O F F E R Y N N A U S T A T U D O L C Y M R U
2011Rhif 433 (Cy.62)
TRAFFIG FFYRDD, CYMRU
Gorchymyn Dynodi Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Sir Powys) 2011
15 Chwefror 2011
18 Chwefror 2011
1 Ebrill 2011
Gwneir y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan baragraff 8(1) o Atodlen 8 a pharagraff 3(1) o Atodlen 10 i Ddeddf Rheoli Traffig 2004( 1), ac a freiniwyd bellach yng Ngweinidogion Cymru( 2).
Mae Cyngor Sir Powys wedi gwneud cais i Weinidogion Cymru wneud gorchymyn o dan y pwerau hyn mewn cysylltiad a rhan o'i ardal.
Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori a phrif swyddog Heddlu Dyfed Powys yn unol a gofynion paragraffau 8(3) o Atodlen 8 a 3(4) o Atodlen 10 i Ddeddf Rheoli Traffig 2004.
Yn unol a hynny, mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn.
Enwi a chychwyn
1.Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Dynodi Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Sir Powys) 2011 a daw i rym ar 1 Ebrill 2011.
Dynodi ardal gorfodi sifil ac ardal gorfodi arbennig
2.Mae Gweinidogion Cymru yn dynodi'r ardal a ddisgrifir yn yr Atodlen yn-
(a) ardal gorfodi sifil ar dramgwyddau parcio; a(b) ardal gorfodi arbennig.
|
Ieuan Wyn Jones
Y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru
|
15 Chwefror 2011 |
|
YR ATODLEN
Erthygl 2
Ardal a ddynodir yn ardal gorfodi sifil ar dramgwyddau parcio ac yn ardal gorfodi arbennig
Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i'r cyfan o Sir Powys ac eithrio'r darn o ffordd sydd wedi ei adeiladu o fewn Ardal Hyfforddi Pontsenni, Pontsenni yn Sir Powys sy'n rhedeg o gyffordd ffyrdd C45 ac L167 wrth bwynt tua 0.6 cilometr i'r dwyrain o Dirabad ac yn croesi Mynydd Bwlch-y-Groes mewn cyfeiriad de-orllewinol cyffredinol hyd at ei chyffordd a'r ffordd ddosbarth C49 wrth Church Hill wrth bwynt tua 1.85 cilometr i'r gogledd-orllewin o Lywel, pellter o tua 11.7 o gilometrau i gyd.
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dynodi'r ardal a ddisgrifir yn yr Atodlen yn ardal gorfodi sifil ac yn ardal gorfodi arbennig at ddibenion Rhan 6 o Ddeddf Rheoli Traffig 2004. Effaith ymarferol y Gorchymyn yw galluogi Cyngor Sir Powys i orfodi'r gyfraith ar dramgwyddau parcio o fewn yr ardal a ddisgrifir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn drwy gyfundrefn cyfraith sifil, yn...