Gorchymyn Deddf Lleoliaeth 2011 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2012

JurisdictionWales
CitationWSI 2012/193 (Cymru)
Year2012

2012Rhif 193 (Cy.31) (C.6)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Gorchymyn Deddf Lleoliaeth 2011 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2012

25 Ionawr 2012

31 Ionawr 2012

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 240(3) o Ddeddf Lleoliaeth 2011( 1).

Enwi a chymhwyso

1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Lleoliaeth 2011 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2012 ac mae'n gymwys o ran Cymru.

Darpariaethau sy'n dod i rym ar 31 Ionawr 2012

2. Daw darpariaethau canlynol Deddf Lleoliaeth 2011 i rym ar 31 Ionawr 2012-

(a) adrannau 38 i 43 (atebolrwydd o ran cyflogau);(b) adran 69 (ardrethu annomestig; rhyddhad yn ôl disgresiwn).

Carl Sargeant

Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, un o Weinidogion Cymru.

25 Ionawr 2012

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Hwn yw'r Gorchymyn Cychwyn cyntaf i gael ei wneud gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Lleoliaeth 2011 ("y Ddeddf").

Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn yn dwyn i rym, ar 31 Ionawr 2012, adrannau 38 i 43 o'r Ddeddf sy'n ymwneud ag atebolrwydd o ran cyflogau, ac adran 69 sy'n ymwneud a rhyddhad yn ôl disgresiwn o ardrethu annomestig.

(1) 2011 p.20.

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT