Gorchymyn Cefnffyrdd yr A470 a'r A479 (Llys-wen, Powys) (Terfyn Cyflymder 30 mya Dros Dro) 2017
Jurisdiction | England & Wales |
Citation | WSI 2017/124 |
Year | 2017 |
2017Rhif 124 (Cy. 42)
TRAFFIG FFYRDD, CYMRU
Gorchymyn Cefnffyrdd yr A470 a'r A479 (Llys-wen, Powys) (Terfyn Cyflymder 30 mya Dros Dro) 2017
Gwnaed7Chwefror2017
Yn dod i rym13Chwefror2017
Mae Gweinidogion Cymru, sef yr awdurdod traffig ar gyfer Cefnffordd Caerdydd – Llangurig (yr A470) a Chefnffordd Parc Glan-wysg – Llys-wen (yr A479) (‘y cefnffyrdd’), wedi eu bodloni y dylid cyfyngu ar draffig ar ddarnau penodedig o'r cefnffyrdd oherwydd y tebygolrwydd o berygl i'r cyhoedd.
Mae Gweinidogion Cymru, felly, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 14(1), (4) a (7) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984( 1), yn gwneud y Gorchymyn hwn.
Enwi, Dehongli a Chychwyn
1. Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 13 Chwefror 2017 a'i enw yw Gorchymyn Cefnffyrdd yr A470 a'r A479 (Llys-wen, Powys) (Terfyn Cyflymder 30 mya Dros Dro) 2017.
2.—(1) Yn y Gorchymyn hwn:
ystyr ‘cerbyd esempt’ (‘exempted vehicle’) yw:
(a) unrhyw gerbyd sy'n cael ei ddefnyddio gan y gwasanaethau brys; a
(b) unrhyw gerbyd sy'n cael ei ddefnyddio at ddibenion y llynges, y fyddin neu'r llu awyr ac sy'n cael ei yrru gan berson sydd am y tro yn ddarostyngedig i orchmynion yr aelod o luoedd arfog y Goron, sy'n aelod o'r lluoedd arbennig—
(i) ac sydd wedi ei hyfforddi i yrru ar gyflymderau uchel ac sy'n gweithredu wrth ymateb, neu wrth ymarfer ymateb, i argyfwng diogelwch gwladol; neu
(ii) at ddiben hyfforddi person i yrru cerbydau ar gyflymderau uchel;
ystyr ‘y darnau o'r cefnffyrdd’(‘the lengths of the trunk roads’) yw:
i. y darn o gefnffordd yr A470 yn Llys-wen yn Sir Powys sy'n ymestyn o bwynt 218 o fetrau i'r deorllewin o'i chyffordd â'r A479 am bellter o 840 o fetrau i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain ac yna i'r gogledd-orllewin;
ii. y darn o gefnffordd yr A479 yn Llys-wen yn Sir Powys sy'n ymestyn am 365 o fetrau i gyfeiriad y deddwyrain o'i chyffordd â'r A470;
ystyr ‘lluoedd arbennig’ (‘special forces’) yw'r unedau hynny o'r lluoedd cartref y mae Cyfarwyddwr y Lluoedd Arbennig yn gyfrifol am gynnal eu galluoedd neu sydd am y tro yn ddarostyngedig reolaeth weithredol y Cyfarwyddwr hwnnw.
(2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at erthygl â rhif yn gyfeiriad at yr erthygl sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y Gorchymyn hwn.
Cyfyngiad
3. Ni chaiff neb yrru unrhyw gerbyd, na pheri na chaniatáu i unrhyw gerbyd fynd, yn gyflymach na 30 milltir yr awr ar y darnau o'r cefnffyrdd.
Atal Dros Dro
4. Mae unrhyw ddarpariaethau statudol sy'n cyfyngu ar gyflymder cerbydau ar y darnau o'r...
To continue reading
Request your trial