Gorchymyn Cimychiaid a Chimychiaid Cochion (Gwahardd eu Pysgota a'u Glanio) (Cymru) 2002
Jurisdiction | UK Non-devolved |
Citation | WSI 2002/676 (Cymru) |
Year | 2002 |
2002Rhif 676 (Cy.73)
PYSGODFEYDD, CYMRU
CADWRAETH PYSGOD MôR
Gorchymyn Cimychiaid a Chimychiaid Cochion (Gwahardd eu Pysgota a'u Glanio) (Cymru) 2002
12 Mawrth 2002
1 Ebrill 2002
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 5(1), 6(1) a 15(3) o Ddeddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967( 1) , a phob pwer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw( 2), drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1. - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cimychiaid a Chimychiaid Cochion (Gwahardd eu Pysgota a'u Glanio) (Cymru) 2002 a daw i rym ar 1 April 2002.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys mewn perthynas â Chymru (fel y mae wedi'i diffinio yn adran 155(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998( 3) yn unig.
Dehongli
2. - (1) Yn y Gorchymyn hwn -
ystyr "cimwch" ("lobster") yw cimwch o'r rhywogaethHomarus gammarus
ystyr "cimwch coch" ("crawfish") yw cimwch coch o'r rhywogaethPalinurus elephas a Palinurus mauritanicus
ystyr "llabed" ("flap"), mewn perthynas â chynffon cimwch neu gimwch coch, yw unrhyw ran o dair llabed ganolog ffan cynffon y cimwch neu'r cimwch coch gan gynnwys y telson gyda'r anws a'r iwropod de a chwith yn union yn ymyl y telson;
ystyr "hollt V" ("V notch") yw marc ar siâp y llythyren "V" sy'n 5mm o leiaf o ddyfnder wedi'i dorri yn un o leiaf o iwropodau ffan cynffon cimwch neu gimwch coch, a phig y llythyren "V" wedi'i osod i mewn o ymyl y llabed;
ystyr "wedi'i lurgunio" ("mutilated"), mewn perthynas â chimwch neu gimwch coch, yw cimwch neu gimwch coch sydd wedi'i lurgunio mewn modd sy'n cuddio hollt V.
(2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr "unrhyw orchymyn cyfatebol" yw unrhyw orchymyn arall wedi'i wneud o dan adrannau 5 neu 6 o Ddeddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967, sy'n gymwys i unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig ac sy'n gwahardd pysgota am y canlynol, neu eu glanio, mewn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig:
(i) cimwch wedi'i lurgunio,(ii) cimwch coch wedi'i lurgunio,(iii) unrhyw gimwch neu gimwch coch ac arno hollt V.(3) At ddibenion y Gorchymyn hwn, pennir "y môr tiriogaethol cyfagos at Gymru" yn unol â darpariaethau adran 1 o Ddeddf Môr Tiriogaethol 1987( 4) ac ag unrhyw ddarpariaethau a wnaed, neu sy'n dwyn effaith fel pe baent wedi'u gwneud, o dan yr adran honNo. Pennir y ffin rhwng y rhannau hynny o'r môr yn Aberoedd Hafren a Dyfrdwy sydd i'w trin fel moroedd tiriogaethol cyfagos at Gymru, a'r rhannau nad ydynt i'w trin felly, yn unol ag Erthygl 6 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru...
To continue reading
Request your trial