Gorchymyn Hysbysu ynghylch Tatws sy'n Deillio o'r Almaen (Cymru) 2001

JurisdictionUK Non-devolved
CitationWSI 2001/3541 (Cymru)
Year2001

2001 Rhif 3541 (Cy.288)

IECHYD PLANHIGION, CYMRU

Gorchymyn Hysbysu ynghylch Tatws sy'n Deillio o'r Almaen (Cymru) 2001

29 Hydref 2001

30 Hydref 2001

Drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 2(1) a (2), 3(1), (2) a (4) a 4(1) o Ddeddf Iechyd Planhigion 1967(1) , fel y'i darllenir gydag adran 20 o Ddeddf Amaethyddiaeth (Darpariaethau Amrywiol) 1972(2), ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(3), mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Teitl, cymhwyso a chychwyn

1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Hysbysu ynghylch Tatws sy'n Deillio o'r Almaen (Cymru) 2001, bydd yn gymwys i Gymru, a daw i rym ar 30 Hydref 2001.

Dehongli

2. - (1) Yn y Gorchymyn hwn -

ystyr "yr Almaen" ("Germany") yw Gweriniaeth Ffederal yr Almaen;

ystyr "arolygydd" ("inspector") yw unrhyw berson sydd wedi'i awdurdodi i fod yn arolygydd at ddibenion y prif Orchymyn;

ystyr "y prif Orchymyn" ("the principal Order") yw Gorchymyn Iechyd Planhigion (Prydain Fawr) 1993(4),

ystyr "sy'n deillio o'r Almaen" ("originating in Germany") yw wedi'u tyfu yn yr Almaen yn ystod y flwyddyn 2001 neu ar ôl hynny;

ystyr "taten" ("potato") yw unrhyw gloronen solanum tuberosum L. neu unrhyw had gwirioneddol neu blanhigyn arall ohono neu unrhyw rywogaeth arall o'r genws Solanum L. sy'n ffurfio cloron neu unrhyw gymysgryw ohono;

mae i "tatws Almaenaidd" ("German potatoes") yr ystyr a roddir iddo yn erthygl 3(1); ac

ystyr "taten hadyd" ("seed potato") yw unrhyw daten sydd wedi'i bwriadu i'w phlannu.

(2) Mae cyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at erthygl â rhif yn gyfeiriad at yr erthygl sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y Gorchymyn hwn oni ddywedir fel arall.

Hysbysu ynghylch mewnforion

3. - (1) Ni chaiff neb fewnforio i Gymru datws Almaenaidd, hynny yw, unrhyw datws y maent yn gwybod neu y mae ganddynt sail resymol dros gredu eu bod wedi deillio o'r Almaen, oni bai eu bod wedi rhoi hysbysiad ysgrifenedig i arolygydd, o leiaf ddau ddiwrnod cyn y dyddiad yr oeddent yn bwriadu cyflwyno'r tatws i Gymru, ynghylch eu bwriad i fewnforio'r tatws ac ynghylch:

(a) amser, dyddiad a dull arfaethedig eu cyflwyno;(b) y man arfaethedig ar gyfer dod â hwy i mewn i Gymru;(c) y defnydd arfaethedig ar y tatws;(ch) yn achos tatws hadyd neu datws sydd wedi'u bwriadu i'w prosesu, cyrchfan arfaethedig y tatws;(d) rhywogaeth y tatws;(dd) y maint o datws; ac(e) rhif adnabod y cynhyrchydd neu gyfeirnod y lot.

(2) Rhaid i unrhyw berson a fewnforiodd datws Almaenaidd i...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT