Gorchymyn Cefnffyrdd yr A470 a'r A479 (Llyswen, Powys) (Terfyn Cyflymder o 30 mya a Therfyn Cyflymder Rhan-amser o 20 mya) 2017
Jurisdiction | England & Wales |
Citation | WSI 2017/284 |
Year | 2017 |
2017Rhif 284 (Cy. 76)
TRAFFIG FFYRDD, CYMRU
Gwnaed1Mawrth2017
Yn dod i rym3Mawrth2017
Mae Gweinidogion Cymru, sef yr awdurdod traffig ar gyfer Cefnffordd Caerdydd-Llangurig (yr A470) a Chefnffordd Parc Glan-wysg -Llyswen (yr A479) (‘y cefnffyrdd’), drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 84(1), (1A) a (2) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984( 1) ac ar ôl ymgynghori â Phrif Swyddog Heddlu Dyfed-Powys, yn gwneud y Gorchymyn hwn.
Enwi, Dehongli a Chychwyn
1. Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 3 Mawrth 2017 a'i enw yw Gorchymyn Cefnffyrdd yr A470 a'r A479 (Llyswen, Powys) (Terfyn Cyflymder o 30 mya a Therfyn Cyflymder Rhan-amser o 20 mya) 2017.
2. —(1) Yn y Gorchymyn hwn:
ystyr ‘cerbyd esempt’ (‘exempted vehicle’) yw:
(a) unrhyw gerbyd sy'n cael ei ddefnyddio gan y gwasanaethau brys at y dibenion a ddisgrifir yn adran 87 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984( 2);
(b) unrhyw gerbyd sy'n cael ei ddefnyddio at ddibenion y llynges, y fyddin neu'r llu awyr ac sy'n cael ei yrru gan berson sydd am y tro yn ddarostyngedig i orchmynion yr aelod o luoedd arfog y Goron, sy'n aelod o'r lluoedd arbennig—
(i) ac sydd wedi ei hyfforddi i yrru ar gyflymderau uchel ac sy'n gweithredu wrth ymateb, neu wrth ymarfer ymateb, i argyfwng diogelwch gwladol; neu
(ii) at ddiben hyfforddi person i yrru cerbydau ar gyflymderau uchel;
ystyr ‘y darn(au) o'r gefnffordd’ (‘the length(s) of the trunk road’) yw'r darnau hynny o gefnffyrdd yr A470 a'r A479 yn Llyswen yn Sir Powys a bennir yn yr Atodlenni i'r Gorchymyn hwn;
ystyr ‘lluoedd arbennig’ (‘special forces’) yw'r unedau hynny o'r lluoedd cartref y mae Cyfarwyddwr y Lluoedd Arbennig yn gyfrifol am gynnal eu galluoedd neu sydd am y tro yn ddarostyngedig reolaeth weithredol y Cyfarwyddwr hwnnw.
(2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at erthygl neu Atodlen â rhif yn gyfeiriad at yr erthygl neu'r Atodlen sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y Gorchymyn hwn.
Cyfyngiadau
3. Ni chaiff neb yrru unrhyw gerbyd modur, ac eithrio cerbyd esempt, yn gyflymach na 20 milltir yr awr ar y darn o'r gefnffordd a bennir yn Atodlen 1.
4. Ni chaiff neb yrru unrhyw gerbyd modur, ac eithrio cerbyd esempt, yn gyflymach na 30 milltir yr awr ar y darnau o'r cefnffyrdd a bennir yn Atodlen 2.
Cymhwyso
5. Nid yw'r cyfyngiadau yn erthyglau 3 a 4 yn gymwys ond ar yr adegau hynny ac i'r graddau hynny fel y'u dangosir...
To continue reading
Request your trial