Gorchymyn Llywodraeth Leol (Dangosyddion Perfformiad Gwerth Gorau) (Cymru) 2002

JurisdictionUK Non-devolved
CitationWSI 2002/757 (Cymru)
Year2002

2002Rhif 757 (Cy.80)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Gorchymyn Llywodraeth Leol (Dangosyddion Perfformiad Gwerth Gorau) (Cymru) 2002

19 Mawrth 2002

1 Ebrill 2002

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwer a roddwyd iddo gan adrannau 4(1)(a) a (2) a 29(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999( 1) a hynny ar ôl yr ymgynghori y mae adran 4(3) o'r Ddeddf honno yn gofyn amdano.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1. - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Llywodraeth Leol (Dangosyddion Perfformiad Gwerth Gorau) (Cymru) 2002 a daw i rym ar 1 Ebrill 2002.

(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.

Diddymu

2. Diddymir Gorchymyn Llywodraeth Leol (Dangosyddion Perfformiad Gwerth Gorau) (Cymru) 2001( 2).

Dehongli

3. Yn y Gorchymyn hwn -

ystyr "awdurdod gwerth gorau" ("best value authority") yw'r canlynol:

- mewn perthynas â Rhan 1 o'r Tabl yn Erthygl 4, cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol, gan gynnwys, lle bo'n briodol, y cynghorau hynny yn gweithredu fel awdurdodau gwaredu gwastraff

- mewn perthynas â Rhan 2 o'r Tabl hwnnw, awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol.

Dangosyddion Perfformiad

4. Rhaid i berfformiad awdurdod gwerth gorau wrth arfer ei swyddogaethau gael ei fesur drwy gyfeirio at y dangosyddion perfformiad a bennir yn y Tabl isod mewn perthynas â'r swyddogaethau a nodir yn y Tabl.

TABL

Swyddogaethau'r Awdurdodau Gwerth Gorau a'r Dangosyddion Perfformiad y Mesurir Perfformiad y Swyddogaethau hynny drwyddynt

Rhan 1

Llywodraeth Gorfforaethol

Pob dangosydd yn Atodlen 1

Addysg

Pob dangosydd yn Atodlen 2

Gwasanaethau Cymdeithasol

Pob dangosydd yn Atodlen 3

Tai

Pob dangosydd yn Atodlen 4

Gwasanaethau'r Amgylchedd

Pob dangosydd yn Atodlen 5

Trafnidiaeth

Pob dangosydd yn Atodlen 6

Cynllunio

Pob dangosydd yn Atodlen 7

Iechyd Amgylcheddol a Safonau Masnach

Pob dangosydd yn Atodlen 8

Gwasanaethau Diwylliannol a Pherthynol

Pob dangosydd yn Atodlen 9

Budd-dâl Tai a Budd-dâl Treth Gyngor

Pob dangosydd yn Atodlen 11

Diogelwch Cymunedol Trawsbynciol

Pob dangosydd yn Atodlen 12

Rhan 2

Llywodraeth Gorfforaethol Awdurdod Parciau Cenedlaethol

Pob dangosydd yn Atodlenni 7 a 10

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998( 3)

John Marek

Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

19 Mawrth 2002

ATODLEN 1

Erthygl 4

DAGOSYDDION LLYWODRAETH GORFFORAETHOL

Rhif y Dangosydd

Disgrifiad y dangosydd

NAWPI 1.1

Lefelau cydymffurfio â chynllun Iaith Gymraeg yr awdurdod gwerth gorau a gadarnhawyd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg.

NAWPI 1.2

Lefel safon y Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol ar gyfer llywodraeth leol y mae'r awdurdod gwerth gorau yn cydymffurfio â hi.

NAWPI 1.3

Nifer y cwynion i Ombudsmon a ddosbarthwyd fel camweinyddu.

NAWPI 1.4

Y gyfran o'r gofrestr etholiadol a bleidleisiodd mewn etholiadau lleol (fel canran).

NAWPI 1.5

Y ganran o gydadweithiau â'r cyhoedd, yn ôl y math o weithrediad, y gellir eu cyflwyno drwy wasanaeth electronig sy'n cael eu cyflwyno wrth ddefnyddio rhyngrwyd a dulliau dibapur eraill.

NAWPI 1.6

Y ganran o anfonebau diddadl a dalwyd gan yr awdurdod gwerth gorau o fewn 30 diwrnod iddynt ddod i law.

NAWPI 1.7

Swm y dreth gyngor a gafwyd yn y flwyddyn ariannol fel canran o gyfanswm y debyd ar gyfer y flwyddyn ariannol.

NAWPI 1.8

Swm yr ardrethi annomestig a gafwyd, yn glir o ad-daliadau yn y flwyddyn adrodd fel canran o'r ardrethi gros sy'n daladwy yn y flwyddyn ariannol, wedi'i addasu ar gyfer rhyddhad trosiannol, yn llai rhyddhad ar eiddo bach a phob rhyddhad gorddewisol a gorfodol.

NAWPI 1.9

Y ganran o swyddi rheoli uwch a ddelir gan fenywod. Dylid eithrio'r holl staff mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod gwerth gorau o'r cyfrif hwn.

NAWPI 1.10

Y nifer o'r dyddiau gwaith neu sifftiau am bob cyflogai cyfwerth amser llawn a gollwyd trwy absenoldeb oherwydd salwch gan weithwyr parhaol yr awdurdod gwerth gorau.

NAWPI 1.12

Ymddeoliadau ar sail afiechyd fel canran o weithlu'r awdurdod gwerth gorau.

NAWPI 1.13

Nifer y staff sy'n datgan eu bod yn ateb y diffiniad o anabledd yn Neddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995 (p.50) fel canran o weithlu'r awdurdod gwerth gorau.

NAWPI 1.14

Y nifer o weithwyr o gymunedau ethnig lleiafrifol o fewn gweithlu'r awdurdod gwerth gorau fel canran o gyfanswm gweithlu'r awdurdod.

NAWPI 1.15

Y ganran o adeiladau'r awdurdod gwerth gorau sy'n agored i'r cyhoedd ac sy'n addas ac yn hygyrch i bobl anabl.

NAWPI 1.16

Digwyddiadau hiliol

(a) nifer y digwyddiadau hiliol a gofnodir gan yr awdurdod gwerth gorau am bob 100,000 o'i boblogaeth

(b) y ganran o'r digwyddiadau hiliol a arweiniodd at weithredu pellach.

NAWPI 1.17

Y nifer o leoedd mewn lloches rhag trais domestig am bob 10,000 o'r boblogaeth a ddarperir neu a gefnogir gan yr awdurdod gwerth gorau.

ATODLEN 2

Erthygl 4

DANGOSYDDION ADDYSG

Rhif y Dangosydd

Disgrifiad y dangosydd

NAWPI 2.1

Cyfartaledd sgôr pwyntiau TGAU/GNVQ plant 15/16 oed mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod gwerth gorau.

NAWPI 2.2

Canran y disgyblion mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod gwerth gorau yn yr haf blaenorol a enillodd 5 TGAU neu ragor gyda graddau A* i C neu gymhwyster galwedigaethol cyfatebol.

NAWPI 2.3

Canran y disgyblion mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod gwerth gorau yn yr haf blaenorol a enillodd un TGAU neu ragor gyda gradd G neu uwch neu gymhwyster galwedigaethol cyfatebol.

NAWPI 2.4

Canran y plant 11 oed mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod gwerth gorau yn yr haf flaenorol a enillodd:

(a) Lefel 4 neu'n uwch na hynny ym mhrawf Mathemateg Cyfnod Allweddol 2 y Cwricwlwm Cenedlaethol.

(b) Lefel 4 neu'n uwch na hynny ym mhrawf Saesneg Cyfnod Allweddol 2 y Cwricwlwm Cenedlaethol.

(c) Lefel 4 neu'n uwch na hynny ym mhrawf Cymraeg (iaith gyntaf) Cyfnod Allweddol 2 y Cwricwlwm Cenedlaethol.

(ch) Lefel 4 neu'n uwch na hynny ym mhrawf Gwyddoniaeth Cyfnod Allweddol 2 y Cwricwlwm Cenedlaethol.

NAWPI 2.5

Canran y plant 14 oed mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod gwerth gorau yn yr haf flaenorol a enillodd:

(a) Lefel 5 neu'n uwch na hynny ym mhrawf Mathemateg Cyfnod Allweddol 3 y Cwricwlwm Cenedlaethol.

(b) Lefel 5 neu'n uwch na hynny ym mhrawf Saesneg Cyfnod Allweddol 3 y Cwricwlwm Cenedlaethol.

(c) Lefel 5 neu'n uwch na hynny ym mhrawf Cymraeg (iaith gyntaf) Cyfnod Allweddol 3 y Cwricwlwm Cenedlaethol.

(ch) Lefel 5 neu'n uwch na hynny ym mhrawf Gwyddoniaeth Cyfnod Allweddol 3 y Cwricwlwm Cenedlaethol.

NAWPI 2.6

Canran y plant 15/16 oed sy'n ennill y "dangosydd pwnc craidd" - y disgyblion hynny sy'n ennill gradd C o leiaf mewn TGAU, Saesneg neu Gymraeg, Mathemateg a Gwyddoniaeth mewn cyfuniad.

NAWPI 2.7

Canran y plant 15/16 oed sy'n ymadael ag addysg amser-llawn heb gymhwyster cydnabyddedig.

NAWPI 2.8

Nifer y disgyblion a waharddwyd yn barhaol yn ystod y flwyddyn o ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod gwerth gorau am bob 1000 o ddisgyblion ar gofrestri ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod gwerth gorau:

(a) mewn ysgolion cynradd.

(b) mewn ysgolion uwchradd.

(c) mewn ysgolion arbennig.

NAWPI 2.11

Y ganran o'r disgyblion a waharddwyd yn barhaol sy'n dilyn:

(a) llai na 10 awr yr wythnos o addysgu arall

(b) rhwng 10 a 25 awr yr wythnos o addysgu arall

(c) rhagor na 25 awr yr wythnos o addysgu arall.

NAWPI 2.12

Y ganran o'r dosbarthiadau ysgol gynradd gyda mwy na 30 disgybl yn y blynyddoedd:

(a) derbyn i ddau yn gynwysedig

(b) tri i chwech.

NAWPI 2.13(a) Nifer y datganiadau a gyhoeddwyd yn ystod y flwyddyn

(b) Y ganran o'r datganiadau anghenion addysgol arbennig, gan eithrio y rhai a gyfrifir yn "eithriadau i'r rheol" yn unol â'r Cod Ymarfer AAA (Anghgenion Addysg Arbennig):

(i) a baratowyd o fewn 18 wythnos,

(ii) a orffenwyd o fewn 26 wythnos.

NAWPI 2.14

Y ganran o bresenoldeb y rhai sy'n mynychu ysgolion uwchradd neu sydd yno yn cymryd rhan mewn gweithgareddau addysgiadol sydd wedi'u cymeradwyo.

ATODLEN 3

Erthygl 4

DANGOSYDDION Y GWASANAETHAU CYMDEITHASOL

Rhif y Dangosydd

Disgrifiad y dangosydd

NAWPI 3.1

Sefydlogrwydd lleoliadau'r plant yn derbyn gofal gan yr awdurdod gwerth gorau drwy gyfeirio at ganran y plant sy'n derbyn gofal ar 31 Mawrth a gafodd dri lleoliad neu ragor yn ystod y flwyddyn ariannol.

NAWPI 3.2

Cymwysterau addysgol plant sy'n derbyn gofal gan yr awdurdod gwerth gorau drwy gyfeirio at y ganran o'r bobl ifanc 16 oed a throsodd a ymadawodd â gofal gyda'r nifer isod o TGAU gradd A* i G neu Gymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol Cyffredinol (GNVQ):

(a) un neu ragor

(b) dau neu ragor.

NAWPI 3.3

Y gyfran o bobl ifanc mewn gofal ar eu pen-blwydd yn 16 oed y mae ganddynt gynllun gofal a/neu gynllun llwybr fel sy'n addas ar gyfer eu gofal parhaol.

NAWPI 3.4

Canran y lleoliadau cyntaf (i blant sy'n derbyn gofal) sy'n dechrau gyda chynllun gofal wedi'i sefydlu.

NAWPI 3.5

Costau gwasanaethau i blant sy'n derbyn gofal gan awdurdod gwerth gorau drwy gyfeirio at wariant wythnosol gros am bob plentyn y gofelir amdano, mewn gofal maeth neu gartref i blant.

NAWPI 3.6

Y gost o ddarparu gwasanaethau cymdeithasol i oedolion drwy gyfeirio at gost gros bob wythnos am:

(a) gofal cartrefi preswyl a nyrsio

(b) gofal cartref.

NAWPI 3.7

Y gyfradd o'r bobl hyn (65 oed neu drosodd) y rhoddwyd cymorth iddynt fyw gartref am bob 1,000 o boblogaeth yr awdurdod gwerth gorau sy'n 65 oed neu drosodd.

NAWPI3.8

Y gyfradd o drosglwyddiadau gofal a ohirir am resymau gofal cymdeithasol am bob 1000 o'r boblogaeth 75 oed neu drosodd yn yr awdurdod gwerth gorau.

NAWPI 3.9

Y ganran o oedolion o gleientau sy'n cael datganiad o'u hanghenion a sut y byddant yn cael eu diwallu.

NAWPI 3.10

Y gyfradd o asesiadau o bobl 65 oed a throsodd am bob 1000 o'r boblogaeth 65 oed neu drosodd yn yr awdurdod gwerth gorau.

NAWPI 3.11

Nifer y nosweithiau o ofal seibiant a ddarperir neu a gyllidir gan yr awdurdod gwerth gorau am bob 1,000 o'r boblogaeth 18 oed neu drosodd yn yr awdurdod.

NAWPI 3.12

Y ganran o'r plant ar y gofrestr amddiffyn plant y dylid wedi adolygu eu hachosion...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT