YR ATODLEN
Erthygl 3
Addasiadau i Ddeddfau Seneddol sy'n gysylltiedig â diddymu Awdurdodau Iechyd Cymru a chreu Byrddau Iechyd Lleol
Deddfau Seneddol
1. Deddf Cymorth Gwladol 1948 (p.24)
Yn adran 26 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 (darparu llety mewn eiddo a gynhelir gan sefydliadau gwirfoddol), yn is-adran (1C) yn lle “Health Authority” rhodder “Local Health Board”.
2. Deddf Lluoedd Arfog wrth Gefn ac Atodol (Amddiffyn Buddiannau Sifil) 1951 (p.65)
Yn Rhan 1 o Atodlen 2 i Ddeddf Lluoedd Arfog Wrth Gefn ac Atodol (Amddiffyn Buddiannau Sifil) 1951 (galluoedd mewn perthynas â pha daliadau y gellir eu gwneud o dan Ran 5 ac awdurdodau sy'n talu), ym mharagraff 15 yn lle “Health Authority ”, ym mhob man y digwydd, rhodder “Local Health Board”.
3. Deddf Landlord a Thenant 1954 (p.56)
Yn adran 57 o Ddeddf Landlord a Thenant 1954 (addasiad ar sail hawliau budd cyhoeddus o dan Ran 2), yn is-adran (6) yn lle “Health Authority” rhodder “Local Health Board”.
4. Deddf Cyrff Cyhoeddus (Derbyn i Gyfarfodydd) 1960 (p.67)
Yn yr Atodlen i Ddeddf Cyrff Cyhoeddus (Derbyn i Gyfarfodydd) 1960 (cyrff y mae'r ddeddf hon yn gymwys iddynt), hepgorer paragraff (1)(f).
5. Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad 1967 (p.88)
Yn adran 28 o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad 1967 (cadw neu ailddechrau defnyddio tir sydd ei angen at ddibenion cyhoeddus), yn is-adrannau (5)(d) a (6)(c) yn lle “Health Authority” rhodder “Local Health Board”.
6. Deddf Gwasanaethau Iechyd ac Iechyd y Cyhoedd 1968 (p.46)
(1) Diwygir Deddf Gwasanaethau Iechyd ac Iechyd y Cyhoedd 1968 fel a ganlyn.
(2) Yn adran 63 (darparu cyfarwyddyd i swyddogion awdurdodau ysbytai a phersonau eraill a gyflogir, neu sy'n ystyried cyflogaeth, mewn rhai gweithgareddau sy'n gysylltiedig ag iechyd neu lles) —
(a)
(a) yn isadran (1)(a) hepgorer y geiriau “Health Authority”;
(b)
(b) yn is-adran (2)(b) yn lle “Health Authority” rhodder “Local Health Board”;
(c)
(c) yn is-adran (5A) hepgorer y geiriau “Health Authority” yn y ddau fan lle y digwydd; ac
(ch)
(ch) yn is-adran (5B) hepgorer paragraff (a).
(3) Yn adran 64 (cymorth ariannol gan y Gweinidog Iechyd a'r Ysgrifennydd Gwladol i rai sefydliadau gwirfoddol), yn is-adran (3)(b) yn lle “Health Authority” rhodder “Local Health Board”.
7. Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970 (p.42)
Yn Atodlen 1 i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970 (swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol), yn y cofnod ar gyfer Deddf Plant 1989 yn lle “health authorities” rhodder “Local Health Boards”.
8. Deddf Llywodraeth Leol 1972 (p.70)
(1) Diwygir Deddf Llywodreath Leol 1972 fel a ganlyn.
(2) Yn adran 113 (rhoi staff awdurdodau lleol at wasanaeth awdurdodau lleol eraill)—
(a)
(a) yn is-adrannau (1A), (1A)(a) a (1A)(b) yn lle “Health Authority” ym mob man y digwydd, rhodder “Local Health Board”; a
(b)
(b) yn is-adran (4) ar ôl y geiriau “In subsection (1A) above” mewnosoder ““Local Health Board” means a Local Health Board established under section 11 of the National Health Service (Wales) Act 2006”.
9. Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith etc 1974 (p.37)
Yn adran 60 o Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 (atodol), yn is-adran 1 yn lle “Health Authority” rhodder “Local Health Board”.
10. Deddf Datgymhwysiad Ty'r Cyffredin 1975 (p.24)
(1) Diwygir Deddf Datgymhwysiad Ty'r Cyffredin 1975 fel a ganlyn.
(2) Yn atodlen 1 (swyddi sy'n anghymwyso ar gyfer aelodaeth), yn Rhan 3 (swyddi eraill sy'n anghymwyso) —
(a)
(a) yn y cofnod sy'n dechrau “Chairman or any member, not being also an employee of any Strategic Health Authority, Health Authority or Special Health Authority” hepgorer y geiriau “Health Authority”; a
(b)
(b) yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosoder —
“Chairman or any member, not being also an employee, of a Local Health Board established under section 11 of the National Health Service (Wales) Act 2006.”.
11. Deddf Awdurdod Datblygu Cymru 1975 (p.70)
Yn adran 21C o Ddeddf Awdurdod Datblygu Cymru 1975 (pwerau i gynghori ynglyn â materion tir), yn is-adran (2)(f) yn lle “Health Authority” rhodder “Local Health Board”.
12. Deddf Cysylltiadau Hiliol 1976 (p.74)
(1) Diwygir Deddf Cysylltiadau Hiliol 1976 fel a ganlyn.
(2) Yn Atodlen 1A (cyrff a phersonau eraill sy'n ddarostyngedig i ddyletswydd statudol gyffredinol), yn Rhan 1 (categorïau gwreiddiol cyrff a phersonau eraill) —
(a)
(a) ym mharagraff 5 hepgorer y geiriau “or a Health Authority”; a
(b)
(b) ar ôl paragraff 5 mewnosoder —
“5A. A Local Health Board established under section 11 of the National Health Service (Wales) Act 2006.”.
13. Deddf Iechyd Meddwl 1983 (p.20)
(1) Diwygir Deddf Iechyd Meddwl 1983 fel a ganlyn.
(2) Yn adran 23 (rhyddhau cleifion) —
(a)
(a) yn is-adran (3) yn lle “Health Authority”, yn y ddau fan lle y digwydd, rhodder “Local Health Board”;
(b)
(b) yn is-adran (4) ar ôl “trust”, ym mhob man y digwydd, rhodder “, board”;
(c)
(c) yn adran (5) yn y geiriau cyn paragraff (a) ar ol “trust”, yn y ddau fan lle y digwydd, mewnosoder “, board”; a
(ch)
(ch) yn is-adran (5)(a) —
(i) yn lle “Health Authority”, yn y ddau fan lle y digwydd, rhodder “Local Health Board”;
(ii) yn lle “or trust” yn y ddau fan lle y digwydd, rhodder, “, trust or board”; a
(iii) yn lle “such members (of the authority, trust, committee or sub-committee” rhodder “such members (of the authority, trust, board, committee or sub-committee”.
(3) Yn adran 24 (ymweld ac archwilio cleifion), yn is-adran (3) yn lle “Health Authority”, yn y ddau fan lle y digwydd, rhodder “Local Health Board”.
(4) Yn adran 25A (cais am oruchwyliaeth), yn is-adrannau (6), (7) a (8) yn lle “Health Authority”, ym mhob man y digwydd, rhodder “Local Health Board”.
(5) Yn adran 25C (ceisiadau am oruchwyliaeth: atodol), yn is-adran (6) yn lle “Health Authority” rhodder “Local Health Board”.
(6) Yn adran 25F (ailddosbarthu claf yn ddarostyngedig i ôl-ofal o dan oruchwyliaeth), yn is-adran (1) yn lle “Health Authority” rhodder “Local Health Board”.
(7) Yn adran 32 (rheoliadau at ddibenion Rhan 2), yn is-adran (3) —
(a)
(a) yn lle “Health Authorities” rhodder “Local Health Boards”; a
(b)
(b) ar ôl “managers” mewnosoder “, boards,”.
(8) Yn adran 39 (gwybodaeth am ysbytai) —
(a)
(a) yn is-adran (1) yn lle “Health Authority” ym mhob man y digwydd, rhodder “Local Health Board”;
(b)
(b) yn is-adran 1(b) yn lle “any other” rhodder “the National Assembly for Wales or any other”;
(c)
(c) yn is-adran (1) cyn y geiriau “have or can reasonably” mewnosoder “or National Assembly for Wales”; a
(ch)
(ch) yn is-adran (1) cyn y geiriau “shall comply with any such request” mewnosoder “or National Assembly for Wales”.
(9) Yn adran 117 (ôl-ofal) yn is-adrannau (2), (2A) a (3) yn lle “Health Authority”, ym mhob man y digwydd, rhodder “Local Health Board”.
(10) Yn adran 134 (gohebiaeth cleifion), yn is-adran 3(e) yn lle “Health Authority” rhodder “Local Health Board”.
(11) Yn adran 139 (diogelu camau gweithredu a wneir yn unol â'r ddeddf hon), yn is-adran (4) yn lle “Health Authority” rhodder “Local Health Board”.
(12) Yn adran 140 (hysbysu ysbytai sydd â threfniadau ar gyfer derbyn achosion brys), yn lle “Health Authority”, ym mhob man y digwydd, rhodder, “Local Health Board”.
(13) Yn adran 145 (dehongli), yn is-adran (1) —
(i)
(i) yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosoder —
““Local Health Board” means a Local Health Board established under section 11 of the National Health Services (Wales) Act 2006;”; a
(ii)
(ii) yn y diffiniad o “the managers” yn lle “Health Authority” rhodder “Local Health Board”.
14. Deddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 (p.22)
(1) Diwygir Deddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 fel a ganlyn.
(2) Yn adran 1 (awdurdodau sy'n gweinyddu'r ddeddf), yn is-adran (4)(b) yn lle “Health Authorities” rhodder “Local Health Boards”.
(3) Yn adran 11 (achosion o glefydau hysbysadwy a gwenwyn bwyd i gael eu cofnodi), yn is-adrannau (3)(a) a (3)(b)(ii) yn lle “Health Authority”, ym mhob man y digwydd, rhodder “Local Health Board”.
(4) Yn adran 12 (ffioedd ar gyfer tystysgrifau o dan s11), yn is-adran (1) yn lle “Health Authority” rhodder “Local Health Board”.
(5) Yn adran 13 (rheoliadau ar gyfer rheoli clefydau arbennig), yn is-adran (4)(a) yn lle “Health Authorities” rhodder “Local Health Boards”.
(6) Yn adran 37 (symud person sydd â chlefyd hysbysadwy i'r ysbyty) —
(a)
(a) yn is-adrannau (1)(c) a (1A) yn lle “Health Authority”, ym mhob man y digwydd, rhodder “Local Health Board”; a
(b)
(b) yn is-adran (1)(c) cyn y geiriau “or other person” mewnosoder “, Local...