Gorchymyn Cefnffyrdd yr A470 a'r A494 (Ffordd Osgoi Dolgellau, Gwynedd) (Codi Cyfyngiad a Gosod Terfynau Cyflymder 50 mya a 30 mya) 2017

JurisdictionEngland & Wales
CitationWSI 2017/486
Year2017

2017Rhif 486 (Cy. 101)

TRAFFIG FFYRDD, CYMRU

Gorchymyn Cefnffyrdd yr A470 a'r A494 (Ffordd Osgoi Dolgellau, Gwynedd) (Codi Cyfyngiad a Gosod Terfynau Cyflymder 50 mya a 30 mya) 2017

Gwnaed21Mawrth2017

Yn dod i rym22Mawrth2017

Mae Gweinidogion Cymru, sef yr awdurdod traffig ar gyfer Cefnffordd Abergwaun i Fangor (yr A470) a Chefnffordd Dolgellau i'r De o Benbedw (yr A494), drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 84(1) a (2) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984( 1) ac ar ôl ymgynghori â Phrif Swyddog Heddlu Dyfed-Powys, yn gwneud y Gorchymyn hwn.

Enwi, Dehongli a Chychwyn

1. Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 22 Mawrth 2017 a'i enw yw Gorchymyn Cefnffyrdd yr A470 a'r A494 (Ffordd Osgoi Dolgellau, Gwynedd) (Codi Cyfyngiad a Gosod Terfynau Cyflymder 50 mya a 30 mya) 2017.

2. Yn y Gorchymyn hwn:

ystyr “cerbyd esempt”(“exempted vehicle”) yw:

(a) unrhyw gerbyd sy'n cael ei ddefnyddio gan y gwasanaethau brys at y dibenion a ddisgrifir yn adran 87 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984( 2);

(b) unrhyw gerbyd sy'n cael ei ddefnyddio at ddibenion y llynges, y fyddin neu'r llu awyr ac sy'n cael ei yrru gan berson sydd am y tro yn ddarostyngedig i orchmynion yr aelod o luoedd arfog y Goron, sy'n aelod o'r lluoedd arbennig—

(i) ac sydd wedi ei hyfforddi i yrru ar gyflymderau uchel ac sy'n gweithredu wrth ymateb, neu wrth ymarfer ymateb, i argyfwng diogelwch gwladol; neu

(ii) at ddiben hyfforddi person i yrru cerbydau ar gyflymderau uchel;

ystyr “lluoedd arbennig”(“special forces”) yw'r unedau hynny o'r lluoedd arfog y mae Cyfarwyddwr y Lluoedd Arbennig yn gyfrifol am gynnal eu galluoedd neu sydd am y tro yn ddarostyngedig i reolaeth weithredol y Cyfarwyddwr hwnnw.

Codi Cyfyngiad

3. Bydd y darnau o'r gefnffordd a bennir yn Atodlen 1 yn peidio â bod yn ffordd gyfyngedig at ddibenion adran 81 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984.

Cyfyngiadau

4. Ni chaiff neb yrru unrhyw gerbyd, ac eithrio cerbyd esempt, yn gyflymach na 50 milltir yr awr ar y darnau hynny o'r gefnffordd a bennir yn Atodlen 2.

5. Ni chaiff neb yrru unrhyw gerbyd, ac eithrio cerbyd esempt, yn gyflymach na 30 milltir yr awr ar y darn o'r gefnffordd a bennir yn Atodlen 3.

Llofnodwyd o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith, un o Weinidogion Cymru.

Dyddiedig 21 Mawrth 2017

Nina Ley

Pennaeth yr Uned Fusnes, Rheoli'r Rhwydwaith

Llywodraeth Cymru

ATODLEN 1

CODI CYFYNGIAD

Y darn o Gefnffordd yr A470 sy'n ymestyn o bwynt 66 o fetrau i'r gorllewin...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT