Gorchymyn Iechyd Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2001

JurisdictionUK Non-devolved
CitationWSI 2001/3761 (Cymru)
Year2001

2001Rhif 3761 (Cy.310)

IECHYD PLANHIGION, CYMRU

Gorchymyn Iechyd Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2001

20 Tachwedd 2001

17 Rhagfyr 2001

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 2, 3 a 4(1) o Ddeddf Iechyd Planhigion 1967( 1) fel y'u darllenir gydag adran 20 o Ddeddf Amaethyddiaeth (Darpariaethau Amywiol) 1972( 2) ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru( 3) drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol.

Teitl, cymhwyso a chychwyn

1. Teitl y Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Iechyd Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2001, bydd yn gymwys i Gymru yn unig a daw i rym ar 17 Rhagfyr 2001.

Diwygio Gorchymyn Iechyd Planhigion (Prydain Fawr) 1993

2. - (1) Diwygir Gorchymyn Iechyd Planhigion (Prydain Fawr) 1993( 4) yn unol â pharagraffau (2) i (16) isod.

(2) Yn erthygl 2(1):

(a) Yn lle'r diffiniad o "Directive 77/93/EEC" rhoddir y testun canlynol:

" "Directive 2000/29/EC" means Council Directive 2000/29/EC( 5) of 8th May 2000 on protective measures against the introduction into the Community of organisms harmful to plants or plant products and against their spread within the Community as amended by Commission Directive 2001/33/EC amending certain annexes to Council Directive 2000/29/EC;"( 6) a

(b) Yn y diffiniad o "protected zone", ym mharagraff (a) yn lle "Directive 77/93/EEC" rhoddir "Directive 2000/29/EC"; ac yn y geiriau sy'n dilyn paragraff (b) yn lle "Article 16a of Directive 77/99/EEC" rhoddir "Article 18 of Directive 2000/29/EC".

(3) Yn erthygl 30, yn lle "Directive 77/93/EEC" rhoddir "Directive 2000/29/EC".

(4) Yn Atodlen 1, Rhan B(a) (Pryfed, Euddon a Nematodau, ym Mhob Cyfnod yn eu Datblygiad):

(a) yn eitem 1, yn yr ail golofn, dilëir "DK"; a(b) yn eitem 2, yn lle'r testun yn yr ail golofn rhoddir y testun canlynol:

" Spain (Ibiza and Menorca), Ireland, Portugal (Azores and Madeira), Finland (districts of åland, Håme, Kymi, Pirkanmaa, Satakunta, Turku, Uusimaa), Sweden (counties of Blekinge, Gotlands, Halland, Kalmar and Skåne), United Kingdom",

(5) Yn Atodlen 1, Rhan B(d) (Organeddau Firws ac Organeddau Tebyg i Firysau), yn eitem 2, yn yr ail golofn, dilëir "DK".

(6) Yn Atodlen 2, Rhan B(a) (Pryfed, Euddon a Nematodau, ym Mhob Cyfnod yn eu Datblygiad):

(a) Yn eitem 5, yn y drydedd golofn, yn lle "EL,P" rhoddir y testun canlynol "EL, P (Azores; district of Beja: all concelhos; district of Castelo Branco: concelhos de Castelo Branco, Fundao and Penamacôr, Idanha-a-Nova; district of Évora with the exception of concelhos de Montemcor-o-Novo, Mora and Vendas Novas; district of Faro: all concelhos; district of Portalegre: concelhos de Arronches, Campo Maior, Elvas, Fronteira, Monforte and Sousel)"; a(b) Dilëir eitem 8.

(7) Yn Atodlen 2, Rhan B(b) (Bacteria) yn eitem 2, yn lle'r testun yn y drydedd golofn, rhoddir y testun canlynol:

" E, F...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT