Gorchymyn Cefnffordd yr A487 (Dinas, Sir Benfro) (Gwahardd Cerbydau Dros Dro) 2024
Year | 2024 |
2024 Rhif 67 (Cy. 17)
TRAFFIG FFYRDD, CYMRU
Gorchymyn Cefnffordd yr A487 (Dinas, Sir Benfro) (Gwahardd Cerbydau Dros Dro) 2024
Gwnaed 22 Ionawr 2024
Yn dod i rym 28 Ionawr 2024
Mae Gweinidogion Cymru, sef yr awdurdod traffig ar gyfer cefnffordd yr A487, wedi eu bodloni y dylid gwahardd traffig ar ddarn penodedig o’r gefnffordd oherwydd gwaith y bwriedir ei wneud ar y ffordd neu gerllaw iddi.
Mae Gweinidogion Cymru, felly, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 14(1), (4) a 124 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984(1), a pharagraff 27 o Atodlen 9 iddi, yn gwneud y Gorchymyn hwn.
Enwi a chychwyn
1. Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn
Cefnffordd yr A487 (Dinas, Sir Benfro) (Gwahardd
Cerbydau Dros Dro) 2024 a daw’r Gorchymyn hwn i
rym ar 28 Ionawr 2024.
Dehongli
2. Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “cerbyd esempt” (“exempted vehicle”) yw
unrhyw gerbyd sy’n cael ei ddefnyddio gan y
gwasanaethau brys neu mewn cysylltiad â’r gwaith
sy’n arwain at y Gorchymyn hwn;
ystyr “cyfnod y gwaith” (“works period”) yw’r
cyfnod sy’n dechrau am 08:00 o’r gloch ar 28
(1) 1984 p. 27; amnewidiwyd adran 14 gan adran 1(1) o Ddeddf
Traffig Ffyrdd (Cyfyngiadau Dros Dro) 1991 (p. 26) ac
Atodlen 1 iddi. Yn rhinwedd O.S. 1999/672, ac adran 162 o
Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o
Atodlen 11 iddi, mae’r swyddogaethau hyn yn arferadwy
bellach gan Weinidogion Cymru o ran Cymru.
Ionawr 2024 ac sy’n dod i ben pan gaiff yr
arwyddion traffig dros dro eu symud ymaith yn
barhaol;
ystyr “y gefnffordd” (“the trunk road”) yw
cefnffordd yr A487 Abergwaun i Fangor.
Gwaharddiad
3. Ni chaiff neb, yn ystod cyfnod y gwaith, yrru
unrhyw gerbyd ar y darn o’r gefnffordd sy’n ymestyn
o bwynt 20 metr i’r gogledd o’i chyffordd â Bryngelli
hyd at bwynt 170 o fetrau i’r de o ganolbwynt ei
chyffordd â’r ffordd sy’n arwain at Gae Tabor yn
Ninas, Sir Benfro.
Cymhwyso
4. Ni fydd gwaharddiad yn erthygl 3 yn gymwys ond
ar yr adegau hynny ac i’r graddau hynny y bydd
arwyddion traffig yn eu dangos.
Dirymu
5. Mae Gorchymyn Cefnffordd yr A487 (Dinas, Sir
Benfro) (Gwahardd Cerbydau Dros Dro) 2023(1) wedi
ei ddirymu.
Cyfnod para’r Gorchymyn hwn
6. Bydd y Gorchymyn hwn yn para am 12 mis ar y
mwyaf.
Llofnodwyd ar ran y Dirprwy Weinidog Newid
Hinsawdd, yn gweithredu o dan awdurdod y
Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion
Cym...
To continue reading
Request your trial