Gorchymyn Cefnffordd yr A4042 (Little Mill, man i’r Gorllewin o Frynbuga i Gylchfan Hardwick, Sir Fynwy) (Gwahardd Cerbydau Dros Dro) 2024
Jurisdiction | Wales |
Year | 2024 |
Citation | WSI 2024/77 (W22) (Cymru) |
2024 Rhif 77 (Cy. 22)
TRAFFIG FFYRDD, CYMRU
Gorchymyn Cefnffordd yr A4042 (Little Mill, man i’r Gorllewin o Frynbuga i Gylchfan Hardwick, Sir Fynwy) (Gwahardd Cerbydau Dros Dro) 2024
Gwnaed 23 Ionawr 2024
Yn dod i rym 29 Ionawr 2024
Mae Gweinidogion Cymru, sef yr awdurdod traffig ar gyfer cefnffordd yr A4042, wedi eu bodloni y dylid gwahardd traffig ar ddarn penodedig o’r gefnffordd oherwydd gwaith y bwriedir ei wneud ar y ffordd neu gerllaw iddi.
Mae Gweinidogion Cymru, felly, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 14(1) a (4) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984(1), yn gwneud y Gorchymyn hwn.
Enwi a chychwyn
1. Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn
Cefnffordd yr A4042 (Little Mill, man i’r Gorllewin o
Frynbuga i Gylchfan Hardwick, Sir Fynwy)
(Gwahardd Cerbydau Dros Dro) 2024 a daw’r
Gorchymyn hwn i rym ar 29 Ionawr 2024.
Dehongli
2. Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “cerbyd esempt” (“exempted vehicle”) yw
unrhyw gerbyd sy’n cael ei ddefnyddio gan y
(1) 1984 p. 27; amnewidiwyd adran 14 gan adran 1(1) o Ddeddf
Traffig Ffyrdd (Cyfyngiadau Dros Dro) 1991 (p. 26), ac
Atodlen 1 iddi. Yn rhinwedd O.S. 1999/672, ac adran 162 o
Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o
Atodlen 11 iddi, mae’r pwerau hyn yn arferadwy bellach gan
Weinidogion Cymru o ran Cymru.
gwasanaethau brys neu mewn cysylltiad â’r gwaith
sy’n arwain at y Gorchymyn hwn;
ystyr “cyfnod y gwaith” (“works period”) yw
cyfnodau ysbeidiol sy’n cychwyn am 20:00 o’r
gloch ar 29 Ionawr 2024 ac sy’n dod i ben pan
gaiff yr arwyddion traffig dros dro eu symud
ymaith yn barhaol;
ystyr “y gefnffordd” (“the trunk road”) yw
Cefnffordd yr A4042 Casnewydd i’r Amwythig yn
Sir Fynwy.
Gwaharddiad
3. Ni chaiff neb, yn ystod cyfnod y gwaith, yrru
unrhyw gerbyd, ac eithrio cerbyd esempt, ar y darn o’r
gefnffordd sy’n ymestyn o bwynt 162 o fetrau i’r
gogledd o Gyffordd Little Mill yr A472 hyd at bwynt
40 o fetrau i’r de o ganolbwynt Cylchfan Hardwick.
Cymhwyso
4. Ni fydd y gwaharddiad yn erthygl 3 yn gymwys
ond ar yr adegau hynny ac i’r graddau hynny y bydd
arwyddion traffig yn eu dangos.
Cyfnod Para’r Gorchymyn hwn
5. Bydd y Gorchymyn hwn yn para am 18 mis ar y
mwyaf.
Llofnodwyd ar ran y Dirprwy Weinidog Newid
Hinsawdd, wrth weithredu o...
To continue reading
Request your trial