 Ionawr 2024
Mae Gweinidogion Cymru, sef yr awdurdod traffig ar gyfer cefnffordd yr A40, wedi eu bodloni y dylid gwahardd traffig ar ddarn penodedig o’r gefnffordd oherwydd gwaith y bwriedir ei wneud ar y ffordd neu gerllaw iddi.
Mae Gweinidogion Cymru, felly, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 14(1) a (4) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984(1), yn gwneud y Gorchymyn hwn.
Enwi a chychwyn
1. Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn
Cefnffordd yr A40 (Pontargothi, Sir Gaerfyrddin)
(Gwahardd Cerbydau Dros Dro) 2024 a daw’r
Gorchymyn hwn i rym ar 26 Ionawr 2024.
Dehongli
2. Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “cerbyd esempt” (“exempted vehicle”) yw
unrhyw gerbyd sy’n cael ei ddefnyddio gan y
gwasanaethau brys neu mewn cysylltiad â’r gwaith
sy’n arwain at y Gorchymyn hwn;
(1) 1984 p. 27; amnewidiwyd adran 14 gan adran 1(1) o Ddeddf
Traffig Ffyrdd (Cyfyngiadau Dros Dro) 1991 (p. 26), ac
Atodlen 1 iddi. Yn rhinwedd O.S. 1999/672, ac adran 162 o
Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o
Atodlen 11 iddi, mae’r pwerau hyn yn arferadwy bellach gan
Weinidogion Cymru o ran Cymru.
ystyr “cyfnod y gwaith” (“works period”) yw’r
cyfnod sy’n dechrau am 10:00 o’r gloch ar 26
Ionawr 2024 ac sy’n dod i ben pan gaiff yr
arwyddion traffig dros dro eu symud ymaith yn
barhaol;
ystyr “y gefnffordd” (“the trunk road”) yw’r darn
o gefnffordd yr A40 Llandeilo i Gaerfyrddin.
Gwaharddiad
3. Ni chaiff neb, yn ystod cyfnod y gwaith, yrru
unrhyw gerbyd, ac eithrio cerbyd esempt, ar y darn o’r
gefnffordd sy’n ymestyn o bwynt 45 o fetrau i’r
gorllewin o’r gyffordd â Chwrt y Cresselly hyd at
bwynt 60 metr i’r dwyrain o’r gyffordd â Thŷ Newydd
ym Mhontargothi.
Cymhwyso
4. Ni fydd y gwaharddiad yn erthygl 3 yn gymwys
ond ar yr adegau hynny ac i’r graddau hynny y bydd
arwyddion traffig yn eu dangos.
Cyfnod Para’r Gorchymyn hwn
5. Bydd y Gorchymyn hwn yn para am 18 mis ar y
mwyaf.
Llofnodwyd ar ran y Dirprwy Weinidog Newid
Hinsawdd, wrth weithredu o dan awdurdod y
Gweinidog Newid...
To continue reading
Request your trial