Gorchymyn Awdurdodau Lleol Ynys Môn (Newid Blynyddoedd Etholiadau Cyffredin) 2012
Year | 2012 |
2012Rhif 686 (Cy.94)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Gorchymyn Awdurdodau Lleol Ynys Môn (Newid Blynyddoedd Etholiadau Cyffredin) 2012
6 Mawrth 2012
8 Mawrth 2012
27 Mawrth 2012
Mae Gweinidogion Cymru'n gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 87, 105(2) a 106(1)(b) a (c) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000( 1), ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt( 2):
Enwi, cychwyn, a chymhwyso
1.-(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Awdurdodau Lleol Ynys Môn (Newid Blynyddoedd Etholiadau Cyffredin) 2012, a daw i rym ar 27 Mawrth 2012.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Newid blwyddyn etholiadau cyffredin cynghorwyr i Gyngor Sir Ynys Môn
2.-(1) Mae'r erthygl hon yn gymwys i etholiad cyffredin cynghorwyr i Gyngor Sir Ynys Môn.
(2) Bydd etholiadau a fuasai, oni bai am y Gorchymyn hwn, wedi eu cynnal ar ddiwrnod arferol ethol cynghorwyr( 3) yn 2012 ac ym mhob pedwaredd flwyddyn wedi 2012( 4) yn cael eu cynnal yn lle hynny ar ddiwrnod arferol ethol cynghorwyr yn 2013 ac ym mhob pedwaredd flwyddyn wedi 2013.
Cyfnod swydd cynghorwyr presennol
3. Yn unol a hynny, mae cyfnod swydd cynghorwyr presennol a etholwyd i Gyngor Sir Ynys Môn wedi ei estyn gan un flwyddyn.
Newid blwyddyn etholiadau cyffredin cynghorwyr cymuned i gynghorau cymuned yn Sir Ynys Môn
4.-(1) Mae'r erthygl hon yn gymwys i etholiad cyffredin cynghorwyr cymuned i gynghorau cymuned yn Sir Ynys Môn.
(2) Bydd etholiadau a fuasai, oni bai am y Gorchymyn hwn, wedi eu cynnal ar ddiwrnod arferol ethol cynghorwyr cymuned( 5) yn 2012 ac ym mhob pedwaredd flwyddyn wedi 2012( 6) yn cael eu cynnal yn lle hynny ar ddiwrnod arferol ethol cynghorwyr cymuned yn 2013 ac ym mhob pedwaredd flwyddyn wedi 2013.
Cyfnod swydd cynghorwyr presennol
5. Yn unol a hynny, mae cyfnod swydd cynghorwyr cymuned presennol a etholwyd i gynghorau cymuned yn Sir Ynys Môn wedi ei estyn gan un flwyddyn.
Carl Sargeant Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, un o Weinidogion Cymru |
|
6 Mawrth 2012 |
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn newid blynyddoedd etholiadau cyffredin cynghorwyr i Gyngor Sir Ynys Môn a chynghorwyr i'r cynghorau cymuned yn Sir Ynys Môn.
Mae'r Gorchymyn hwn yn darparu y bydd etholiadau cyffredin cynghorwyr i Gyngor Sir Ynys Môn yn cael eu cynnal yn 2013 yn lle 2012. Mae hefyd yn darparu y bydd etholiadau cyffredin cynghorwyr i'r cynghorau cymuned yn Sir Ynys Môn...
To continue reading
Request your trial