Gorchymyn Llywodraeth Leol (Dangosyddion Perfformiad Gwerth Gorau) (Cymru) 2001
Jurisdiction | UK Non-devolved |
Citation | WSI 2001/1337 (Cymru) |
Year | 2001 |
2001 Rhif 1337 (Cy.83)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Gorchymyn Llywodraeth Leol (Dangosyddion Perfformiad Gwerth Gorau) (Cymru) 2001
27 Mawrth 2001
1 Ebrill 2001
Mae Atodlenni l i 12 yn manylu ar y dangosyddion rhagnodedig ar gyfer y gwahanol swyddogaethau fel a ganlyn:
Atodlen 1 - Llywodraeth Gorfforaethol
Atodlen 2 - Addysg
Atodlen 3 - Gwasanaethau Cymdeithasol
Atodlen 4 - Tai
Atodlen 5 - Gwasanaethau'r Amgylchedd
Atodlen 6 - Trafnidiaeth
Atodlen 7 - Cynllunio
Atodlen 8 - Iechyd Amgylcheddol a Safonau Masnach.
Atodlen 9 - Gwasanaethau Diwylliannol a Pherthynol
Atodlen 10 - Llywodraeth Gorfforaethol Awdurdod Parciau Cenedlaethol
Atodlen 11 - Budd-dal Tai a Budd-dal y Dreth Gyngor
Atodlen 12 - Diogelwch Cymunedol Trawsbynciol
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwêer a roddwyd iddo gan adrannau 4(1)(a) a (2) a 29(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999(a) a hynny ar ôl yr ymgynghori y mae adran 4(3) o'r Ddeddf honno yn gofyn amdano.
Enwi, Cychwyn a Chymhwyso
1.-(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Llywodraeth Leol (Dangosyddion Perfformiad Gwerth Gorau) (Cymru) 2001 a daw i rym ar 1 Ebrill 2001. (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.
Diddymu
2. Diddymir Gorchymyn Llywodraeth Leol (Dangosyddion Perfformiad Gwerth Gorau) (Cymru) 2000(b).
Dehongli
3. Yn y Gorchymyn hwn-
ystyr "awdurdod gwerth gorau" ("best value authority") yw'r canlynol:
- mewn perthynas â rhan 1 o'r Tabl yn erthygl 4, cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol, gan gynnwys, lle bo'n briodol, y cynghorau hynny yn gweithredu fel awdurdodau gwaredu gwastraff
- mewn perthynas â rhan 2 o'r Tabl hwnnw, awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol
Dangosyddion Perfformiad
4. Rhaid i berfformiad awdurdod gwerth gorau wrth arfer ei swyddogaethau gael ei fesur drwy gyfeirio at y dangosyddion perfformiad a bennir yn y Tabl isod mewn perthynas â'r swyddogaethau a nodir yn y Tabl.
TABL
Swyddogaethau'r Awdurdodau Gwerth Gorau a'r Dangosyddion Perfformiad y Mesurir Perfformiad y Swyddogaethau hynny drwyddynt
Rhan 1
Llywodraeth Gorfforaethol
Pob dangosydd yn Atodlen 1
Addysg
Pob dangosydd yn Atodlen 2
Gwasanaethau Cymdeithasol
Pob dangosydd yn Atodlen 3
Tai
Pob dangosydd yn Atodlen 4
Gwasanaethau'r Amgylchedd
Pob dangosydd yn Atodlen 5
Trafnidiaeth
Pob dangosydd yn Atodlen 6
Cynllunio
Pob dangosydd yn Atodlen 7
Iechyd Amgylcheddol a Safonau Masnach
Pob dangosydd yn Atodlen 8
Gwasanaethau Diwylliannol a Pherthynol
Pob dangosydd yn Atodlen 9
Budd-dal Tai a Budd-dal y Dreth Gyngor
Pob dangosydd yn Atodlen 11
Diogelwch Cymunedol Trawsbynciol
Pob dangosydd yn Atodlen 12
Rhan 2
Llywodraeth Gorfforaethol Awdurdod Parciau Cenedlaethol
Pob dangosydd yn Atodlenni 10 a 7
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(a).
27 Mawrth 2001
D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
Erthygl 4
ATODLEN 1
DANGOSYDDION PERFFORMIAD CYFFREDINOL
Rhif y Dangosydd |
Disgrifiad y dangosydd |
Manylion y dangosydd |
NAWPI 1.1 |
Lefel cydymffurfio â chynllun Iaith Gymraeg yr awdurdod gwerth gorau a gymeradwywyd yn ôl yr adroddiad i Fwrdd yr Iaith Gymraeg. |
Mae lefel gyffredinol cydymffurfio â Chynllun Iaith Gymraeg cymeradwy yr awdurdod gwerth gorau fel y'i cadarnhawyd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg fel a ganlyn: Cyflwyno gwasanaethau: da iawn; da; gweddol; gwael Rheoli'r cynllun: da iawn; da; gweddol; gwael lle gellir ychwanegu 'ac/ond yn gwella' neu 'ac/ond yn dirywio' at lefel y perfformiad lle bo'n gymwys. |
NAWPI 1.2 |
Lefel safon y Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol ar gyfer llywodraeth leol y mae'r awdurdod gwerth gorau yn cydymffurfio â hi. |
Diffinnir lefelau'r safon ar gyfer llywodraeth leol yn y bennod sy'n dwyn y teitl "Measurements" yn nogfennau'r Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol sy'n dwyn y teitlau "Auditing for Equality" a "Racial Equality means Quality". Dylai awdurdodau gwerth gorau gyflwyno adroddiad fel a ganlyn ar y lefel y maent wedi'i chyrraedd :- Lefel 1: Mae'r awdurdod gwerth gorau wedi ysgrifennu datganiad polisi ar hiliaeth. Lefel 2: Mae gan yr awdurdod gwerth gorau gynllun gweithredu ar gyfer monitro a llwyddo yn ei bolisi cydraddoldeb hiliol. Lefel 3: Defnyddir canlyniadau monitro ethnig yn erbyn y polisi cydraddoldeb a lefel ymgynghori â chymunedau lleol i adolygu polisi cyffredinol yr awdurdod gwerth gorau. Lefel 4: Gall yr awdurdod gwerth gorau ddangos gwelliannau clir yn ei wasanaethau yn sgil monitro, ymgynghori â chymunedau lleol, a gweithredu yn ôl ei bolisïau cyfleoedd cyfartal. Lefel 5: Mae'r awdurdod gwerth gorau yn enghraifft o ymarfer gorau yn y ffordd y mae'n monitro ac yn darparu gwasanaethau i leiafrifoedd ethnig, ac yn helpu awdurdodau gwerth gorau eraill i gyrraedd safonau uchel. Rhaid cael cadarnhad bod yr awdurdod gwerth gorau wedi cyrraedd y lefel hon gan y Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol. |
Er mwyn cyflwyno adroddiad ar y lefelau hyn, rhaid bod awdurdod gwerth gorau wedi mabwysiadu safon y Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol ar gyfer llywodraeth leol. Os nad yw'r awdurdod gwerth gorau wedi mabwysiadu'r safon hon, dylai adrodd fel a ganlyn: "Nid yw'r awdurdod hwn wedi mabwysiadu safon y Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol ar gyfer llywodraeth leol". |
||
NAWPI 1.3 |
Nifer y cwynion i Ombudsman a ddosberthir fel camweinyddu. |
Nifer yr achosion a gofnodwyd ac yr adroddwyd arnynt i'r awdurdodau gan y Comisiwn dros Weinyddu Lleol yng Nghymru ac a ddosberthir fel "camweinyddu'n achosi anghyfiawnder" neu "camweinyddu". |
NAWPI 1.4 |
Nifer canrannol y rhai a bledleisiodd mewn etholiadau lleol. |
Diffinnir "nifer y rhai a bleidleisiodd" fel y gyfran ar y gofrestr etholwyr sy'n pledleisio mewn unrhyw etholiad yn y flwyddyn ac eithrio is-etholiadau unigol. Pan nad oes etholiad yn y flwyddyn ariannol honno, dylai'r awdurdodau gwerth gorau adrodd nifer y rhai a bleidleisiodd yn yr etholiad diweddaraf un. |
NAWPI 1.5 |
Y ganran o gydadweithiau â'r cyhoedd, yn ôl math o darfodaeth, y gellir eu cyflwyno drwy wasanaeth electronig sydd yn cael eu cyflwyno wrth ddefnyddio protocolau rhyngrwyd a dulliau dibapur eraill. |
Ystyr cydadweithau yw unrhyw gysylltiad rhwng dinesydd ac awdurdod gwerth gorau gan gynnwys (yn ôl y math): . Darparu gwybodaeth . Casglu cyllid . Darparu budd-daliadau a grantiau . Ymgynghori . Rheoleiddio (megis rhoi trwyddedau) . Ceisiadau am wasanaethau . Archebu lleoedd, adnoddau a chyrsiau . Talu am nwyddau a gwasanaethau . Darparu mynediad i rwydweithiau . cymunedol, proffesiynol a busnes ac adrannau caffael Dylid diffinio 100% o fewn strategaeth e-lywodraeth yr awdurdod gwerth gorau i gymryd amgylchiadau lleol i ystyriaeth yn seilieXdig ar y rhestr lawn o wasanaethau y mae'r awdurdod gwerth gorau yn gyfrifol amdanynt a'r mathau o gydadweithiau sy'n berthnasol i bob gwasanaeth. Mae'r dangosydd yn rhagdybio y gellir galluogi pob gwasanaeth ar gyfer cyflwyno electronig onid oes rheswm cyfreithiol neu weithredol pam na ellir gwneud hyn. Ystyr "electronig" yw cyflwyno drwy brotocolau rhyngrwyd a dulliau Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (ICT) eraill ac mae'n cynnwys cyflwyno dros y ffôn os yw'r drafodaeth wedi'i galluogi'n electronaidd h.y. mae'r swyddog sy'n derbyn yr alwad yn gallu cael gafael ar wybodaeth electronig ac/neu yn diweddaru cofnodion ar-lein yn y fan a'r lle. |
NAWPI 1.6 |
Y ganran o anfonebau diddadl a dalwyd gan yr awdurdod gwerth gorau o fewn 30 diwrnod ar ôl derbyn yr anfonebau gan yr awdurdod gwerth gorau. |
Er mwyn cael y ganran hon bydd angen i'r awdurdod gwerth gorau rannu nifer yr holl anfonebau am nwyddau a gwasanaethau masnachol a dalwyd i gontractwyr a chyflenwyr allanol o fewn 30 diwrnod o'u derbyn yn ystod y flwyddyn ariannol, â chyfanswm yr holl anfonebau a dalwyd gan yr awdurdod gwerth gorau yn y flwyddyn honno, a lluosi'r canlyniad â 100. Caiff yr awdurdodau gwerth gorau ddiystyru anfonebau a anfonwyd i ysgolion ac a dalwyd o gyllidebau a ddirprwywyd i ysgolion. Yn y dangosydd hwn, ac at ddibenion canfod a yw'r awdurdod gwerth gorau wedi talu'r anfoneb o fewn y cyfnod o 30 diwrnod, bydd y cyfnod yn dechrau ar yr adeg y cafwyd yr anfoneb gan yr awdurdod gwerth gorau (nid adran dalu'r awdurdod gwerth gorau). Yna, bydd yr awdurdod gwerth gorau yn talu'r anfoneb honno o fewn 30 diwrnod. Mae talu'n cynnwys - . anfon siec neu offeryn talu arall; . hysbysu'r banc ar gyfer taliadau trwy gyfrwng Gwasanaeth Clirio Awtomatig y Bancwyr; neu . prosesu'r taliad gan y banc os yw'r awdurdod gwerth gorau yn pennu cyfnod y mae'r banc i wneud y taliadau ar ei ôl cyn gynted ag y mae'n cael tâp Gwasanaeth Clirio Awtomatig y Bancwyr (BACS). Pan nad yw'r awdurdod gwerth gorau yn cofnodi'r dyddiad y mae'n cael yr anfoneb, dylai ychwanegu dau ddiwrnod at ddyddiad yr anfoneb oni bai ei fod wedi samplu anfonebau yn ystod y flwyddyn honno er mwyn cael cyfnod mwy cywir i'w ychwanegu at y dyddiad. Os defnyddir samplu, dylai'r sampl fod yn nodweddiadol yn fras o'r holl anfonebau a geir gan adrannau gwahanol ac ar adegau gwahanol o'r flwyddyn, a dylai gynnwys o leiaf 500 anfoneb. Os ceir anfoneb cyn i'r gwasanaethau gael eu darparu neu i'r nwyddau ddod i law, mae'r 30 diwrnod neu unrhyw gyfnod arall y cytunir arno yn dechrau pan geir y nwyddau'n foddhaol neu pan gwblheir y gwasanaethau'n foddhaol. |
NAWPI 1.7 |
Swm y dreth gyngor a gafwyd yn y flwyddyn ariannol fel canran o gyfanswm y debyd ar gyfer y flwyddyn ariannol. |
Ni ddylai swm y dreth gyngor a geir gynnwys unrhyw ôl-ddyledion treth gyngor a geir mewn perthynas â blynyddoedd cyn y flwyddyn ariannol, nac unrhyw ragdaliadau o dreth gyngor mewn perthynas â blynyddoedd yn dilyn y flwyddyn ariannol. Ni ddylai cyfanswm y debyd ar gyfer y flwyddyn ariannol gynnwys unrhyw ôl- ddyledion treth gyngor sy'n ddyledus mewn perthynas â blynyddoedd cyn y flwyddyn ariannol. Dylai pob ffigur beidio â chynnwys budd-daliadau neu ad-daliadau treth gyngor, p'un a delir hwy gan lywodraeth leol neu gan y llywodraeth ganolog. |
NAWPI 1.8 |
Swm yr ardrethi... |
To continue reading
Request your trial