Gorchymyn Cefnffordd yr A5 (Cylchfan Halton i Gylchfan Whitehurst, Y Waun, Bwrdeistref Sirol Wrecsam) (Gwaharddiadau a Chyfyngiadau Traffig Dros Dro) 2023
Jurisdiction | Wales |
Citation | WSI 2023/207 (W30) (Cymru) |
Year | 2023 |
2023 Rhif 207 (Cy. 30)
TRAFFIG FFYRDD, CYMRU
Gorchymyn Cefnffordd yr A5 (Cylchfan Halton i Gylchfan Whitehurst, Y Waun, Bwrdeistref Sirol Wrecsam) (Gwaharddiadau a Chyfyngiadau Traffig Dros Dro) 2023
Gwnaed 24 Chwefror 2023
Yn dod i rym 1 Mawrth 2023
Mae Gweinidogion Cymru, sef yr awdurdod traffig ar gyfer y darn perthnasol o gefnffordd yr A5, wedi eu bodloni y dylid gwahardd traffig a/neu gyfyngu arno ar ddarn penodedig o’r gefnffordd oherwydd gwaith y bwriedir ei wneud ar y ffordd neu gerllaw iddi.
Mae Gweinidogion Cymru, felly, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 14(1), (4), a (7) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984(1), yn gwneud y Gorchymyn hwn.
Enwi a chychwyn
1. Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn
Cefnffordd yr A5 (Cylchfan Halton i Gylchfan
Whitehurst, Y Waun, Bwrdeistref Sirol Wrecsam)
(Gwaharddiadau a Chyfyngiadau Traffig Dros Dro)
2023 a daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Mawrth
2023.
(1) 1984 p. 27; amnewidiwyd adran 14 gan adran 1(1) o Ddeddf Traffig
Ffyrdd (Cyfyngiadau Dros Dro) 1991 (p. 26) ac Atodlen 1 iddi. Yn
rhinwedd O.S. 1999/672, ac adran 162 o Ddeddf Llywodraeth
Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi, mae’r
swyddogaethau hyn yn arferadwy bellach gan Weinidogion Cymru
o ran Cymru.
Dehongli
2. Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “cerbyd esempt” (“exempted vehicle”) yw:
(a) unrhyw gerbyd sy’n cael ei ddefnyddio at y
dibenion a ddisgrifir yn adran 87 o Ddeddf
Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984(1);
(b) unrhyw gerbyd sy’n cael ei ddefnyddio at
ddibenion y llynges, y fyddin neu’r llu awyr
ac sy’n cael ei yrru gan berson sydd am y tro
yn ddarostyngedig i orchmynion aelod o
luoedd arfog y Goron, sy’n aelod o’r lluoedd
arbennig—
(i) ac sydd wedi ei hyfforddi i yrru ar
gyflymderau uchel ac sy’n gweithredu
wrth ymateb, neu wrth ymarfer ymateb, i
argyfwng diogelwch gwladol; neu
(ii) at ddiben hyfforddi person i yrru
cerbydau ar gyflymderau uchel;
ystyr “cyfnod y gwaith” (“works period”) yw
cyfnodau ysbeidiol sy’n dechrau am 06:00 o’r
gloch ar 1 Mawrth 2023 ac sy’n dod i ben pan
gaiff yr arwyddion traffig dros dro ar gyfer pob
cyfnod gwaith eu symud ymaith;
ystyr “y gefnffordd” (“the trunk road”) yw
cefnffordd yr A5 Llundain i Gaergybi sy’n
ymestyn o ochr orllewinol Cylchfan Halton hyd at
ochr ddwyreiniol Cylchfan Whitehurst, i’r gogledd
o’r Waun, Bwrdeistref Sirol Wrecsam;
ystyr “lluoedd arbennig” (“special forces”) yw’r
unedau hynny o’r lluoedd arfog y mae
Cyfarwyddwr y Lluoedd Arbennig yn gyfrifol am
gynnal eu...
To continue reading
Request your trial