Gorchymyn Cefnffordd yr A487 (Llannarth, Ceredigion) (Terfynau Cyflymder 40 mya a 30 mya Dros Dro ac 20 mya Rhan-amser) 2017
Jurisdiction | England & Wales |
Citation | WSI 2017/166 |
Year | 2017 |
2017Rhif 166 (Cy. 47)
TRAFFIG FFYRDD, CYMRU
Gwnaed10Chwefror2017
Yn dod i rym15Chwefror2017
Mae Gweinidogion Cymru, sef yr awdurdod traffig ar gyfer y darn perthnasol o Gefnffordd Abergwaun – Bangor (yr A487) (‘y gefnffordd’), wedi eu bodloni y dylid cyfyngu ar draffig ar ddarnau penodedig o'r gefnffordd oherwydd y tebygolrwydd o berygl i'r cyhoedd.
Mae Gweinidogion Cymru, felly, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 14(1), (4) a (7) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984( 1), yn gwneud y Gorchymyn hwn.
Enwi, Dehongli a Chychwyn
1. Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 15 Chwefror 2017 a'i enw yw Gorchymyn Cefnffordd yr A487 (Llannarth, Ceredigion) (Terfynau Cyflymder 40 mya a 30 mya Dros Dro ac 20 mya Rhan-amser) 2017.
2.—(1) Yn y Gorchymyn hwn:
ystyr ‘cerbyd esempt’ (‘exempted vehicle’) yw:
(a) unrhyw gerbyd sy'n cael ei ddefnyddio gan y gwasanaethau brys; a
(b) unrhyw gerbyd sy'n cael ei ddefnyddio at ddibenion y llynges, y fyddin neu'r llu awyr ac sy'n cael ei yrru gan berson sydd am y tro yn ddarostyngedig i orchmynion aelod o luoedd arfog y Goron, sy'n aelod o'r lluoedd arbennig—
(i) ac sydd wedi ei hyfforddi i yrru ar gyflymderau uchel ac sy'n gweithredu wrth ymateb, neu wrth ymarfer ymateb, i argyfwng diogelwch gwladol; neu
(ii) at ddiben hyfforddi person i yrru cerbydau ar gyflymderau uchel;
ystyr ‘y darnau o'r gefnffordd’ (‘the lengths of the trunk road’) yw'r darnau o'r gefnffordd yn Llannarth yn Sir Ceredigion a bennir yn yr Atodlenni i'r Gorchymyn hwn;
ystyr ‘lluoedd arbennig’ (‘special forces’) yw'r unedau hynny o'r lluoedd cartref y mae Cyfarwyddwr y Lluoedd Arbennig yn gyfrifol am gynnal eu galluoedd neu sydd am y tro yn ddarostyngedig reolaeth weithredol y Cyfarwyddwr hwnnw.
(2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at erthygl neu Atodlen â rhif yn gyfeiriad at yr erthygl neu'r Atodlen sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y Gorchymyn hwn.
Cyfyngiadau
3. Ni chaiff neb yrru unrhyw gerbyd, na pheri na chaniatáu i unrhyw gerbyd fynd, yn gyflymach nag 20 milltir yr awr ar y darn o'r gefnffordd a bennir yn Atodlen 1.
4. Ni chaiff neb yrru unrhyw gerbyd, na pheri na chaniatáu i unrhyw gerbyd fynd, yn gyflymach nag 30 milltir yr awr ar y darn o'r gefnffordd a bennir yn Atodlen 1.
5. Ni chaiff neb yrru unrhyw gerbyd, na pheri na chaniatáu i unrhyw gerbyd fynd, yn gyflymach na 40 milltir yr awr ar y darn...
To continue reading
Request your trial