Gorchymyn Cefnffordd Yr A494 (Rhwng Bethel a Glanyrafon, Gwynedd) (Gwaharddiadau a Chyfyngiad Traffig Dros Dro) 2024
Jurisdiction | Wales |
Year | 2024 |
Citation | WSI 2024/72 (W19) (Cymru) |
2024 Rhif 72 (Cy. 19)
TRAFFIG FFYRDD, CYMRU
Gorchymyn Cefnffordd Yr A494 (Rhwng Bethel a Glanyrafon, Gwynedd) (Gwaharddiadau a Chyfyngiad Traffig Dros Dro) 2024
Gwnaed 19 Ionawr 2024
Yn dod i rym 25 Ionawr 2024
Mae Gweinidogion Cymru, sef yr awdurdod traffig ar gyfer cefnffordd yr A494, wedi eu bodloni y dylid gwahardd traffig a chyfyngu arno ar ddarn penodedig o’r gefnffordd oherwydd gwaith y bwriedir ei wneud ar y ffordd neu gerllaw iddi.
Mae Gweinidogion Cymru, felly, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 14(1), (4) a (7) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984(1), yn gwneud y Gorchymyn hwn.
Enwi a chychwyn
1. Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn
Cefnffordd yr A494 (Rhwng Bethel a Glanyrafon,
Gwynedd) (Gwaharddiadau a Chyfyngiad Traffig Dros
Dro) 2024 a daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 25
Ionawr 2024.
Dehongli
2. Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “cerbyd esempt” (“exempted vehicle”) yw—
(1) 1984 p. 27; amnewidiwyd adran 14 gan adran 1(1) o Ddeddf
Traffig Ffyrdd (Cyfyngiadau Dros Dro) 1991 (p. 26), ac
Atodlen 1 iddi. Yn rhinwedd O.S. 1999/672, ac adran 162 o
Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), a pharagraff 30 o
Atodlen 11 iddi, mae’r pwerau hyn yn arferadwy bellach gan
Weinidogion Cymru o ran Cymru.
(a) unrhyw gerbyd sy’n cael ei ddefnyddio at y
dibenion a ddisgrifir yn adran 87 o Ddeddf
Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984(1) neu
mewn cysylltiad â’r gwaith sy’n arwain at y
Gorchymyn hwn;
(b) unrhyw gerbyd sy’n cael ei ddefnyddio at
ddibenion y llynges, y fyddin neu’r llu awyr
ac sy’n cael ei yrru gan berson sydd am y tro
yn ddarostyngedig i orchmynion aelod o
luoedd arfog y Goron, sy’n aelod o’r lluoedd
arbennig—
(i) ac sydd wedi ei hyfforddi i yrru ar
gyflymderau uchel ac sy’n gweithredu
wrth ymateb, neu wrth ymarfer ymateb, i
argyfwng diogelwch gwladol; neu
(ii) at ddiben hyfforddi person i yrru
cerbydau ar gyflymderau uchel;
ystyr “cyfnod y gwaith” (“works period”) yw’r
cyfnod hwnnw sy’n dechrau am 00:01 o’r gloch ar
25 Ionawr 2024 ac sy’n dod i ben pan gaiff yr
arwyddion traffig dros dro eu symud ymaith yn
barhaol;
ystyr “darn o’r gefnffordd” (“length of the trunk
road”) yw’r darn hwnnw o gefnffordd yr A494
Dolgellau i Fan i’r De o Benbedw sy’n ymestyn o
bwynt 580 o fetrau i’r gogledd-ddwyrain o’i
chyffordd â ffordd sirol y B4402 ger Bethel hyd at
bwynt 1890 o fetrau i’r gogledd-ddwyrain o’i
chyffordd â ffordd sirol y B4402, sy’n gyfagos i’r
gilfan orllewinol yng Nghoedwig Llwyn Braich
Ddu, ger Glanyrafon;
ystyr “lluoedd arbennig”...
To continue reading
Request your trial