Gorchymyn Awdurdodau Tân ac Achub (Dangosyddion Perfformiad Gwerth Gorau) (Cymru) 2008

JurisdictionWales
CitationWSI 2008/450 (Cymru)
Year2008

2008 Rhif 450 (Cy.40)

GWASANAETHAU TÅN AC ACHUB, CYMRU

Gorchymyn Awdurdodau Tân ac Achub (Dangosyddion Perfformiad Gwerth Gorau) (Cymru) 2008

Gwnaed 19th February 2008

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 22th February 2008

Yn dod i rym 18th March 2008

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 4(1)(a) a (2) ac adran 29(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 19991ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt hwy2, ac ar ôl ymgynghori â'r personau y mae'n ofynnol ymgynghori â hwy o dan adran 4(3) o'r Ddeddf honno, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

S-1 Enwi, dod i rym a chymhwyso

Enwi, dod i rym a chymhwyso

1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Awdurdodau Tân ac Achub (Dangosyddion Perfformiad Gwerth Gorau) (Cymru) 2008 a daw i rym ar 18 Mawrth 2008.

(2) Dim ond i awdurdodau gwerth gorau yng Nghymru sy'n awdurdod tân ac achub a gyfansoddwyd drwy gynllun y mae adran 4 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 y mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys3ac mae'n cael effaith mewn perthynas â'r flwyddyn 2008—2009 a'r blynyddoedd ariannol sy'n dilyn.

S-2 Dangosyddion perfformiad

Dangosyddion perfformiad

2. Mae'r dangosyddion perfformiad y cyfeirir atynt i fesur perfformiad pob awdurdod tân ac achub yng Nghymru wrth iddynt arfer eu swyddogaethau wedi'u pennu drwy hyn yn—

(a) Atodlen 1 (Lleihau Risg a Diogelwch Cymunedol); a

(b) Atodlen 2 (Ymateb Effeithiol).

Brian Gibbons

Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

19 Chwefror 2008

ATODLEN 1

Erthygl 2

Lleihau Risg a Diogelwch Cymunedol

Cyfeirnod

Dangosydd

FRS/RRC/S/001

(i) Cyfanswm nifer y tanau yr aed atynt fesul 10,000 o'r boblogaeth;

(ii) Cyfanswm nifer y prif danau yr aed atynt fesul 10,000 o'r boblogaeth;

(iii) Cyfanswm nifer y tanau yr aed atynt ac a ddechreuwyd drwy ddamwain mewn anheddau fesul 10,000 o anheddau;

(iv) Cyfanswm nifer y tanau yr aed atynt ac a ddechreuwyd yn fwriadol fesul 10,000 o'r boblogaeth.

FRS/RRC/S/002

Nifer:

(i) y marwolaethau a achoswyd gan danau fesul 100,000 o'r boblogaeth;

(ii) y marwolaethau a achoswyd gan danau a ddechreuwyd drwy ddamwain fesul 100,000 o'r boblogaeth;

(iii) y marwolaethau a achoswyd gan danau a ddechreuwyd yn fwriadol fesul 100,000 o'r boblogaeth;

(iv) yr anafiadau (ac eithrio gwiriadau rhagofal) sy'n deillio o danau fesul 100,000 o'r boblogaeth;

(v) yr anafiadau (ac eithrio gwiriadau rhagofal) sy'n deillio o...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT