Gorchymyn Cefnffyrdd yr A40/A449 (Man i'r gorllewin o Langrwyne, Powys i Raglan, Sir Fynwy a Rhaglan hyd at ffin Cymru/Lloegr, Sir Fynwy) (Gwaharddiadau a Chyfyngiadau Traffig Dros Dro) 2024
Jurisdiction | Wales |
Year | 2024 |
Citation | WSI 2024/68 (W18) (Cymru) |
2024 Rhif 68 (Cy. 18)
TRAFFIG FFYRDD, CYMRU
Gorchymyn Cefnffyrdd yr A40/A449 (Man i'r gorllewin o Langrwyne, Powys i Raglan, Sir Fynwy a Rhaglan hyd at ffin Cymru/Lloegr, Sir Fynwy) (Gwaharddiadau a Chyfyngiadau Traffig Dros Dro) 2024
Gwnaed 22 Ionawr 2024
Yn dod i rym 29 Ionawr 2024
Mae Gweinidogion Cymru, sef yr awdurdod traffig ar gyfer cefnffordd yr A40 a’r darn perthnasol o gefnffordd yr A40/A449, wedi eu bodloni y dylid gwahardd traffig a/neu gyfyngu arno ar ddarnau penodedig o’r cefnffyrdd oherwydd gwaith y bwriedir ei wneud ar y ffyrdd neu gerllaw iddynt.
Mae Gweinidogion Cymru, felly, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 14(1), (4) a (7) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984(1), yn gwneud y Gorchymyn hwn.
Enwi a chychwyn
1. Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn
Cefnffyrdd yr A40/A449 (Man i'r gorllewin o
Langrwyne, Powys i Raglan, Sir Fynwy a Rhaglan hyd
at ffin Cymru/Lloegr, Sir Fynwy) (Gwaharddiadau a
Chyfyngiadau Traffig Dros Dro) 2024 a daw’r
Gorchymyn hwn i rym ar 29 Ionawr 2024.
(1) 1984 p. 27; amnewidiwyd adran 14 gan adran 1(1) o Ddeddf
Traffig Ffyrdd (Cyfyngiadau Dros Dro) 1991 (p. 26) ac
Atodlen 1 iddi. Yn rhinwedd O.S. 1999/672, ac adran 162 o
Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), a pharagraff 30 o
Atodlen 11 iddi, mae’r swyddogaethau hyn yn arferadwy
bellach gan Weinidogion Cymru o ran Cymru.
Dehongli
2. Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “cerbyd esempt” (“exempted vehicle”) yw—
(a) unrhyw gerbyd sy’n cael ei ddefnyddio at y
dibenion a ddisgrifir yn adran 87 o Ddeddf
Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984(1);
(b) unrhyw gerbyd sy'n cael ei ddefnyddio at
ddibenion y llynges, y fyddin neu'r llu awyr
ac sy’n cael ei yrru gan berson sydd am y tro
yn ddarostyngedig i orchmynion aelod o
luoedd arfog y Goron, sy'n aelod o'r lluoedd
arbennig—
(i) ac sydd wedi ei hyfforddi i yrru ar
gyflymderau uchel ac sy’n gweithredu
wrth ymateb, neu wrth ymarfer ymateb, i
argyfwng diogelwch gwladol; neu
(ii) at ddiben hyfforddi person i yrru
cerbydau ar gyflymderau uchel;
ystyr “cyfnod y gwaith” (“works period”) yw
cyfnodau ysbeidiol sy’n dechrau am 20:00 o’r
gloch ar 29 Ionawr 2024 ac sy’n dod i ben pan
gaiff yr arwyddion traffig dros dro ar gyfer pob
cyfnod gwaith eu symud ymaith yn barhaol;
ystyr “y gefnffordd/cefnffyrdd” (“the trunk
road(s)”) yw cefnffordd yr A40/A449 Casnewydd
i Gaerwrangon a chefnffordd yr A40 Rhaglan i
Lanymddyfri;
ystyr “lluoedd arbennig” (“special forces”) yw'r
unedau hynny o'r lluoedd arfog y mae
Cyfarwyddwr y...
To continue reading
Request your trial