Gorchymyn Cefnffordd yr A4042 (Cylchfan Cwmbrân, Torfaen i Gyffordd Little Mill, Sir Fynwy) (Gwaharddiadau a Chyfyngiadau Traffig Dros Dro) 2024
Jurisdiction | Wales |
Year | 2024 |
Citation | WSI 2024/25 (W8) (Cymru) |
2024 Rhif 25 (Cy. 8)
TRAFFIG FFYRDD, CYMRU
Gorchymyn Cefnffordd yr A4042 (Cylchfan Cwmbrân, Torfaen i Gyffordd Little Mill, Sir Fynwy) (Gwaharddiadau a Chyfyngiadau Traffig Dros Dro) 2024
Gwnaed 9 Ionawr 2024
Yn dod i rym 15 Ionawr 2024
Mae Gweinidogion Cymru, sef yr awdurdod traffig ar gyfer cefnffordd yr A4042, wedi eu bodloni y dylid
gwahardd traffig a/neu gyfyngu arno ar ddarn
penodedig o’r gefnffordd oherwydd gwaith y bwriedir ei wneud ar y ffordd neu gerllaw iddi.
Mae Gweinidogion Cymru, felly, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 14(1), (4) a (7) o Ddeddf
Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984(1), yn gwneud y
Gorchymyn hwn.
Enwi a chychwyn
1.Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn
Cefnffordd yr A4042 (Cylchfan Cwmbrân, Torfaen i
Gyffordd Little Mill, Sir Fynwy) (Gwaharddiadau a Chyfyngiadau Traffig Dros Dro) 2024 a daw’r
Gorchymyn hwn i rym ar 15 Ionawr 2024.
Interpretation
2.Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “cerbyd esempt” (“exempted vehicle”) yw—
(1) 1984 p. 27; amnewidiwyd adran 14 gan adran 1(1) o Ddeddf Traffig Ffyrdd (Cyfyngiadau Dros Dro) 1991 (p. 26) ac Atodlen 1 iddi. Yn rhinwedd O.S. 1999/672, ac adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi, mae’r pwerau hyn yn arferadwy bellach gan Weinidogion Cymru o ran Cymru.
(a) unrhyw gerbyd sy’n cael ei ddefnyddio gan y
gwasanaethau brys at y dibenion a ddisgrifir
yn adran 87 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig
Ffyrdd 1984(1) neu mewn cysylltiad â’r
gwaith sy’n arwain at y Gorchymyn hwn;
(b) unrhyw gerbyd sy’n cael ei ddefnyddio at
ddibenion y llynges, y fyddin neu’r llu awyr
ac sy’n cael ei yrru gan berson sydd am y tro
yn ddarostyngedig i orchmynion aelod o
luoedd arfog y Goron, sy’n aelod o’r lluoedd
arbennig—
(i) ac sydd wedi ei hyfforddi i yrru ar
gyflymderau uchel ac sy’n gweithredu
wrth ymateb, neu wrth ymarfer ymateb, i
argyfwng diogelwch gwladol; neu
(ii) at ddiben hyfforddi person i yrru
cerbydau ar gyflymderau uchel;
ystyr “cyfnod y gwaith” (“works period”) yw
cyfnodau ysbeidiol sy’n dechrau am 00:01 o’r
gloch ar 15 Ionawr 2024 ac sy’n dod i ben pan gaiff yr arwyddion traffig dros dro ar gyfer pob cyfnod
gwaith eu symud ymaith;
ystyr “y gefnffordd” (“the trunk road”) yw
Cefnffordd yr A4042 Casnewydd i Amwythig;
ystyr “lluoedd arbennig” (“special forces”) yw’r
unedau hynny o’r lluoedd arfog y mae
Cyfarwyddwr y Lluoedd Arbennig yn gyfrifol am
gynnal eu galluoedd neu sydd am y tro yn
ddarostyngedig i reolaeth weithredol y
Cyfarwyddwr hwnnw.
...
To continue reading
Request your trial