Gorchymyn Llywodraeth Leol (Dangosyddion Perfformiad Gwerth Gorau) (Cymru) 2005

JurisdictionUK Non-devolved
CitationWSI 2005/665 (Cymru)
Year2005

2005Rhif 665 (Cy.55)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Gorchymyn Llywodraeth Leol (Dangosyddion Perfformiad Gwerth Gorau) (Cymru) 2005

8 Mawrth 2005

1 Ebrill 2005

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ar ôl iddo ymgynghori â'r personau hynny y mae'n ofynnol, gan adran 4(3) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999( 1), iddo ymgynghori â hwy, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 4(1)(a) a (2) ac adran 29(1) o'r Ddeddf honno .

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1. - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Llywodraeth Leol (Dangosyddion Perfformiad Gwerth Gorau) (Cymru) 2005 a daw i rym ar 1 Ebrill 2005.

(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru yn unig.

Dangosyddion Perfformiad

2. Y dangosyddion perfformiad a bennir ar gyfer cynghorau sir a chynghorau bwrdeistrefi sirol, gan gynnwys, pan fo hynny'n briodol, dangosyddion perfformiad o ran swyddogaethau a arferir ganddynt fel awdurdodau gwaredu gwastraff, o ran y swyddogaethau a nodir yn y tabl isod, yw'r dangosyddion perfformiad a roddir yn y tabl hwnnw.

TABL

Swyddogaethau'r Awdurdodau Gwerth Gorau a'r Dangosyddion Perfformiad y Mesurir Perfformiad y Swyddogaethau hynny drwyddynt

Gwasanaethau Cymdeithasol

Pob dangosydd yn Atodlen 1

Tai

Pob dangosydd yn Atodlen 2

Addysg

Pob dangosydd yn Atodlen 3

Rheoli Gwastraff

Pob dangosydd yn Atodlen 4

Trafnidiaeth/Priffyrdd

Pob dangosydd yn Atodlen 5

Diogelu'r Cyhoedd

Pob dangosydd yn Atodlen 6

Effeithlonrwydd Ynni

Pob dangosydd yn Atodlen 7

Budd-daliadau Tai a Budd-daliadau Dreth Gyngor

Pob dangosydd yn Atodlen 8

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998( 2).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

8 Mawrth 2005

ATODLEN 1

Erthygl 2

DANGOSYDDION GWASANAETHAU CYMDEITHASOL

Rhif y Dangosydd

Prif ddangosydd

NS1

Cyfradd yr oedi wrth drosglwyddo gofal am resymau gofal cymdeithasol fesul 1,000 o'r boblogaeth sy'n 75 oed neu drosodd.

NS2

Cyfradd y bobl oedrannus (65 oed neu drosodd):

(a) y rhoddwyd cymorth iddynt i fyw gartref, fesul 1,000 o'r boblogaeth sy'n 65 oed neu drosodd; a

(b) y mae'r awdurdod yn eu cefnogi mewn cartrefi gofal fesul 1,000 o'r boblogaeth sy'n 65 oed neu drosodd.

NS3

(a) canran y lleoliadau cyntaf i blant sy'n derbyn gofal yn ystod y flwyddyn a ddechreuodd gyda chynllun gofal ar waith; a

(b) ar gyfer y plant hynny sy'n derbyn gofal yr oedd eu hail adolygiad (a oedd i fod ar ôl 4 mis) i fod wedi'i gwblhau yn ystod y flwyddyn, canran gyda chynllun ar gyfer sefydlogrwydd adeg y dyddiad priodol.

NS4

Canran y plant sy'n derbyn gofal ar 31 Mawrth sydd â phrofiad o symud ysgol unwaith neu fwy yn ystod cyfnod neu gyfnodau o dderbyn gofal, nad oedd y symud hwnnw oherwydd trefniadau trosiannol, yn y 12 mis hyd at 31 Mawrth.

ATODLEN 2

DANGOSYDDION TAI

Rhif y Dangosydd

Prif ddangosydd

NS5

(a) Nifer y teuluoedd digartref gyda phlant sy'n defnyddio llety gwely a brecwast, ac eithrio mewn argyfyngau; a

(b) cyfartaledd nifer y dyddiau y mae pob aelwyd ddigartref yn treulio mewn llety dros dro.

NS6

Cyfartaledd nifer y dyddiau gwaith rhwng cyflwyno person fel person digartref i'rawdurdod a chyflawni dyletswydd yr awdurdod at aelwydydd a geir yn ystatudol ddigartref.

NS7

Canran yr anheddau anffit yn y sector preifat a wnaed yn ffit, a gaewyd neu a ddymchwelwyd o ganlyniad i gamau gweithredu uniongyrchol gan yr awdurdod lleol.

NS8

Nifer gyfartalog fesul 1000 o'r boblogaeth o'r canlynol:

(i) unedau o gymorth fel y bo'r angen;

(ii) lleoedd gwely y gellir eu cael yn uniongyrchol;

(iii) lleoedd gwely mewn llety preswyl dros dro;

(iv) lleoedd gwely mewn llety preswyl parhaol;

(v) lleoedd gwely mewn llety gwarchod i bobl hyn; a

(vi) gwasanaethau larwm cymunedol.

ATODLEN 3

DANGOSYDDION ADDYSG

Rhif y Dangosydd

Prif ddangosydd

NS9

Canran presenoldeb y disgyblion mewn ysgolion uwchradd.

NS10

Nifer a chanran:

(i) yr holl ddisgyblion (gan gynnwys y rheini sydd yng ngofal awdurdod lleol); a

(ii) y disgyblion sydd yng ngofal awdurdod lleol, sydd mewn unrhyw sefydliad dysgu a gynhelir gan awdurdod lleol, sy'n cyrraedd 16 oed yn ystod y flwyddyn ysgol ac sy'n ymadaelag addysg, hyfforddiant neu ddysgu seiliedig ar waith, llawn...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT