Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012

JurisdictionWales
CitationSI 2012/801

2012Rhif 801 (Cy.110)

CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU

Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012

10 Mawrth 2012

13 Mawrth 2012

30 Ebrill 2012

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 59, 61(1), 61A, 62, 65, 69, 71, 74, 77, 78, 79(4), 188, 193, 196(4), 293A a 333(7) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990( 1) a pharagraffau 1 a 2 o Atodlen 1A, ac Atodlen 4A i'r Ddeddf honno, sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy( 2) a thrwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 88 a 122(3) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004( 3), sydd hefyd bellach yn arferadwy ganddynt hwy( 4), yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

RHAN 1

Rhagarweiniol

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.-(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012, a daw i rym ar 30 Ebrill 2012.

(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i'r holl dir yng Nghymru, ond os yw tir yn destun gorchymyn datblygu arbennig( 5), pa un a wnaed y gorchymyn datblygu arbennig cyn neu ar ôl cychwyn y Gorchymyn hwn, bydd y Gorchymyn hwn yn gymwys i'r tir hwnnw i'r cyfryw raddau yn unig, ac yn ddarostyngedig i'r cyfryw addasiadau, a bennir yn y gorchymyn datblygu arbennig.

(3) Nid oes dim yn y Gorchymyn hwn sy'n gymwys i unrhyw ganiatad yr ystyrir iddo gael ei roi o dan adran 222 o Ddeddf 1990 (dim angen caniatad cynllunio ar gyfer hysbysebion sy'n cydymffurfio a rheoliadau).

Dehongli

2.-(1) Yn y Gorchymyn hwn-

mae "adeilad" ("building") yn cynnwys unrhyw adeiledd neu adeiladwaith ac unrhyw ran o adeilad fel y'i diffinnir yn yr erthygl hon, ond nid yw'n cynnwys unrhyw beiriannau neu beirianwaith nac unrhyw adeiledd o natur peiriant neu beirianwaith;

ystyr "arwynebedd llawr ("floor space") yw cyfanswm arwynebedd y lloriau mewn adeilad neu adeiladau;

mae i "cais AEA", "datblygiad AEA", "gwybodaeth amgylcheddol" a "datganiad amgylcheddol" yr un ystyron a roddir yn eu trefn i "EIA application", "EIA development", "environmental information" ac "environmental statement" yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effaith Amgylcheddol) (Cymru a Lloegr) 1999( 6);

ystyr "caniatad cynllunio amlinellol" ("outline planning permission") yw caniatad cynllunio ar gyfer codi adeilad, a roddir yn ddarostyngedig i amod sy'n ei gwneud yn ofynnol cael cymeradwyaeth yr awdurdod cynllunio lleol yn ddiweddarach mewn perthynas ag un neu ragor o faterion a gadwyd yn ôl;

mae "codi" ("erection"), mewn perthynas ag adeiladau fel y'u diffinnir yn yr erthygl hon, yn cynnwys estyn, newid neu ailgodi;

mae i "cyfathrebiad electronig" yr ystyr a roddir i "electronic communication" gan adran 15(1) o Deddf Cyfathrebiadau Electronig 2000 (dehongli cyffredinol)( 7);

ystyr "datblygiad gwastraff" ("waste development") yw (a) unrhyw ddatblygiad gweithredol a fwriadwyd i'w ddefnyddio'n gyfan gwbl neu'n bennaf at y diben o drin, storio, prosesu neu waredu sbwriel neu ddeunyddiau gwastraff, neu (b) newid defnydd perthnasol i drin, storio, prosesu neu waredu sbwriel neu ddeunyddiau gwastraff;

ystyr "datblygiad mawr" ("major development") yw datblygiad( 8) sy'n cynnwys unrhyw un neu ragor o'r canlynol-

