Gorchymyn Cefnffordd yr A470 (Man i'r Gogledd o Fetws-y-coed, Bwrdeistref Sirol Conwy) (Cyfyngiadau Cyflymder Dros Dro a Dim Goddiweddyd) 2017
Jurisdiction | England & Wales |
2017Rhif 123 (Cy. 41)
TRAFFIG FFYRDD, CYMRU
Gwnaed7Chwefror2017
Yn dod i rym13Chwefror2017
Mae Gweinidogion Cymru, sef yr awdurdod traffig ar gyfer y darn perthnasol o Gefnffordd Maentwrog – Man i'r Dwyrain o Gonwy (yr A470) (‘y gefnffordd’), wedi eu bodloni y dylid cyfyngu ar draffig a/neu ei wahardd ar ddarn penodedig o'r gefnffordd oherwydd gwaith y bwriedir ei wneud ar y ffordd neu gerllaw iddi.
Mae Gweinidogion Cymru, felly, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 14(1), (4) a (7) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984( 1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
Enwi, Dehongli a Chychwyn
1. Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 13 Chwefror 2017 a'i enw yw Gorchymyn Cefnffordd yr A470 (Man i'r Gogledd o Fetws-y-coed, Bwrdeistref Sirol Conwy) (Cyfyngiadau Cyflymder Dros Dro a Dim Goddiweddyd) 2017.
2.—(1) Yn y Gorchymyn hwn:
ystyr ‘cerbyd esempt’ (‘exempted vehicle’) yw:
(a) unrhyw gerbyd sy'n cael ei ddefnyddio gan y gwasanaethau brys; a
(b) unrhyw gerbyd sy'n cael ei ddefnyddio at ddibenion y llynges, y fyddin neu'r llu awyr ac sy'n cael ei yrru gan berson sydd am y tro yn ddarostyngedig i orchmynion aelod o luoedd arfog y Goron, sy'n aelod o'r lluoedd arbennig—
(i) ac sydd wedi ei hyfforddi i yrru ar gyflymderau uchel ac sy'n gweithredu wrth ymateb, neu wrth ymarfer ymateb, i argyfwng diogelwch gwladol; neu
(ii) at ddiben hyfforddi person i yrru cerbydau ar gyflymderau uchel;
ystyr cyfnod y gwaith (‘works period’) yw'r cyfnod hwnnw sy'n dechrau am 07:00 o'r gloch ar 13 Chwefror 2017 ac sy'n dod i ben pan gaiff yr arwyddion traffig dros dro eu symud ymaith yn barhaol;
ystyr ‘y darn o'r gefnffordd’ (‘the length of the trunk road’) yw'r darn o'r gefnffordd ym Mwrdeistref Sirol Conwy sy'n ymestyn o bwynt 1.4 cilometr i'r gogledd o'i chyffordd â'r A5 ger Betws-y-coed hyd at ei chyffordd â'r ffordd ddiddosbarth sy'n arwain at yr annedd o'r enw Pentre Bach ger Capel Garmon;
ystyr ‘lluoedd arbennig’ (‘special forces’) yw'r unedau hynny o'r lluoedd cartref y mae Cyfarwyddwr y Lluoedd Arbennig yn gyfrifol am gynnal eu galluoedd neu sydd am y tro yn ddarostyngedig reolaeth weithredol y Cyfarwyddwr hwnnw.
(2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at erthygl â rhif yn cyfeirio at yr erthygl sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y Gorchymyn hwn.
Cyfyngiadau a Gwaharddiad
3. Ni chaiff neb, yn ystod cyfnod y...
To continue reading
Request your trial