O F F E R Y N N A U S T A T U D O L C Y M R U
2009Rhif 579 (Cy.55) (C.50)
TRAFNIDIAETH, CYMRU
Gorchymyn Deddf Trafnidiaeth Leol 2008 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2009
9 Mawrth 2009
1 Ebrill 2009
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 134(6) o Ddeddf Trafnidiaeth Leol 2008 1, yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi, cymhwyso a dehongli
1.-
(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Trafnidiaeth Leol 2008 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2009 ac mae'n gymwys o ran Cymru.
(2) Yn y Gorchymyn hwn-
ystyr "Deddf 1985" (the 1985 Act) yw Deddf Trafnidiaeth 1985; 2; ac
ystyr "Deddf 2000" (the 2000 Act) yw Deddf Trafnidiaeth 2000 3;
ystyr "y Ddeddf" (the Act) yw Deddf Trafnidiaeth Leol 2008;
Cychwyn ar ddarpariaethau trafnidiaeth leol o ran Cymru
2.1 Ebrill 2009 yw'r diwrnod penodedig ar gyfer dyfod i rym y darpariaethau canlynol o'r Ddeddf, yn ddarostyngedig i'r darpariaethau trosiannol a restrir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn-
(a) Adran 7, ac yn unol â hynny Atodlen 1.(b) Adran 8 i adran 12 yn gynhwysol.(c) Adran 13(1) ( i'r graddau y mae'n ymwneud ag adran 13(2)) ac adran 13(2).(ch) Adran 46, ac yn unol â hynny, Atodlen 2.(d) Adran 64.(dd) Adran 65(1).(e) Adran 68(1) ( i'r graddau y mae'n ymwneud ag adran 68(3)) ac adran 68(3).(f) Adran 69 i adran 71 yn gynhwysol.(ff) Adran 75.(g) Adran 103 i adran 108 yn gynhwysol.(ng) Adran 109, ac, yn unol â hynny, Atodlen 5.(h) Adran 110 i adran 111 yn gynhwysol.(i) Adran 112(1).(j) Adran 113(1) i (4) yn gynhwysol.(l) Adran 114.(ll) Adran 115(1) i (2) yn gynhwysol.(m) Adran 116(1) i (3) yn gynhwysol.(n) Adran 117(1).(o) Adran 118(1) i (5) yn gynhwysol.(p) Adran 121 (i'r graddau y mae'n ymwneud â Rhan 1 o Atodlen 6) a Rhan 1o Atodlen 6.
|
Ieuan Wyn Jones
Y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru.
|
9 Mawrth 2009 |
|
DARPARIAETHAU TROSIANNOL
1.Er gwaethaf dyfod i rym adran 10 o'r Ddeddf, bydd strategaeth fysiau a baratowyd gan awdurdod trafnidiaeth lleol yn unol ag adran 110 o Ddeddf 2000 (strategaethau bysiau) yn parhau i gael effaith o ran adran 124(1)(a) o'r Ddeddf honno (cynlluniau contractau o ansawdd).
2.Er gwaethaf dyfod i rym adran 64 o'r Ddeddf, bydd adran 155 o Ddeddf 2000 (cosbau) yn parhau i fod yn gymwys yng Nghymru heb y diwygiadau a wnaed gan adran 64 o'r Ddeddf o ran cosbau a osodir gan gomisiynydd traffig yn erbyn gweithredydd gwasanaeth lleol os yw'r comisiynydd traffig hwnnw wedi'i fodloni fod y gweithredydd...