(a) ennill a gweithio mwynau neu ddefnyddio tir ar gyfer dyddodion o weithfeydd mwynau( 9);(b) datblygiad gwastraff;(c) darparu tai annedd-(i) pan fo nifer y tai annedd sydd i'w darparu yn 10 neu ragor; neu(ii) pan fwriedir cyflawni'r datblygiad ar safle sydd a'i arwynebedd yn 0.5 hectar neu'n fwy ac nad yw'n hysbys a yw'r datblygiad yn dod o fewn is-baragraff (c)(i);(ch) darparu adeilad neu adeiladau lle mae'r arwynebedd llawr y bwriedir ei greu gan y datblygiad yn 1,000 metr sgwar neu ragor; neu(d) datblygiad a gyflawnir ar safle sydd a'i arwynebedd yn 1 hectar neu'n fwy;

ystyr "Deddf 1990" ("the 1990 Act") yw Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990;

ystyr "Deddf 2004" ("the 2004 Act") yw Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004;

ystyr "drwy arddangos ar y safle" ("by site display") yw drwy osod yr hysbysiad ynghlwm yn gadarn wrth wrthrych a leolir ac a arddangosir mewn modd sy'n caniatáu i aelodau'r cyhoedd weld yr hysbysiad a'i ddarllen yn hawdd;

ystyr "fflat" ("flat") yw mangre ar wahan a hunangynhwysol, a adeiladwyd neu a addaswyd i'w defnyddio fel annedd, ac sy'n rhan o adeilad ac wedi ei gwahanu'n llorweddol oddi wrth ran arall o'r adeilad hwnnw;

ystyr "graddfa" ("scale") yw uchder, lled a hyd pob adeilad arfaethedig o fewn y datblygiad, mewn perthynas a'i amgylchoedd;

ystyr "gweithrediadau mwyngloddio" ("mining operations") yw ennill a gweithio mwynau mewn, ar, neu o dan y tir, drwy weithio ar yr wyneb neu'n danddaearol;

ystyr "llunwedd" ("layout") yw'r ffordd y darperir, y lleolir ac y gogwyddir adeiladau, llwybrau a mannau agored o fewn y datblygiad, mewn perthynas a'i gilydd ac mewn perthynas ag adeiladau a mannau agored y tu allan i'r datblygiad;

ystyr "materion a gedwir yn ôl" a "materion a gadwyd yn ôl" ("reserved matters") mewn perthynas a chaniatad cynllunio amlinellol neu gais am ganiatad o'r fath, yw unrhyw rai o'r materion canlynol, na roddwyd manylion ohonynt yn y cais-

(a) mynediad;(b) ymddangosiad;(c) tirlunio;(ch) llunwedd; a(d) graddfa, o fewn y terfynau uchaf ac isaf o ran uchder, lled a hyd pob adeilad a ddatgenir yn y cais am ganiatad cynllunio yn unol ag erthygl 3(4);

ystyr "mynediad" ("access"), mewn perthynas a materion a gadwyd yn ôl, yw hygyrchedd wrth fynd i mewn ac oddi mewn i safle, ar gyfer cerbydau, beiciau a cherddwyr, o ran lleoli a thrin y llwybrau mynediad a chylchredeg a'r modd y maent yn cydasio a'r rhwydwaith mynediad o amgylch; ac ystyr "safle" ("site") yw'r safle neu'r rhan o'r safle y rhoddwyd caniatad cynllunio amlinellol mewn perthynas ag ef neu hi, neu, yn ôl fel y digwydd, y gwnaed cais am ganiatad o'r fath mewn perthynas ag ef neu hi;

ystyr "tirlunio" ("landscaping"), mewn perthynas a safle, neu unrhyw ran o safle, y rhoddwyd caniatad cynllunio amlinellol ar ei gyfer neu ar ei chyfer, neu, yn ôl fel y digwydd, y gwnaed cais am ganiatad o'r fath, yw trin y tir (ac eithrio adeiladau) at y diben o wella neu ddiogelu amwynderau'r safle a'r ardal y'i lleolir ynddi, ac y mae'n cynnwys-

(a) sgrinio drwy ddefnyddio ffensys, waliau neu ddulliau eraill;(b) plannu coed, gwrychoedd, llwyni neu laswellt;(c) ffurfio cloddiau, terasau neu gloddweithiau cyffelyb;(ch) llunweddu neu ddarparu gerddi, cyrtiau, sgwariau, arweddion dwr, cerfluniau neu gelfyddyd gyhoeddus; a(d) darparu arweddion amwynder eraill;

nid yw "ty annedd" ("dwellinghouse") yn cynnwys adeilad ag ynddo un neu ragor o fflatiau, nac ychwaith fflat oddi mewn i adeilad o'r fath; ac

ystyr "ymddangosiad" ("appearance") yw'r agweddau ar adeilad neu le o fewn y datblygiad sy'n penderfynu'r argraff weledol a wneir gan yr adeilad neu'r lle, gan gynnwys ffurf adeiledig allanol y datblygiad, ei bensaernïaeth, y deunyddiau, yr addurniad, y goleuo, y lliw a'r gwead.

(2) Yn y Gorchymyn hwn ac mewn perthynas a defnyddio cyfathrebiadau electronig neu storio electronig at unrhyw un o ddibenion y Gorchymyn hwn y gellir ei gyflawni'n electronig-

(a) mae'r ymadrodd "cyfeiriad" ("address") yn cynnwys unrhyw rif neu gyfeiriad a ddefnyddir at ddiben cyfathrebiadau neu storio o'r fath ac eithrio, pan fo'r Gorchymyn hwn yn gosod rhwymedigaeth ar unrhyw berson i ddarparu enw a chyfeiriad i unrhyw berson arall, na chyflawnir y rhwymedigaeth oni fydd y person y'i gosodir arno yn darparu cyfeiriad post; a(b) mae cyfeiriadau at ddogfennau, mapiau, planiau, lluniadau, tystysgrifau neu ddogfennau eraill, neu at gopïau o'r cyfryw bethau, yn cynnwys cyfeiriadau at y cyfryw ddogfennau neu gopïau ohonynt mewn ffurf electronig.

(3) Mae paragraffau (4) i (7) yn gymwys pan fo person yn defnyddio cyfathrebiad electronig at y dibenion canlynol-

(a) cyflawni unrhyw ofyniad yn y Gorchymyn hwn i roi neu anfon unrhyw gais, hysbysiad neu ddogfen arall i, neu at, unrhyw berson arall; neu(b) cyflwyno unrhyw gais, tystysgrif neu ddogfen arall, y cyfeirir atynt yn erthygl 22(3), i awdurdod cynllunio lleol,

ac yn y paragraffau hynny, ystyr "y derbynnydd" ("the recipient") yw'r person a grybwyllir yn is-baragraff (a) o'r paragraff hwn neu'r awdurdod cynllunio lleol, yn ôl fel y digwydd.

(4) Nid ystyrir bod y gofyniad wedi ei gyflawni, neu (yn ôl fel y digwydd) bod y cais wedi ei gyflwyno neu ddogfen arall wedi ei chyflwyno onid yw'r ddogfen a drawsyrrir gan y cyfathrebiad electronig-

(a) yn un y gall y derbynnydd gael mynediad iddi;(b) yn ddarllenadwy ym mhob modd perthnasol; ac(c) yn ddigon parhaol i'w defnyddio i gyfeirio ati yn ddiweddarach.

(5) Ym mharagraff (4), ystyr "darllenadwy ym mhob modd perthnasol" ("legible in all material respects") yw fod yr wybodaeth a gynhwysir yn yr hysbysiad neu ddogfen ar gael i'r derbynnydd i raddau dim llai nag y byddai pe bai wedi ei rhoi neu'i hanfon ar ffurf dogfen brintiedig.

(6) Os yw'r derbynnydd yn cael y cyfathrebiad electronig y tu allan i oriau busnes y derbynnydd, ystyrir ei fod wedi cael y cyfathrebiad ar y diwrnod gwaith dilynol; ac at y diben hwn, ystyr "diwrnod gwaith" ("working day") yw diwrnod nad yw'n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul, yn wyl Banc nac yn wyl gyhoeddus arall.

(7) Mae gofyniad, yn y Gorchymyn hwn, bod unrhyw gais, hysbysiad neu ddogfen arall mewn ysgrifen wedi ei fodloni os yw'r ddogfen yn bodloni'r meini prawf ym mharagraff (4), a rhaid dehongli "ysgrifenedig" ("written") ac ymadroddion cytras yn unol a hynny.

RHAN 2

Ceisiadau

Ceisiadau am ganiatad cynllunio amlinellol

3.-(1) Pan wneir cais i'r awdurdod cynllunio lleol am ganiatad cynllunio amlinellol, caiff yr awdurdod roi caniatad yn ddarostyngedig i amod sy'n pennu materion a gedwir yn ôl, ar gyfer eu cymeradwyo yn ddiweddarach gan yr awdurdod.

(2) Os yw awdurdod cynllunio lleol sydd i benderfynu cais am ganiatad cynllunio amlinellol, o'r farn, yn amgylchiadau'r achos, na ddylid ystyried y cais ar wahan i'r cyfan neu unrhyw rai o'r materion a gedwir yn ôl...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT