1. Cyflwyniad

Mae Deddf Elusennau 2011 yn diffinio:

  • ‘elusen’ fel:

‘….unrhyw sefydliad sydd—

(a) sefydlwyd at ddibenion elusennol a

(b) sydd o dan reolaeth yr Uchel Lys o ran ymarfer awdurdodaeth y Llys mewn perthynas ag elusennau.’ (Adran 1 o Ddeddf Elusennau 2011. Mae’r diffiniad yn berthnasol hefyd yn Rheolau Cofrestru Tir 2003 – gweler rheol 217)

  • ‘dibenion elusennol’ fel:

‘….diben sy’n—

(a) syrthio o fewn isadran 3(1) o Ddeddf Elusennau 2011, [sy’n rhestru 13 disgrifiad o ddiben], a

(b) sydd er budd y cyhoedd [mae’r prawf budd y cyhoedd i’w weld yn adran 4 o Ddeddf Elusennau 2011]’

Felly, daw cwmnïau cofrestredig o dan y Deddfau Cwmnïau yng Nghymru a Lloegr o dan Ddeddf Elusennau 2011 os yw eu dibenion yn elusennol yn unig o dan gyfraith Loegr.

  • ‘Ymddiriedau’ o ran elusen, yw’r darpariaethau sy’n ei sefydlu fel elusen ac yn rheoli ei dibenion a’i gweinyddiad, boed y darpariaethau hynny yn dod i rym trwy ymddiried neu beidio (adran 353(1) o Ddeddf Elusennau 2011). Er enghraifft, maent yn cynnwys memorandwm ac erthyglau elusen cwmni.

  • ‘Corfforaeth ymddiried’ yw’r Ymddiriedolwr Gwladol (na chaiff dderbyn ymddiriedau at ddibenion elusennol), corfforaeth a benodwyd gan y llys mewn unrhyw achos penodol i fod yn ymddiriedolwr a chorfforaeth â hawl trwy reolau a wnaed o dan adran 4(3) o Ddeddf yr Ymddiriedolwr Gwladol 1906 i weithredu fel ymddiriedolwr gwarchod (Adran 205(1)(xxix) o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925; adran 17(1)(xxx) o Ddeddf Tir Setledig 1925. Gweler hefyd adran 3 o Ddeddf (Newidiad) Cyfraith Eiddo 1926). Mae rhestr o’r corfforaethau sydd â’r fath hawl yn Rheol 30 o Reolau’r Ymddiriedolwr Gwladol 1912 (SR & O 1912/348 (fel y’i newidiwyd)).

  • ‘Y Comisiwn Elusennau’ yw’r Comisiwn Elusennau ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’r Comisiwn Elusennau yn gorff corfforaethol yn unol ag adran 13 o Ddeddf Elusennau 2011.

Mae Deddf Elusennau 2011 yn diffinio ‘ymddiriedolwyr elusen’ fel:

‘…. y bobl sydd â rheolaeth gyffredinol dros weinyddu elusen.’(Adran 177 o Ddeddf Elusennau 2011. Mae’r diffiniad yn berthnasol hefyd yn Rheolau Cofrestru Tir 2003 – gweler rheol 217)

Yn achos cwmni elusennol, cyfarwyddwyr y cwmni fydd ymddiriedolwyr yr elusen fel arfer. Bydd llawer o’r dyletswyddau a osododd Deddf Elusennau 2011 mewn cysylltiad â thir ym mherchnogaeth neu mewn ymddiried ar ran elusen ar ysgwyddau ymddiriedolwyr yr elusen fel y diffiniwyd. Dyma’r achos boed ymddiriedolwyr yr elusen eu hunain yn berchnogion cofrestredig y tir neu beidio.

I gael arweiniad am sefydliadau corfforedig elusennol nad ydynt yn cael eu trafod yn y cyfarwyddyd hwn, gweler cyfarwyddyd ymarfer 14A: sefydliadau corfforedig elusennol.

1.1 Gofynion Deddf Elusennau 2011

Yn ogystal â gofynion Deddf Cofrestru Tir 2002 a Rheolau Cofrestru Tir 2003, mae angen i chi ystyried gofynion Deddf Elusennau 2011 wrth wneud ceisiadau i gofrestru gwarediadau o blaid neu gan elusennau.

Mae darpariaethau trosiannol ac arbed Atodlen 8 i Ddeddf Elusennau 2001 (Atodlen 8, rhan 1, paragraffau 1, 2, 3(1), 5, 8 a 15(2)) yn golygu nad yw rheolau 176-180 o Reolau Cofrestru Tir 2003 wedi’u dirymu’n ymhlyg. Ar ac ar ôl 14 Mawrth 2012, dylai’r datganiadau a’r tystysgrifau penodedig osod darpariaethau perthnasol cyfatebol Deddf Elusennau 2001, er y bydd Cofrestrfa Tir EF yn parhau i dderbyn datganiadau a thystysgrifau sy’n cyfeirio at ddarpariaethau Deddf Elusennau 1993. Ar gyfer trafodion dyddiedig ar neu ar ôl 14 Mawrth 2012, bydd cyfyngiadau safonol ar Ffurf E a Ffurf F, yn cyfeirio at ddarpariaethau cyfatebol Deddf Elusennau 2001 wrth iddynt gael eu cofnodi yn y gofrestr.

Mae’r rhan fwyaf o elusennau o dan awdurdodaeth y Comisiwn Elusennau. Caiff y rhain eu cyfeirio atynt yn y cyfarwyddyd hwn fel elusennau ‘heb eu heithrio’, i wahaniaethu rhyngddynt ag elusennau eithriedig – gweler Elusennau a chyrff eithriedig nad yw Deddf Elusennau 2011 yn berthnasol iddynt. Yn gyffredinol caiff ymddiriedolwr elusennau heb eu heithrio werthu, morgeisio neu waredu tir yr elusen fel arall heb orchymyn y llys na’r Comisiwn Elusennau dim ond iddynt ddilyn y trefnau cywir. Nid yw’r trefnau hyn yn rhwymo elusennau eithriedig (adrannau 117(4)(a) a 124(10) o Ddeddf Elusennau 2011), ac nid ydynt yn berthnasol i rai trafodion penodol (adrannau 117(3) a 124(9) o Ddeddf Elusennau 2011).

Rhaid i bob gwarediad ystad o blaid elusen gynnwys datganiad ar ba un ai yw’r elusen yn eithriedig neu heb ei heithrio ac, os yw heb ei heithrio, ar y cyfyngiadau ar warediadau a osodwyd gan Ddeddf Elusennau 2011. Caiff y datganiadau hyn eu disgrifio yn Datganiadau sy’n ofynnol mewn gwarediad i elusen.

Rhaid i bob gwarediad gan elusen gynnwys datganiad priodol, ar sail y disgrifiad yn Gwarediadau gan elusennau. Yn achos elusen heb ei heithrio gall fod angen i’r gwarediad gynnwys tystysgrif ymddiriedolwyr yr elusen hefyd yn ôl Y dystysgrif sy’n ofynnol yn y gwarediad.

Mae’r datganiadau’n galluogi’r cofrestrydd:

  • wrth gofrestru elusen heb ei heithrio neu ei hymddiriedolwyr fel perchnogion tir, i gofnodi cyfyngiad priodol, a

  • wrth gofrestru gwarediad gan elusen heb ei heithrio, i fod yn fodlon y cydymffurfiwyd â’r cyfyngiad

Nid yw trosglwyddiad ystad gofrestredig neu ddigofrestredig neu o ganlyniad i benodiad ymddiriedolwr elusen newydd yn ‘warediad’ at ddibenion adrannau 117-121 o Ddeddf Elusennau 2011. Felly, nid oes rhaid cynnwys un o’r datganiadau a ddisgrifir yn Datganiadau sy’n ofynnol mewn gwarediad i elusen a Gwarediadau gan elusennau neu’r dystysgrif a ddisgrifir yn Y dystysgrif sy’n ofynnol yn y gwarediad mewn gweithred sy’n penodi, neu yn rhinwedd adran 334 o Ddeddf Elusennau 2011, sy’n peri penodi ymddiriedolwr newydd neu sy’n cael ei gwneud o ganlyniad i benodi ymddiriedolwr elusen newydd.

Fodd bynnag, bydd trosglwyddiad ystad rydd-ddaliol ddigofrestredig neu ystad brydlesol sy’n bodoli a chanddi’n hirach na saith mlynedd yn weddill, a wneir ar neu o ganlynid i benodiad ymddiriedolwr elusen newydd yn peri cofrestriad cyntaf gorfodol o dan adran 4(1)(aa) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 (fel y’i cyflwynwyd gan Orchymyn Deddf Cofrestru Tir 2002 (Newidiad) 2008) ac, yn achos elusen heb ei heithrio, rhaid cynnwys cais i gofnodi’r cyfyngiad perthnasol (rheol 176(2)(a) o Reolau Cofrestru Tir 2003). gyda’r cais am gofrestriad cyntaf. Gweler Cofrestriad cyntaf elusen heb ei heithrio

Mae’r ffurf cyfyngiad yn cael ei o dangos yn Cofrestru elusennau fel perchnogion. Mae Hen ffurfiau cofnodion yn y gofrestr yn egluro sut fydd y cofrestrydd yn trin ffurfiau hŷn ar gyfyngiad a gofnodwyd yn y gofrestr cyn 13 Hydref 2003 (dyddiad dechrau Deddf Cofrestru Tir 2002).

1.2 Elusennau a chyrff eithriedig nad yw Deddf Elusennau 2011 yn berthnasol iddynt

Cafodd rhai elusennau, sy’n dod o dan Ddeddf Elusennau 2011 at rai dibenion, eu heithrio i raddau helaeth o awdurdodaeth y Comisiwn Elusennau er eu bod yn dal o dan awdurdodaeth Yr Uchel Lys. Enw’r rhain yw ‘elusennau eithriedig’. Daw rhai elusennau eithriedig o dan Ddeddfau Ystadau Prifysgolion a Cholegau 1925 a 1964. Tynnodd Gorchymyn Deddf Elusennau 2006 (Newidiadau o ran Elusennau Esempt) 2009 statws elusennau eithriedig oddi ar golegau a neuaddau prifysgolion Caergrawnt a Durham ac o’r colegau ym Mhrifysgol Rhydychen.

Tynnodd Gorchymyn Deddf Elusennau 2006 (Newidiadau o ran Elusennau Esempt) 2010 statws elusen eithriedig oddi ar brifysgolion a cholegau prifysgol yng Nghymru, corfforaethau addysg uwch yng Nghymru a Bwrdd a Llywodraethwyr Amgueddfa Llundain.

Mae elusen eithriedig yn un o’r canlynol.

  • Corff yn ôl Atodlen 3 i Ddeddf Elusennau 2011, fel y’i newidiwyd.
  • Elusen sy’n elusen eithriedig yn rhinwedd deddfiad arall.

Yn gyffredinol, nid yw’r ymadrodd ‘elusen’ yn Neddf Elusennau 2011 yn berthnasol i’r canlynol (adran 10 o Ddeddf Elusennau 2011):

  • unrhyw gorfforaeth eglwysig mewn perthynas ag eiddo corfforaethol y gorfforaeth, ac eithrio corfforaeth gyfangorff a chanddi ddibenion nad ydynt yn eglwysig o ran ei heiddo corfforaethol a gedwir ar gyfer y dibenion hynny
  • unrhyw fwrdd cyllid esgobaethol, neu unrhyw is-gwmni bwrdd o’r fath, o ran tir llan esgobaethol yr esgobaeth
  • unrhyw ymddiried tir cysegredig at y dibenion y cysegrwyd ar eu cyfer

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am dir Eglwys Loegr yn Eiddo Eglwys Loegr, er nad yw’r cyfarwyddyd yn ceisio trafod pob agwedd ar y testun hwn.

Gydag ychydig eithriadau, nid yw darpariaethau Deddf Elusennau 2011 yn berthnasol dim ond i elusennau a sefydlwyd yng Nghymru a Lloegr (adran 356 o Ddeddf Elusennau 2011).

2. Gwneud ceisiadau

Dylid gwneud cais am gofrestriad cyntaf gan yr elusen neu ymddiriedolwyr elusen yn enw’r hon/enwau’r rhai y mae’r ystad i gael ei chofrestru. Os yw’r ystad yn cael ei chofrestru yn enw ymddiriedolwr gwarchod, gall yr elusen wneud y cais hefyd ond bod yr ystad yn eiddo corfforaethol iddi. Yn achos ystadau digofrestredig sydd â morgais cyfreithiol cyntaf yn dod arnynt, mae’r morgeisai hefyd yn gallu gwneud cais am gofrestriad cyntaf.

Rhaid defnyddio ffurflen FR1 os yw’r cais am gofrestriad cyntaf ystad rydd-ddaliol neu am gofrestriad cyntaf ystad brydlesol lle na chofrestrwyd y rhydd-ddaliad.

O ran gwarediadau ystadau cofrestredig, nid oes unrhyw gyfyngiad ar bwy all wneud cais i gofrestru’r gwarediad. Rhaid gwneud ceisiadau trwy ddefnyddio ffurflen AP1, gan gynnwys grantiau prydlesi allan o ystad gofrestredig.

Wrth gofrestru elusen mae’n orfodol ar y cofrestrydd yn ôl y gyfraith i gofnodi rhai cyfyngiadau. Rhaid gwneud cais am gyfyngiadau eraill gan ddefnyddio ffurflen RX1, fel yr eglurir yn adrannau priodol y cyfarwyddyd hwn.

Mae cyfarwyddyd ymarfer 1: cofrestriadau cyntaf a chyfarwyddyd ymarfer 19: rhybuddion, cyfyngiadau a diogelu buddion trydydd parti yn y gofrestr yn rhoi rhagor o wybodaeth am y pynciau hyn.

Fel rheol, mae dogfennau gwreiddiol yn ofynnol dim os yw eich cais am gofrestriad cyntaf. Byddwn yn dychwelyd y gwreiddiol ar ôl inni gwblhau’r...