Gorchymyn Cadw Mincod (Gwahardd) (Cymru) 2012
Jurisdiction | Wales |
Citation | SI 2012/1427 |
Year | 2012 |
2012Rhif 1427 (Cy.177)
ANIFEILIAID, CYMRU
ANIFEILIAID DINISTRIOL
Gorchymyn Cadw Mincod (Gwahardd) (Cymru) 2012
Cymeradwywyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru
8 Mai 2012
8 Mai 2012
1 Mehefin 2012
Mae Gweinidogion Cymru, a hwythau wedi eu bodloni oherwydd arferion dinistriol y rhywogaeth famalaidd anfrodorol sy'n destun y Gorchymyn hwn ei bod yn ddymunol gwahardd neu reoli eu cadw ac i ddifa unrhyw rai a all fod yn rhydd, ac wrth arfer y pwerau a roddwyd gan adran 10(1) o Ddeddf Anifeiliaid Dinistriol a Fewnforir 1932( 1) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy( 2), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1.-(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cadw Mincod (Gwahardd) (Cymru) 2012.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Mehefin 2012.
Dehongli
2. Yn y Gorchymyn hwn-
(a) ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Anifeiliaid Dinistriol a Fewnforir 1932; a(b) ystyr "minc" ("mink") yw'r anifail o'r rhywogaeth mustela vison.Gwahardd cadw mincod
3.-(1) Mae cadw mincod wedi ei wahardd.
(2) Wrth gymhwyso'r Ddeddf mewn perthynas a mincod, mae'r canlynol i'w hepgor-
(a) adran 5(2), a(b) adran 6(1), paragraff (f) a'r cyfeiriad at gosb mewn achos o drosedd o dan baragraff (f).
John Griffiths Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, un o Weinidogion Cymru |
|
8 Mai 2012 |
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn, drwy arfer y pwer a roddwyd gan adran 10 o Ddeddf Anifeiliaid Dinistriol a Fewnforir 1932 ("y Ddeddf"), yn gwahardd cadw mincod yng Nghymru.
Mae adran 10 o'r Ddeddf yn darparu, mewn perthynas a Gorchymyn a wneir yn unol a'r adran honno, fod darpariaethau'r Ddeddf yn gymwys fel y maent yn gymwys i fwsglygod, yn ddarostyngedig i'r eithriadau a'r addasiadau hynny a bennir yn y Gorchymyn. Yn y Gorchymyn hwn, gwneir eithriadau mewn perthynas ag adrannau 5(2) a 6(1)(f) o'r Ddeddf. Mae adran 5(2) o'r Ddeddf yn ymwneud a'r ddyletswydd sydd ar feddianwyr tir i roi hysbysiad am bresenoldeb mincod, nad ydynt yn cael eu cadw o dan drwydded, ar eu tir. Mae adran 6(1)(f) o'r Ddeddf yn darparu ar gyfer trosedd pan fo meddiannydd tir yn methu a rhoi hysbysiad o'r fath o dan adran 5(2).
Nid oes asesiad effaith rheoleiddiol wedi ei lunio ar gyfer y Gorchymyn hwn, gan na ragwelir y bydd yn effeithio o gwbl ar gostau busnes na'r sector gwirfoddol.
(1) 1932 p. 12; diwygiwyd adran 11 (dehongli) gan O.S. 1992/3302.
(2) Trosglwyddwyd...
To continue reading
Request your trial