Gorchymyn Cefnffordd yr A483 (Stryd Rhosmaen a Heol y Bont, Llandeilo, Sir Gaerfyrddin) (Amrywiol Gyfyngiadau Aros) 2017

JurisdictionEngland & Wales
CitationWSI 2017/435
Year2017

2017Rhif 435 (Cy. 93)

TRAFFIG FFYRDD, CYMRU

Gorchymyn Cefnffordd yr A483 (Stryd Rhosmaen a Heol y Bont, Llandeilo, Sir Gaerfyrddin) (Amrywiol Gyfyngiadau Aros) 2017

Gwnaed14Mawrth2017

Yn dod i rym17Mawrth2017

Mae Gweinidogion Cymru, sef yr awdurdod traffig ar gyfer Cefnffordd Abertawe — Manceinion (yr A483) (y cyfeirir ati yma wedi hyn fel “y gefnffordd”), drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 1(1), 2(1) a (2), 4(2) a 124 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984( 1) (y cyfeirir ati yma wedi hyn fel “Deddf 1984”) a pharagraff 27 o Atodlen 9 iddi, ac ar ôl ymgynghori â Phrif Swyddog Heddlu Dyfed Powys, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn hwn.

Enwi, Dehongli a Chychwyn

1. Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 17 Mawrth 2017 a'i enw yw Gorchymyn Cefnffordd yr A483 (Stryd Rhosmaen a Heol y Bont, Llandeilo, Sir Gaerfyrddin) (Amrywiol Gyfyngiadau Aros) 2017.

2. (1) Yn y Gorchymyn hwn –

mae i “bathodyn person anabl” (“disabled person's badge”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 2 o Reoliadau Personau Anabl (Bathodynnau ar gyfer Cerbydau Modur) (Cymru) 2000( 2);

mae i “disg barcio” (“parking disc”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 8(5) o Reoliadau Gorchmynion Traffig Awdurdodau Lleol (Esemptiadau ar gyfer Personau Anabl) (Cymru) 2000( 3).

(2) At ddiben y Gorchymyn hwn bernir bod cerbyd yn arddangos:

(i) bathodyn person anabl yn y lle perthnasol:

(a) yn achos cerbyd ac iddo banel deialau neu ddangosfwrdd, os yw'r bathodyn yn cael ei arddangos ar y panel deialau neu'r dangosfwrdd fel bod Rhan 1 o'r bathodyn yn eglur ac yn ddarllenadwy o'r tu allan i'r cerbyd; neu

(b) yn achos cerbyd nad oes iddo banel deialau neu ddangosfwrdd, os yw'r bathodyn yn cael ei arddangos mewn lle amlwg yn y cerbyd neu arno fel bod Rhan 1 o'r bathodyn yn eglur ac yn ddarllenadwy o'r tu allan i'r cerbyd; a

(ii) disg barcio yn y lle perthnasol:

(a) yn achos cerbyd ac iddo banel deialau neu ddangosfwrdd, os yw'r ddisg yn cael ei harddangos ar y panel deialu neu'r dangosfwrdd fel bod y cyfnod o chwarter awr pan ddechreuodd y cyfnod aros yn eglur ac yn ddarllenadwy o'r tu allan i'r cerbyd; neu

(b) yn achos cerbyd nad oes iddo banel deialau neu ddangosfwrdd, os yw'r ddisg yn cael ei harddangos mewn lle amlwg yn y cerbyd neu arno fel bod y cyfnod o chwarter awr pan ddechreuodd y cyfnod aros yn eglur ac yn ddarllenadwy o'r tu allan i'r cerbyd.

(3) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at erthygl neu Atodlen â rhif yn gyfeiriad at yr erthygl neu'r Atodlen sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y Gorchymyn hwn.

Gwaharddiadau a Chyfyngiadau

Gwahardd aros ar unrhyw adeg

3. Ac eithrio fel a ddarperir yn erthygl 12, ni chaiff neb, ac eithrio yn ôl cyfarwyddyd neu â chaniatâd cwnstabl heddlu, swyddog cymorth cymunedol yr heddlu neu swyddog gorfodi sifil, beri na chaniatáu i unrhyw gerbyd aros ar ochrau'r darnau o'r gefnffordd a bennir yn Atodlen 1.

Gwahardd Aros, Llwytho a Dadlwytho ar unrhyw adeg

4. Ac eithrio fel a ddarperir yn erthygl 12(1)(a), (c), (d), (e), ac (f), ni chaiff neb, ac eithrio yn ôl cyfarwyddyd neu â chaniatâd cwnstabl heddlu, swyddog cymorth cymunedol yr heddlu neu swyddog gorfodi sifil, beri na chaniatáu i unrhyw gerbyd aros, llwytho na dadlwytho ar unrhyw un o ochrau'r darnau o'r gefnffordd a bennir yn Atodlen 2.

Gwahardd Aros o ddydd Llun i ddydd Sadwrn rhwng 08:00 o'r gloch a 18:00 o'r gloch a chyfyngu ar aros i 2 awr mewn unrhyw gyfnod o 3 awr rhwng 09:00 o'r gloch a 18:00 o'r gloch ar ddydd Sul

5. Ac eithrio fel a ddarperir yn erthygl 12(1), ni chaiff neb, ac eithrio yn ôl cyfarwyddyd neu â chaniatâd cwnstabl heddlu, swyddog cymorth cymunedol yr heddlu neu swyddog gorfodi sifil, beri na chaniatáu i unrhyw gerbyd aros ar ochr y darn o'r gefnffordd a bennir yn Atodlen 3 rhwng 08:00 o'r gloch a 18:00 o'r gloch o ddydd Llun i ddydd Sadwrn, ac am gyfnod sy'n fwy na 2 awr mewn unrhyw gyfnod o 3 awr rhwng 09:00 o'r gloch a 18:00 o'r gloch ar ddydd Sul.

Cyfyngu ar aros i 30 munud mewn unrhyw gyfnod o 60 munud rhwng 09:00 o'r gloch a 18:00 o'r gloch o ddydd Llun i ddydd Sadwrn ac i 2 awr mewn unrhyw gyfnod o 3 awr rhwng 09:00 o'r gloch a 18:00 o'r gloch ar ddydd Sul

6. Ac eithrio fel a ddarperir yn erthygl 12, ni chaiff neb, ac eithrio yn ôl cyfarwyddyd neu â chaniatâd cwnstabl heddlu, swyddog cymorth cymunedol yr heddlu neu swyddog gorfodi sifil, beri na chaniatáu i unrhyw gerbyd aros ar unrhyw un o ochrau'r darnau o'r gefnffordd a bennir yn Atodlen 4 am gyfnod sy'n fwy na 30 munud mewn unrhyw gyfnod o 60 munud rhwng 09:00 o'r gloch a 18:00 o'r gloch o ddydd Llun i ddydd Sadwrn, ac am gyfnod nad yw'n fwy na 2 awr mewn unrhyw gyfnod o 3 awr rhwng 09:00 o'r gloch a 18:00...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT